Mis Hanes Pobl Anabl

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Helo, Zoya dw i ac yn 2015 cefais ddiagnosis o Sglerosis Ymledol (MS). Anabledd corfforol yw MS sydd yn effeithio ar y nerfau a’r ymennydd. Yn lle dathlu fy mhen-blwydd yn 16, nesi dreulio’r diwrnod yn gwylio MTV yn dilyn fy niagnosis. Yn dilyn hyn penderfynais gadael ysgol wrth i fy nyfodol dod llawer mwy ansicr.

Treuliais 10 mlynedd gyntaf fy mywyd ym Mhacistan cyn symud i Loegr ac roedd yr her o orfod mynd o un diwylliant i ddiwylliant a ffordd o fyw gwbl wahanol yn brofiad unigryw iawn, ac roedd yn hyd yn oed fwy o her yn dilyn fy niagnosis. Llenwyd diwrnodau yn dilyn fy niagnosis gyda blinder a poen ac roedd ambell ddiwrnod lle yr oedd yn amhosib i mi adael fy ngwely. Wrth edrych yn ôl nawr mae’n rhaid ei bod wedi bod yn hynod od i fy ffrindiau gael y ffrind hwn a oedd wedi dod yn isel ar egni ac ar fywyd ar ôl blynyddoedd o fod yn swnllyd a llawn bywyd! Sut oedd y ffrind yma, ffrind oedd yn mwynhau cwmni eraill, wedi dechrau osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol? Ond y gwir yw, oeddwn yn cael trafferth, doeddwn i ddim yn gwybod sut i fynegi’r hyn roeddwn i'n ei deimlo ac nid oeddwn i eisiau rhoi baich ar fy ffrindiau. Fodd bynnag, gyda chyfuniad o amser, profiad o fy symptomau a fy astudiaethau seicoleg yn y Brifysgol, gennai well dealltwriaeth o bwysigrwydd empathi a’r ‘Strength in Vulnerability’, ac rwy’n credu y dylid dysgu hwn i fwy o bobl ifanc.

Does dim ffordd o wella MS, ac nid yw meddygon yn siwr beth sydd yn ei achosi. Fodd bynnag trwy archwilio meddyginiaethau amgen rwyf wedi sylwi bod straen yn ffactor. Rheoli straen yw un ffordd rwy’n cadw effeithiau fy symptomau mor isel â phosib. Mae rhan fwyaf o fy symptomau yn anweledig. Ond mae graddfa’r nam yn amrywio o ddydd i ddydd. Mae’r boen yn fy nwylo a thraed, fy iechyd meddwl a theimladau o bryder yn dal i gael eu sbarduno. Ond yr ansicrwydd am y dyfodol, am y dyfodol gyda’r salwch yma sydd yn fy mhoeni.

Yn y brifysgol rwyf wedi sylwi bod angen i mi fod yn onest a realistig gyda fy hun a chanolbwyntio ar bob diwrnod yn benodol. Roeddwn I'n arfer cynllunio pob dydd yn fanwl ond nawr rwy’n cadw at gynllun eithaf llac wrth ddilyn trefn foreol lym. Rwyf wedi gweld bod hyn yn sefydlogi pethau ac yn galluogi fy nghorff i reoli faint i fi’n cyflawni pob dydd gan osgoi euogrwydd o ddim cyflawni targedau yr oeddwn wedi’u osod.

I fod yn onest, roedd fy niagnosis o MS yn anodd i ddechau, ond mae’r datblygiad personol y mai o wedi galluogi wedi newid fy mywyd mewn ffordd bositif. O ystyried nad yw fy nam yn weladwy, yr her fwyaf oedd uniaethu gyda fy nghyd-gyfoedion, ac roedd hyn yn fy ngadael yn teimlo’n unig iawn. Dim ond nawr, 5 mlynedd ar ôl fy niagnosis, yr wyf wedi gallu addasu. Gallaf nawr ddweud fy mod yn falch o fy anabledd. Y dod I dermau hyn a’r addasiad i fy amgylchiadau yw pam y gwnes i wirfoddoli i fod yn  Swyddog Anabl I'r Undeb Myfyrwyr.

Y rhan anoddaf o ysgrifennu hwn, oedd cael fy ffrindiau agosaf i'w ddarllen ar ôl ei orffen. Cymrodd hyn mwy o ddewrder na’r ysgrifennu. Rwy’n gobeithio, trwy ymgymryd â’r rôl hon, y gallaf greu gofod lle rydym yn annog bregus rwydd a gyda’n gilydd gallwn geisio darganfod y cryfder o fewn bregusrwydd, achos mae’r cryfder yno.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576