Erthygl crynhoi 2023 Elizabeth

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae fy hoff atgofion yn y rôl eleni yn dechrau yn cychwyn gydag Wythnos y Croeso, pan wnaethom ni’r pump swyddog gynnal cwis y glas. Roeddem ni wrth ein boddau yn gweld nifer y bobl a ddaeth a pha mor dda aeth hi, o ystyried mai’r y tro cyntaf i ran fwyaf y swyddogion oedd hi! Ers hynny, dwi wedi cynnal llawer o nosweithiau Gwin a Chaws i’r Ôl-raddedigion, pnawn te ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Gwobrau Addysgu, Dysgu a’r Profiad Myfyrwyr blynyddol (a elwid gynt yn Gwobrau’r Staff a Myfyrwyr). 

Noson Gwobrau Addysg, Dysgu a’r Profiad oedd y peth fy mod i’n ymfalchïo ynddo’r mwyaf o achos mor braf oedd gweld fy holl waith yn dod at ei gilydd a dathlu aelodau anhygoel Prifysgol Aber ac Undeb y Myfyrwyr. Roedd hefyd yn wych cael cyflwyno gwobrau i staff a myfyrwyr, yn ogystal â’r Materion Academaidd newydd etholedig, Anna; Cynrychiolwyr, Jess a Madison, a hefyd gydag Ash, Dafi, Cam a Rachel. Roedd y nosweithiau Gwin a Chaws i Ôl-raddedigion yn llwyddiant eleni ac fe fues i wrth fy modd yn cynnal y Pnawn Te ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, achos na ches i’r cyfle y llynedd ac oedd yn braf i staff UM a PA a myfyrwyr Aber ddod at ei gilydd a dathlu bod yn fenywod. Trefnais i Trish, ein Prif Weithredwr, ddod a siarad a mi oedd yn gymaint o ysbrydoliaeth ac yn wych i bawb ei chlywed. Un o’m llwyddiannau eleni oedd rhoi adroddiad at ei gilydd ar Amrywio’r Cwricwlwm, a gafodd ei gyflwyno i’r Bwrdd Academaidd. Roedd hwn yn tynnu ar farn myfyrwyr ar ba mor amrywiol yw eu cwricwlwm gan obeithio y caiff ei ddefnyddio i wneud newid positif yn Aber. Dwi mor ddiolchgar i’r myfyrwyr a roddodd adborth manwl a gonest ynghylch eu cwricwlwm a theimlo’n angerddol dros amrywio’r cwricwlwm ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Mae wedi bod yn braf cael bod yn rhan o’r mudiad myfyrwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac dwi’n edrych ymlaen yn arw at weld beth ddaw nesaf gydag Anna yn cymryd yr awenau fel Swyddog Materion Academaidd! smiley

- Elizabeth

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576