Erthygl crynhoi 2023 Cameron

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Wel, aeth eleni yn gyflym... blwyddyn fel Swyddog Llesiant Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. 

Dwi wirioneddol wedi mwynhau’r flwyddyn diwethaf hon. Mae’r rôl hon wedi rhoi i fi y cyfle i ddarganfod fy hun, magu fy sgiliau a’m hyder, a dod yn ffrindiau a gweithio gyda phobl anhygoel. Mae hefyd wedi cynnig llwyfan i fi wneud pethau dwi wedi bod eisiau eu gwneud erioed: codi ymwybyddiaeth o Tourette’s a helpu pobl Traws*. 

Un o’r pethau cyntaf wnaethom ni oedd Cwis y Swyddogion yn Wythnos y Croeso. Fel profiad, oedd yn gyfle i weithio fel tîm a meithrin cyfeillgarwch a hefyd lle ces i fy nharo gan faint fy mod i wrth fy modd ar y llwyfan. Roedd yn gymaint o ysgogiad, es i ati i roi trafodaeth am Tourette’s at ei gilydd ar gyfer Mis Hanes Anabledd lle bues i’n trafod hanes y cyflwr, beth yw e, a dweud fy hanes personol. Roedd yn llwyddiant ysgubol a rhoddodd hwb i fy hyder, ac dwi’n gobeithio ei wneud eto yn y dyfodol. 

Peth arall roeddwn i eisiau ei wneud pan yn dechrau oedd rhannu fy mhrofiadau personol i godi ymwybyddiaeth a grymuso myfyrwyr, felly trwy gydol y flwyddyn, dwi wedi bod wrthi’n ysgrifennu blogiau am Syndrom Tourette, Dislecsia, Anrhywioldeb, Anhwylder Obsesiynol Gorfodol, hygyrchedd gwaith maes, a sut brofiad yw bod yn Draws a blog ar gyfer wythnos ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta. Roedd yn ffordd wych i fi edrych yn ddwfn i fi fy hun.  

Ar hyd y ffordd, dwi wedi bod yn rhan o gyfleoedd arbennig ac unigryw yn cynnwys ymweld â’r Hen Goleg gyda’r Swyddogion, UMAber yn Dathlu, Penblwydd y Brifysgol yn 150, y Balchder Aberystwyth cyntaf ers 10 mlynedd, yn ogystal â gweithgareddau fel Asynnod Dyfi a Diwrnod Cwn Tywys i Leddfu Straen yr Arholiadau. 

Fodd bynnag, ar brig fy mlaenoriaethau oedd y ddau amcan personol gen i i helpu myfyrwyr Traws* rhywfodd a chodi ymwybyddiaeth o Syndrom Tourette. Fy llwyddiant mwyaf eleni yw lansio Yma a Thraws, ymgyrch sy’n darparu cynnyrch cadarnhau rhywedd i fyfyrwyr sydd eu hangen. Mae wedi bod yn bleser mawr gen i lansio hyn a gweld ceisiadau gan fyfyrwyr yn cyrraedd, rhoi’r pethau sydd angen ar fyfyrwyr iddynt. Diolch hefyd i’r Gwasanaethau Myfyrwyr, mae’r Rhwydwaith Traws a Rhywedd Anghydffurfiol wedi’i sefydlu’n llwyddiannus fel bod myfyrwyr Traws* yn gallu cwrdd â phobl o’r un anian mewn awyrgylch saff. Braint yw ei weld yn tyfu. Yn olaf, cael creu a rhannu cynnwys ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth o Syndrom Tourette. Dwi wir wedi mwynhau gwneud y fideos, mae siarad yn ei gylch wedi magu fy hunan hyder cymaint. 

Mae wedi bod yn flwyddyn arbennig iawn. Dwi wir yn gwerthfawrogi pa mor unigryw yw’r swydd hon, fe fydda’ i’n gweld ei heisiau. Dwi wedi bod wrth fy modd i fod yn rhan o’r tîm o bobl anhygoel hwn ac dwi’n gobeithio bod y Swyddogion newydd yn mwynhau eu hamser hefyd! 

 

Hwyl! 

Cameron

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576