Rydym yn ysgrifennu ar y cyd heno gan ofyn am eich cymorth brys o ystyried y cynnydd difrifol yn y risg o Covid-19.
Annwyl fyfyriwr,
Rydym yn ysgrifennu ar y cyd heno gan ofyn am eich cymorth brys o ystyried y cynnydd difrifol yn y risg o Covid-19.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heno bod cyfyngiadau pellach yn cael eu cyflwyno trwy’r genedl. Mae’r cyfyngiadau hyn yn cynnwys:
- Teithio pan fydd angen yn unig;
- Dim alcohol i gael ei werthu ar ôl 2200 o nos Iau yma ymlaen;
- Gwasanaeth bwrdd yn unig mewn tafarndai a bariau.
Fel Prifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, rydym yn eithriadol o ddiolchgar i’r holl fyfyrwyr hyny sydd yn parhau i barchu cyfyngiadau’r llywodraeth a’r mesurau hynny a roddwyd yn eu lle gan y Brifysgol i leihau’r potensial am ledaeniad Covid-19 yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf wedi ichi gyrraedd. Rydym yn hyderus bod mwyafrif helaeth ein myfyrwyr yn cydymffurfio â’r rheolau.
Fodd bynnag, mae ymddygiad rhai pobl dros y nosweithiau diweddar, wedi bwydo canfyddiad nad yw myfyrwyr yn cydymffurfio â’n hymdrechion i gan Covid draw o Geredigion. Gyda’n gilydd, mae angen i ni wrthwynebu hyn, a pheidio â chaniatau i’r gweithredoedd hyn danseilio ein cymuned.
Mae dwy brif ffordd y gallwch chi helpu:
- Yn gyntaf – cadwch os gwelwch yn dda yn dynn at y mesurau rydym wedi’u pwysleisio – yn enwedig cadw 2m o bellter cymdeithasol. Cadwch draw o ardaloedd os nad ydych chi’n hyderus bod modd cynnal pellter cymdeithasol yno.
- Yn ail – pwysleiswch wrth eich ffrindiau a chydfyfyrwyr bod angen gwneud hynny hefyd, er lles ein cymuned a lle pwysig myfyrwyr o fewn y gymuned honno.
Gobeithiwn yn fawr y gallwn ddibynnu arnoch i’n cefnogi yn hyn o beth – wedi’r cyfan, rydym yn wynebu’r sefyllfa hon gyda’n gilydd.
Yr Athro Elizabeth Treasure: Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth
Nate Pidcock Llywydd: Undeb y Myfyrwyr, Aberystwyth