Graddio 2018 - Llongyfarchiardau

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Annwyl Graddedigion,

Yn gyntaf, hoffwn i ddweud llongyfarchiadau mawr i chi i gyd. Mae heddiw a’r wythnos hon yn gyfle i ddathlu nid yn unig eich cyrhaeddiad anhygoel sef graddio, ond hefyd yr holl bethau gwych rydych chi ac ein holl fyfyrwyr wedi eu gwneud yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth.

Y llynedd, gwnaethom ni addo tyfu gyda'n gilydd fel rhan o deulu Aber. Wrth edrych arnoch chi i gyd heddiw, mae eich cyfeillgarwch, eich perthnasoedd, eich atgofion a’ch cysylltiadau anhygoel i’w gweld yn amlwg.

Dwi’n hynod lwcus cael aros yn Aber a gweithio gydag ac er myfyrwyr y flwyddyn nesaf a braint yw cael cynrychioli llais myfyrwyr Aber. Rydych chi'n wirioneddol wych ac mae pawb yn parhau i fod yn falch ohonoch chi mewn sawl ffordd. Eleni mae myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr wedi:

  • Ennill neu gystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol mewn saethyddiaeth, gwyddbwyll, hwb-ddawnsio, hoci dan dwr, pwl, tennis bwrdd a chymaint mwy.
  • Ymgyrchu yn erbyn plastig untro, trais ac aflonyddwch yn erbyn menywod a merched, dros well WIFI ar y campws
  • Gweithio gyda'r Brifysgol i gadarnhau ailagor Pantycelyn a chefnogi prosiect adnewyddu'r Hen Goleg
  • Helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu ac i ddod yn rhan o'n teulu Aber - diolch i bawb sy'n aelodau o’r Tîm-A a’r myfyrwyr sy'n rhoi eu hamser a'u hegni i groesawu pobl eraill ac i ofalu amdanyn nhw.

Fyddai Aberystwyth ddim yr hyn ydyw heddiw heb y Gymraeg a'r diwylliant Cymreig sy’n ffynnu yma. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r Undeb ac UMCA wedi bod yn ymgyrchu i ailagor Pantycelyn – rydyn ni’n ddiolchgar bod y Brifysgol wedi gwrando ac roedd hi'n anhygoel clywed dim ond wythnos yn ôl, bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau grant gwerth £5 miliwn i helpu â’r gwaith ailwampio ac edrychwn ymlaen at weld yr adeilad yn ailagor ym mis Medi 2019.

Hefyd, ym mis Mai, llwyddodd UMCA i godi dros £4,000 at Ysbyty Bronglais, daethon nhw’n ail yn yr Eisteddfod Ryng-gol, a chynhalion nhw ddawns ryng-gol lwyddiannus. Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur iawn gyda’r holl ddigwyddiadau a’r chwaraeon, ac mae’n braf dweud bod y Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn ffynnu.

Yn ôl ym mis Mai, gofynnom ni i chi am eich hoff atgofion o Aberystwyth ac roedd darllen pob un yn anhygoel.

Nid y pethau mawr sy'n creu’r atgofion mwyaf melys, ond yr eiliadau bach o lawenydd, cymorth neu lwyddiant a byddwch chi i gyd yn gadael yma'n cofio llawer o'r un pethau. Y lluniau ar eich ffôn o’r haul yn machlud, eich bwyd yn cael ei ddwyn gan wylanod ar y traeth, ar y prom, yn eich fflat – unrhyw le a dweud y gwir! Cael eich gwlychu gan y glaw yn y bore ac eistedd dan yr haul ar y traeth gyda hufen iâ yn y prynhawn! Eistedd o gwmpas tân ar Draeth y Gogledd gyda'ch ffrindiau, gan wylio'r haul yn gwawrio ar ôl noson allan yn y Pier, neu Yokos neu dy ffrind. Y lluniau neu’r profiad go iawn o’r stormydd yn taro’r prom, neu fod yn rhan o Superteam gwych neu andros o wael, neu ymuno â'r 41% o fyfyrwyr sy'n rhan o un o'n clybiau neu gymdeithasau gwych.

Does neb yn difaru dod i Aber a gobeithio eich bod chi wedi gwirioni ar eich amser yma ac wedi gwneud y mwyaf ohono. Felly dewch yn ôl i ymweld â ni, peidiwch â bod yn ddieithryn. Oherwydd y peth gorau am Aber yw ein teulu ni yma. Fyddai hi ddim yr un peth heb y bobl sy'n ei gwneud hi mor wych, sef chi. Ac rydyn ni gerllaw tan y cam olaf un, gyda Chymdeithas yr Hen Fyfyrwyr sy’n bresennol yma heddiw. Ewch i gael sgwrs gyda nhw a chadwch mewn cysylltiad!

Rydyn ni i gyd yn Undeb y Myfyrwyr yn dymuno pob lwc i chi yn y dyfodol. Manteisiwch i’r eithaf ar bob munud a mwynhewch y presennol. Rydych chi i gyd wedi cyflawni rhywbeth enfawr trwy eistedd yn yr ystafell hon a beth bynnag byddwch chi'n ei gyflawni yn y dyfodol, bydd eich teulu yma yn Aber yn falch ohonoch chi drwy’r amser. Pob lwc a llongyf

Tîm Swyddogion Myrfyrwyr UMAber 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576