Erthygl crynhoi 2023 Dafi

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Yn gyntaf, diolch anferthol i bob aelod UMCA eleni, fydden ni’n dim byd heb gymaint o aelodau brwdfrydig yn cymryd rhan, diolch!  

Sai’n siwr le i ddechrau o ran uchafbwyntiau, mae na gymaint ohonyn nhw wedi bod! Ond y rhai sy’n dod yn syth i’n ngho’ ydy Meinir Gwilym yn y Ddawns Rhyng-golegol, codi gymaint o arian yn ystod Wythnos RAG a gwylio pawb yn perfformio mor wych yn y ‘Steddfod Rhyng-gol! Fe oedd cerdded i lwyfan y ‘Steddfod gyda pawb yn chantio fy enw yn foment fythgofiadwy, doedd ddim un llywydd arall yn cael agos i gymaint o gefnogaeth, ‘goosebumps’ wir!   

Rwyf hefyd wedi cael y siawns a’r pleser i gymryd rhan mewn sawl digwyddiad o fewn yr Undeb Myfyrwyr ehangach, gan gynnwys cyflwyno yn y nosweithiau gwobrwyo a chynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn y Senedd. Mae’r swydd yma wedi bod yn agoriad llygad i mi ar adegau ac rwy’n ddiolchgar iawn am y gyfle a fydd yn rhan o pwy ydw i am weddill fy oes. 

Hoffwn i ddiolch yn enwedig i fy 4 cyd-weithwyr agosaf, y tîm o Swyddogion yn yr Undeb! I Cameron, Ash, Rachel ac Elizabeth mae arna i diolch anferthol, rydych chi wedi bod yn wych eleni, yn gyd-weithwyr brwd ac yn hapus i helpu ar bob adeg, ond yn mwy nag hynny yn ffrindiau da sydd wedi dysgu llawer i mi dros y flwyddyn. 

Ar ddechrau’r flwyddyn fe wnes i addo mai dyma fy siawns i i roi yn ôl i UMCA am pa mor bwysig mae e wedi bod fel rhan o fy mywyd i yn datblygu fel person. Rwyf wir yn gobeithio fy mod i ‘di rhoi y flwyddyn gorau posib i bob un ohonoch! 

Hoffwn ddweud pob lwc anferthol i bawb blwyddyn nesa’, boed yn Aber eto neu yn mynd allan i’r byd go iawn! Pob lwc hefyd i Elain a’r Pwyllgor newydd, mae UMCA’n ddiogel yn eich dwylo galluog ac angerddol chi! 

Llawer o gariad, Dafi x 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576