REFRESHERS: Gwirfoddoli yn Aber

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Er mwyn rhoi amlinelliad o gyfleoedd gwirfoddoli yn Aber, gofynnwyd i staff a thîm swyddogion UM am eu profiadau o wirfoddoli yn Aberystwyth a’u hintiau handi ar gyfer cael y gorau o wirfoddoli:

 

Pa gyfleoedd gwirfoddoli sydd yn Aberystwyth, yn yr UM ac o gartref?

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli (sydd wedi'u diweddaru i adlewyrchu cyfleoedd 'cydnaws â COVID') ar adran gwirfoddoli ein gwefan.

Mae gennym syniadau hefyd am sut y gallwch chi helpu o gartref.

Cyn bo hir byddwn hefyd yn recriwtio ar gyfer y Tîm-A, yn barod i groesawu'r garfan newydd o fyfyrwyr ym mis Medi.

Mae llawer o'n clybiau chwaraeon a chymdeithasau  yn darparu ystod o gyfleoedd gwirfoddoli, boed hynny trwy eu gweithgareddau yn uniongyrchol neu trwy gyfleoedd ychwanegol. Yn ogystal, gwirfoddolwyr yw holl aelodau pwyllgorau’r clybiau a chymdeithasau; maent yn rhoi o'u hamser er budd bywydau myfyrwyr Aberystwyth.

Yn ogystal, mae yna hefyd ddigon o ffyrdd i wirfoddoli yn y gymuned leol: o gymryd rhan mewn “ras trwy’r parc” yn Aberystwyth i helpu mewn siopau elusennol lleol.


Pan oeddech chi'n fyfyriwr, a wnaethoch chi wirfoddoli? Os do, sut wnaethoch chi elwa o wirfoddoli?


Martin - Cymorth a Chynrychiolaeth i Fyfyrwyr

Fel swyddog gwirfoddol yn yr UM, roedd yn gyfle i gynnig cymorth i fyfyrwyr nad oedd efallai wedi cael y cyfleoedd a gefais i, gan wneud y campws ac addysgu yn lle gwell. Mewn rôl yn trefnu adloniant ar y campws, roeddwn i’n gallu trefnu digwyddiadau a gweithgareddau oedd yn dod â myfyrwyr at ei gilydd a chymdeithasu. Yn y pen draw, cefais yrfa mewn Undebau Myfyrwyr ac AU allan o’r profiad!

Amie - Derbynfa a Chydlynydd Cyllid

Fe wnes i wirfoddoli gyda’r gwasanaethau prawf, cylchoedd cefnogaeth ac atebolrwydd, gwasanaethau ieuenctid a gyda’r heddlu fel cwnstabl arbennig. Roedd yn brofiad boddhaus ac fe helpodd o ran datblygu sgiliau yn barod ar gyfer bywyd gwaith ar ôl bod yn y brifysgol. Fe roddodd gyfle i mi dyfu fel person.

Amy - Cydlynydd Academaidd a Gwirfoddoli

Roeddwn i'n rhan o Gymdeithas Gwirfoddoli Cadwraeth Aberystwyth; roedd yn wych oherwydd ei fod yn gyfle i fynd y tu allan i Aberystwyth i wneud tasgau awyr agored am ddiwrnod llawn, a byddem ni'n dysgu am reoli safle a sut i ddefnyddio offer. Roeddwn i hefyd yn aelod o bwyllgor y Gymdeithas Fioleg a'r Clwb Octopush. Doeddwn i erioed wedi bod yn gyfrifol am sicrhau llwyddiant grwp o'r blaen, felly roeddwn i bob amser yn gwneud fy ngorau i wneud yn siwr y byddem yn cael teithiau a/neu gystadlaethau llwyddiannus. Roedd gorfod ysgrifennu pethau fel asesiadau risg a sicrhau bod pawb yn ddiogel yn teimlo fel cyfrifoldeb mawr. Roedd bod yn rhan o bwyllgor yn help mawr i wella fy hyder a sgiliau trefnu.

Tom - Cydlynydd Datblygu Cymdeithasau

Pan oeddwn yn fyfyriwr, cymerais ran mewn pob math o weithgareddau oedd yn ymwneud â'r amgylchedd. Roeddwn i’n aelod o bwyllgor y Gymdeithas Arddwriaethol ar gyfer Tyfu Organig, yn ogystal â chymdeithas oedd yn ymroddedig i gynnal gardd fotaneg y brifysgol. Un o'r rolau gorau i mi ymgymryd â hi oedd cynnig cymorth i gymheiriaid yn fy adran. Roedd yn gyfle i gwrdd â chymaint o bobl anhygoel, ac agorodd hyn gymaint o ddrysau i mi ar gyfer y dyfodol. O'r cysylltiadau a ffurfiwyd, i'r profiadau a gefais, roedd yn allweddol mewn adeiladu fy CV.

 

Beth oedd eich profiad mwyaf buddiol wrth wirfoddoli?

Molly - Cynghorydd

Trwy weithio gyda phobl hyn ddi-waith i'w helpu i greu CV a chwilio am gyfleoedd gwaith, cwrddais â rhai pobl ddiddorol iawn o bob cwr o'r byd, pobl oedd â straeon bywyd anhygoel.

Amie

Helpu troseddwyr ifanc i drosglwyddo o wasanaethau troseddu ieuenctid i wasanaethau prawf. Eu helpu i adeiladu ffordd o fyw mwy cynaliadwy, a dilyn llwybrau iachach. Helpu gyda'u CV, ceisiadau am le mewn coleg ac agor cyfrifon banc, llety, a.y.b. Roedd yn brofiad gwerth chweil eu gweld nhw’n tyfu ac yn datblygu.

Amy

Roedd gwirfoddoli ar gyfer cynllun treecycle yn ddiwrnod arbennig iawn! Crëwyd y fath ysbryd cymunedol gwych, a helpodd i godi swm enfawr o arian i'r hosbis leol.
 

Tom

I mi, mae gweld y budd y mae’r hyn rwyf wedi’i wneud yn ei gael ar y byd yn brofiad boddhaol. Fy hoff beth wrth fod yn rhan o unrhyw gyfle, yn benodol fel aelod o bwyllgor a chynorthwyydd cymheiriaid, yw gweld unigolion yn tyfu ynddynt eu hunain yn sgil yr hyn rydw i'n helpu i'w ddarparu. Dyna ran fwyaf buddiol fy swydd o hyd: gweld aelodau pwyllgor yn tyfu fel unigolion yn eu rôl.

 

 

Yn eich geiriau eich hun, pam ddylai myfyrwyr wirfoddoli? Beth yw'r buddion yn eich barn chi?

Nate - Llywydd

Mae'n edrych yn wych ar CV; cewch gwrdd â phobl newydd a chymryd rhan yn y gymuned.

Catrin - Rheolwr Cyllid

Cyfle i gwrdd â phobl newydd a gwneud cysylltiadau y tu allan i'r brifysgol.

Martin

Gall fod yn gyfle i wneud gwahaniaeth ym mha bynnag ffordd rydych chi’n ei dewis; mae hefyd yn aml yn eich galluogi i wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a chael profiadau sy’n gallu bod yn hwyl.

Molly

Mae'n ffordd wych o ennill profiad gwaith ymarferol; cyfle da i rwydweithio a gall fod yn gyfle i fyfyrwyr gwrdd â phobl o bob cefndir a phrofi pethau na fydden nhw erioed wedi'u gwneud fel arall.

Amie

Cyfle i ddatblygu perthnasoedd â'r gymuned, rhyngweithio â grwp amrywiol o bobl a chwarae rhan yn y gymuned. Cyfle posib i ddysgu siarad Cymraeg. Adeiladu hyder a sgiliau.

Cleo - Cydlynydd Cyfathrebu

Mae gwirfoddoli yn helpu i gynyddu eich hyder, nid yn unig am eich bod yn ennill profiad o fywyd go iawn (y gellir ei ychwanegu at eich CV), ond gallwch hefyd ennill sgiliau newydd ac mae'n gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd.

Amy

Mae gwirfoddoli yn hollol wahanol i weithgareddau eraill, oherwydd eich bod chi eisiau gwneud gwahaniaeth neu helpu achos sy'n bwysig i chi. Mae cymaint o wahanol ffyrdd y gallwch chi wirfoddoli, a sut bynnag rydych chi'n dewis rhoi o’ch amser; nid yn unig y byddwch chi'n datblygu sgiliau ac yn cwrdd â phobl eraill, bydd bron bob amser yn codi'ch ysbryd ac yn gwneud i chi deimlo eich bod chi wedi cyfrannu'n gadarnhaol tuag at rywbeth. Dyma’r teimlad cadarnhaol sy’n dod yn sgil gallu helpu rhywun arall :)

Yn Aber, gallwch hefyd ennill cydnabyddiaeth am eich gwirfoddoli trwy weithio tuag at Gwobr Aber

Tom

Ble ydw i'n dechrau?!

Popeth o'r bobl rydych chi'n cwrdd â nhw, y profiadau rydych chi'n eu cael, i'r atgofion rydych chi'n eu creu. Mae’n wir nad yw pob elfen o wirfoddoli’n ddelfrydol, ond gall fod yn un o'r profiadau mwyaf buddiol, nid yn unig i chi'ch hun, ond i fywydau pobl eraill.

Gall gwirfoddoli eich helpu chi i sefyll allan wrth chwilio am gyflogaeth. Mae'n ffordd wych o ddangos eich bod yn rhagweithiol, yn barod i fynd y filltir ychwanegol a'ch bod yn barod i roi yn ôl.

Mae mor hawdd cadw cofnod o’ch gwirfoddoli yn Aber. Mae'r undeb yn darparu platfform i chi nid yn unig gael eich cydnabod am eich ymdrechion, ond hefyd i gadw cofnod o’r holl waith rydych chi'n ei wneud. Mae hyn yn amhrisiadwy pan fyddwch chi’n ceisio cofio popeth rydych wedi'i wneud wrth wneud cais am swyddi.

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576