Erthygl crynhoi 2023 Rachel

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Felly, dyn ni wedi cyrraedd pen y daith – dwy flynedd gyfan ohonof i, sut ydych chi wedi ymdopi â hyn, fydda i byth yn gwybod! 

Mae i gyd yn wir pan ddweda’ i fy mod i’n gallu cael hwyl fel swydd ac fel anrheg ffarwel i chi bobl hyfryd oll, dwi’n gobeithio eich bod chi’n eistedd yn gyfforddus achos mae’n bryd cael crynodeb: 

Dyma edrych yn ôl i gychwyn fy nhaith, roedd i bob adeg Barwise 4 Opps eu huchafbwyntiau eu hun – o wneud yr holl beth o fy ystafell wely y tro cyntaf (am gyfnod i fod yn fyw) i orfod ei gwneud hi eto o fy fflat yr eil dro gan fod i fi ddewis dal y COVID ar drothwy’r wythnos bleidleisio (am gyfnod arall i fod yn fyw!). 

Yn cychwyn ym mis Gorffennaf, daeth yr afenjyrs ynghyd, gyda’r Cameron, Dafi ac Ash anfarwol yn ymuno gydag Els a fi ar y tîm! Ymhen dim o amser, oedd hi’n Ffreshars arnom ni a chawsom ni’r syniad gwych o gynnwys posteri ffilmiau dychanol yn ein Cwis Mawr yr UM ni. Dwi’n ymddiheuro am y pethau isod, ond rhag ofn i chi golli’r cyfle... 

            

Yn ystod Cyfnod y Croeso, croesawyd aelodau clybiau a chymdeithasau newydd trwy ‘Rhowch Gynnig Arni’ a chaed yr arolwg enwi “Pwy yw’r Pokemon Draig?”. Yn nigwyddiad ‘Nôl i Aber’, ac i ddathlu Aber yn 150, rhoddom ni groeso cynnes i Idris, wrtho iddo ymuno â Chymuned Tîm Aber. 

Fe ges i’r amser gorau yn rhedeg ymgyrchoedd hen a newydd eleni, hyd yn oed tra eu bod yn digwydd ar ben ei gilydd! Daeth Els a fi at ein gilydd i gyflwyno #GrymusoAber, a welwyd sesiynau Canolfan Chwaraeon am ddim i fenywod a chefnogi Tîm y Menywod Tref Aber yn ei lwyddiant yn chwarae gartref; hefyd daeth yr Wyl Gelf yn ei hôl a gorffen gyda Noson Un Byd i ddathlu celf a diwylliant rhyngwladol. Hoffwn i ddiolch i bob grwp a myfyriwr a gyfrannodd i’r ymgyrchoedd a’r digwyddiad dros y flwyddyn, p’un ai drwy arwain gweithgaredd, gwirfoddoli i helpu, neu drwy fynychu, ni fuasai’r digwyddiadau fod wedi digwydd heb eich ymrwymiad a’ch brwdfrydedd, diolch yn fawr i chi i gyd! 

A 2022 yn unig oedd hyn...

Hyd yn hyn, mae 2023 wedi bod yn dipyn o flwyddyn yn nhermau cynrychioli UMAber ar lefel genedlaethol. Aeth Ash a fi i gynhadledd UCM y DU yn Harrogate. Fe gawsom ni Wagas a Nando’s, oedd pob dim yn iawn. Oedd yn hyfryd iawn i fi gael y cyfle i aduno gyda fy Ngrwp Swyddogion Sabothol Arwain a Newid o’r haf diwethaf. Yn ystod y prif sesiwn ddadlau, siaradais o blaid Cynnig Polisi Myfyrwyr Rhyngwladol ar ôl i ni ei ddatblygu mewn gweithdai.

                  

Wedyn, bu Cynhadledd UCM Cymru ym Mangor; roeddwn i am fynd ond dyma fi’n penderfynu ar fod yn sâl yr wythnos honno. Roedd un daith i Fangor yn ddigon i fy nghorff, am wn i. Yn amlwg, fe ges i fy nharo yn drymach na’r disgwyl gan y cyfnod ar ôl Varsity/yr Wyl Gelf! Ond fe gafodd yr ergyd ei lleddfu trwy newyddion dros sgwrs fideo fod i ni gael ein cydnabod mewn Llesiant ac Ymgysylltu Myfyrwyr ar gyfer Superteams.  

Fy hoff ran o’r swydd hon yw gweld pawb yn cymryd rhan a charu bywyd myfyrwyr. Roedd y Sialens Aber yn llawn hwyl hyfryd ac oedd Superteams yn gawlach braf hyfryd (chewch chi ddim UM all wneud y ddau). Roedd Superteams yn well fyth i fi eleni gan fod i fi allu cymryd rhan yn y ddau – iei! Fy hoff ran arall oedd cymryd rhan yn bersonol ac fe lwyddais i wneud Barwise yn Trio o’r diwedd! Treuliais i ddwy wythnos cyn UMAber yn Dathlu yn cael blas ar ein clybiau chwaraeon a chymdeithasau a gafodd eu henwebu tra’n disgwyl pwy fydd yn cipio Gwobr Clwb a Chymdeithas y Flwyddyn. Roedd rhai yn fwy o “her” nag eraill (heb enwi neb), ond oedd pob un cymaint o hwyl â’r llall. 

O’r diwedd, neu ym mhen dim amser, fe ddaeth hi’n gyfnod y Gwobrau arnom ni. Aeth Tom a fi draw i Lundain gyda’r Brifysgol ar gyfer Gwobrau Dewis WhatUni? ac yn ogystal ag eraill, fe enillom ni’r categori am Bywyd Myfyrwyr – mae ‘wrth ein boddau’ yn methu â chyfleu’r teimlad llawn! Mae’r wobr yn diolch i’ch egni a’r hyn ydych chi’n dod â chi i’r Brifysgol a’r dref hon. Yn bennaf gan fod y gwobrau hyn yn seiliedig ar arolygon a graddio myfyrwyr, mae’n amlwg eich bod wedi gadael cryn argraff ar eich cyfoedion. Fe ges i hefyd sgrechian yn wyneb Ellie Taylor pan gyhoeddwyd y newyddion, atgof y bydda’ i’n cadw am byth.  

Roedd arwain ein Gwobrau Chwaraeon a Chymdeithasau yn chwerw felys. Roedd y ffordd berffaith o ddod â blwyddyn anhygoel i ben, ond doedd dim anghofio ei bod yn gorffen. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld pob enillydd cyn i’r canlyniadau gael eu rhyddhau, i weld a fyddan nhw’n sylweddoli eu bod wedi ennill. Roedd yn brofiad braf ofnadwy! 

            

Mae rhaid i fi dynnu sylw at staff yr UM yn ehangach, ond yn enwedig y Tîm Cyfleoedd a Thîm y Swyddogion. Maen nhw wedi fy ngweld i ar fy ngorau ac ar ngwaethaf eleni, a serch hynny, maen nhw wedi aros gyda fi ac wedi annog i fi ddal ati. Ai trwy ddewis neu angen oedd, dydw’i ddim yn siwr ond dwi’n ddiolchgar. I Elizabeth, Ash, Cameron a Dafi, alla i ddim aros i weld beth wnewch chi nesaf, mae gen i lawer o gariad atoch chi i gyd. Ac i Anna, Bayanda, Elain, Helen a Tiff, chi sydd wrth y llyw bellach! Mwynhewch! 

Roedd bod yn Swyddog Cyfleoedd i chi yn bleser a braint, diolch i chi am ymddiried ynof gymaint i’ch cynrychioli ddwywaith ac am weithio gyda fi. Dyma roi’r awenau i’r Tiff hyfryd ac arbennig, ac dwi’n gobeithio eich bod yn rhoi mwy fyth o gariad a chefnogaeth iddi fel y gwnaethoch i fi. Dwi’n gwybod y byddwch mewn dwylo saff gyda hi. Doed a delo, fe fydda’ i’n Tîm Aber tra bydda’ i byw (chewch chi ddim gwared arnaf i mor rhwydd â hynny!) a bydda’ i wastad eisiau yn fawr iawn iawn iawn i fod yn Swyddog Cyfleoedd i chi <3 

Cariad mawr a phob bendith, 

Barwise x

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576