Mae eich Pleidlais yn Bwysig 2019 - Defnyddiwch Hi Cyn i Chi Ei Cholli

Mewn dim ond pum munud gallwch sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth wrth galon gwleidyddiaeth y DU a Chymru.

welsh

Mewn dim ond pum munud gallwch sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth wrth galon gwleidyddiaeth y DU a Chymru.

Rydym yn cael ar ddeall y bwriedir cynnal etholiad Senedd y DU ddydd Iau 12fed Rhagfyr.  Mae Aberystwyth yn rhan o Etholaeth Ceredigion.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn yw hanner nos, ddydd Mawrth 26ain Tachwedd.

Mae'r dyddiad cau tebygol ar gyfer ceisiadau pleidlais bost newydd, neu newidiadau i bleidleisiau post presennol, yn debygol o fod yn 5pm ddydd Mercher 27ain Tachwedd.

 

Sut ydw i’n gallu Cofrestru i Bleidleisio?

Gallwch gofrestru i bleidleisio yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio; y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich rhif Yswiriant Gwladol.

Mae cofrestru'n cymryd llai na phum munud.

 

Ble dylwn i gofrestru i bleidleisio?

Fel myfyriwr gallwch gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad cartref a’ch cyfeiriad yn ystod y tymor, fodd bynnag dim ond unwaith y cewch chi bleidleisio mewn etholiad Cyffredinol neu etholiad ar gyfer Cynulliad Cymru.

Os yw'ch cyfeiriad cartref a’r un yn y brifysgol mewn ardaloedd gwahanol awdurdodau lleol, gallwch bleidleisio mewn etholiadau lleol yn y naill a’r llall.

 

Pam dylwn i gofrestru i bleidleisio?

Yn Etholiad Cyffredinol 2017 dim ond 104 pleidlais oedd rhwng y ddau ymgeisydd oedd ar y blaen yn etholaeth Ceredigion.

Gyda bron i 7,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gan fyfyrwyr gyfle enfawr i lunio polisïau ar lefel leol a chenedlaethol.

Felly cofrestrwch i bleidleisio heddiw er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn aros ar frig agenda'r gwleidyddion rydyn ni'n eu hethol.

 

Am fwy o wybodaeth ewch i:

www.umaber.co.uk/maeeichpleidlaisynbwysig

 

 
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576