Etholiadau 2024: Holwch fi

welsh
Rated 5/5 (1 person). Mewngofnodi i Raddio

Beth yw etholiadau?

Y peth pwysicaf am Undeb y Myfyrwyr yw’r ffaith ei fod yn cael ei redeg gan fyfyrwyr.

Tair gwaith y flwyddyn rydym yn cynnal etholiadau ar gyfer ystod eang o rolau. Bob blwyddyn rydym yn defnyddio etholiadau democrataidd i helpu penderfynnu pwy ddylai siarad a gweithio ar eich rhan chi ar ystod o bynciau tra byddwch yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n cynnwys Swyddogion Llawn Amser a Swyddogion Gwirfoddol.

Gall pob myfyriwr sydd wedi cofrestru bleidleisio yn yr etholiadau dros unrhyw rôl sy'n berthnasol iddynt.


Beth yw natur rôl swyddog?

Fe'u hetholwyd nhw gan fyfyrwyr Aber ym mis Mawrth ac maen nhw'n gweithio llawn-amser i ddatblygu profiad myfyrwyr ac i gynrychioli eich buddiannau i'r Brifysgol a'r tu hwnt!

Mae gan bob un ohonyn nhw ddyletswyddau unigol yn eu rolau, ac maen nhw'n gweithredu'r rhain ar sail yr addewidion a wnaed ganddyn nhw yn eu maniffestos.

Gyda'i gilydd, nhw yw llais holl fyfyrwyr Aberystwyth, ac ar y cyd, maen nhw'n gyfrifol am hyrwyddo ac amddiffyn hawliau myfyrwyr, ymgyrchu ar faterion o bwys, hyrwyddo cyfranogiad yn yr Undeb a chydlynu parthau a grwpiau o fyfyrwyr.

 

Hefyd, fel swyddog llawn amser, byddwch chi'n ymddiriedolwr ac yn eistedd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ogystal ag eistedd ar wahanol bwyllgorau rheoli'r Brifysgol i siarad ar ran myfyrwyr. Darperir hyfforddiant i bob swyddog etholedig, ynghyd â chymorth ac arweiniad i gyflawni'r rôl a throi eu hamcanion yn realiti.

Gallwch ganfod mwy yma.


Rolau Sydd ar Gael:

  • Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA
  • Materion Academaidd
  • Cyfleoedd Myfyrwyr
  • Llywydd
  • Llesiant
  • 15 rôl Swyddog Gwirfoddol ar gael
  • Rolau cynrychiolydd academaidd
  • Rolau pwyllgor

Mae gennych chi tan 12pm 19eg Chwefror i sefyll!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576