Erthygl crynhoi 2023 Ash

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Teimlad rhyfedd yw ysgrifennu'r erthygl ffarwelio hon gan fy mod yn teimlo fy mod yn dal i ddechrau arni, ond dyma ni! Hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi fy nghefnogi ar hyd y flwyddyn, a holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth – a dweud y gwir mae wedi bod yn un o flynyddoedd gorau fy mywyd. Mae wedi bod yn bleser pur bod yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2022-2023 ac fe ydw’i am ddweud am y tro olaf, diolch i chi roi’r cyfle hwn i mi a gweithio gyda rhai pobl wirioneddol anhygoel. Roedd bod yn Llywydd UMAber am eleni hefyd yn golygu fy mod yn cynrychioli myfyrwyr yn ystod pen-blwydd y Brifysgol yn 150 oed ac dwi wedi gwerthfawrogi hynny'n fawr. Mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn gorwynt o brofiadau ac er y bu rhai cyfnodau anodd a heriol yn sicr, dwi wedi gwneud popeth gyda myfyrwyr yn fy nghalon ac dwi’n mawr obeithio y byddwch yn gallu gweld hyn. 

Cefais fy syfrdanu pan gefais fy ethol i’r rôl gydag emosiynau cymysg o gyffro a braw pur. Roeddwn i wir eisiau gwneud yn siwr fy mod wedi gwneud y gorau o’r swydd eleni a chael y dylanwad mwyaf effeithiol posibl. Roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr yma yn Aberystwyth ac felly dw i eisiau rhannu rhai o'r pethau fy mod i wedi'u gwneud eleni. Mae’n ddrwg genny’ i os nad wy’n sôn am rywbeth ein bod ni wedi cydweithio ynddo, ond dwi am ddweud fy mod i wrth fy modd gyda phob profiad o gydweithio â myfyrwyr ac nid ydych chi’n cael eich anghofio. 

Yn gyntaf oll, dwi am roi’r diweddaraf am y dair blaenoriaeth oedd gennyf i eleni. Dwi’n hynod falch o’r cynnydd a wnaed ar bob un o’r tri ohonynt. Yr un cyntaf oedd cymryd rhan a chwblhau yr Effaith Werdd a wnaed trwy SOS (Myfyrwyr yn Trefnu ar gyfer Cynaliadwyedd). Bu llawer o brofi a methu gyda'r prosiect hwn eleni gan mai dyma'r tro cyntaf i ni ei wneud ers blynyddoedd lawer. Dwi’n falch iawn o’r gefnogaeth gan y corff myfyrwyr ar hyn ac yn hapus i gyhoeddi bod popeth wedi’i gyflwyno, ac ydyn ni bellach yn gweithio drwy’r broses archwilio. Heb os, roedd y prosiect yn un heriol oherwydd fod cymaint o bethau angen eu gwneud ond rydyn ni fel undeb yn hapus iawn gyda'r cyflwyniad ac wedi dysgu'r ffordd orau o wneud pethau wrth symud ymlaen am flynyddoedd i ddod. Roedd fy ail flaenoriaeth yn ymwneud ag iechyd rhywiol. Wrth sefyll i fod yn Llywydd, siaradais ag ychydig o fyfyrwyr am yr hyn yr hoffent ei weld. Un peth a gododd sawl tro oedd nad yw'r Undeb yn gwneud llawer am ryw ar hyn o bryd ac y byddent yn hoffi gweld hyn. O hyn es i ati i drefnu Wythnos SHAG (wythnos Iechyd Rhywiol a chymorth) a gynhaliwyd ym mis Tachwedd. Roedd yr wythnos hon yn seiliedig ar adborth a syniadau a ddaeth ymlaen gan fyfyrwyr ac roeddwn wedi fy syfrdanu gan y niferoedd a ddenodd. Dwi hefyd yn hapus iawn i gyhoeddi bod Ymgyrch SHAG wedi derbyn gwobr cydnabyddiaeth UCM Cymru ac wedi ei phasio yn Senedd yr Undeb i wneud Wythnos SHAG yn ddigwyddiad blynyddol. Bydd yn wych gweld sut y gall yr ymgyrch hon gael ei siapio flwyddyn ar ôl blwyddyn yn seiliedig ar yr hyn y mae myfyrwyr ei eisiau. Fy mlaenoriaeth olaf oedd delfrydau ymddwyn cadarnhaol a chefnogi gwerthoedd yr undeb, cynrychioli myfyrwyr. Gwnes i hyn trwy lawer o gyfarfodydd gyda'r Brifysgol, gan wneud yn siwr bod myfyrwyr yn cael eu cadw ar flaen pob syniad a phroses. 

Rhan o fy rôl yw helpu gydag ymgyrchoedd sy'n digwydd trwy gydol y flwyddyn. Ro’n i wrth fy modd gydag ochr hon o’m rôl gymaint ac wedi gwneud cymaint o ymdrech â phosibl i sicrhau bod grwpiau rhyddhad yn cael eu cynrychioli yn yr Undeb a’r Brifysgol. Fe fues i’n rhan o drefnu Mis Hanes Anabledd yr Undeb, gan drefnu panel trafod rhwng myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, gwasanaethau myfyrwyr ac aelod o Anabledd Cymru i drafod anabledd mewn addysg uwch. Er nad oedd cymaint yn mynychu ag yr oeddem ni’n gobeithio, cododd nifer o faterion gyda Chymorth i Fyfyrwyr ar anabledd ac dwi'n ymwybodol eu bod wedi bod yn gweithio'n galed i unioni'r rhain. Cefnogais hefyd mis Hanes LHDT+, gan bostio am hanes LHDT+ yn ogystal â threfnu digwyddiad yn yr undeb a welwyd llawer iawn yn dod. Fe wnaethom ni lwyddo i gyrraedd yr uchafswm o 100 o fyfyrwyr yn cofrestru o flaen llaw, sef swm nad oeddwn i erioed wedi meddwl y byddem yn ei gyrraedd. Felly fe ges i fy siomi ar yr ochr orau o weld bod gennym ni ymhell dros 100 o fyfyrwyr wedi cofrestru a mynychu, gan wneud i mi sylweddoli'n fawr cymaint roeddwn i'n caru fy swydd. Roedd y noson honno yn sicr yn un o fy uchafbwyntiau y flwyddyn. Dwi hefyd yn cefnogi staff yr Undeb yn ystod Wythnos Arian Myfyrwyr a Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia, a Thrawsffobia. 

Ddechrau'r flwyddyn, bues i’n gweithio gyda Mind our Future sy'n sefydliad elusennol sy'n cael ei ariannu gan y loteri i ymchwilio i iechyd meddwl pobl ifanc yng Ngheredigion. Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn wirioneddol anhygoel, nid yn unig gan ei bod wedi rhoi arian sylweddol i ddigwyddiad Dathlu LHDT+ a’r diwrnod Eco gyda Chrefftau Aber, ond oherwydd eu bod wedi rhannu safbwyntiau myfyrwyr gyda ni sydd wedi bod yn graff. Mae wedi bod yn bartneriaeth wych gyda nhw, a gobeithio y bydd y bartneriaeth hon gyda’r Undeb yn parhau. 

Mae yna ychydig o bethau eraill fy mod i wedi gweithio arnynt eleni, a byddwn wrth fy modd yn mynd i fanylder am bob un ohonynt, ond dwi'n wyliadwrus rhag wneud yr erthygl hon yn rhy hir. Dwi wedi caru’r holl hyfforddiant a’r gynhadledd mewn undebau eraill gan ei fod wedi fy ngalluogi i feithrin cysylltiadau gwych yn y mudiad myfyrwyr yn ogystal â gweithio gyda Swyddogion Gwirfoddoli UMAber sydd wedi bod yn anhygoel eleni. Dwi hefyd am ddiolch yn fawr iawn i'r swyddogion Llawn Amser eraill. Maen nhw wedi bod yn wirioneddol wych eleni ac rwy'n teimlo fy mod wedi caru eleni o'u herwydd. Dwi wedi gwneud ffrindiau gwych ynddynt, a dymunaf bob lwc iddynt yn y dyfodol. 

Felly, beth sydd nesaf? Dechreuais eleni gyda chynllun clir ar gyfer fy nyfodol a beth roeddwn i eisiau ei wneud. Gadewch i ni ddweud ychydig fisoedd yn y swydd hon ac aeth pob dim pen i waered. Roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n hoffi'r swydd hon ac roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau gwneud yn dda ynddi - doeddwn i byth yn rhagweld faint y byddwn i'n ei fwynhau ac y byddwn i eisiau gwneud hyn yn fy ngyrfa. Ond dyma ni, a byddaf yn dechrau fel Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth Undeb Myfyrwyr Aber ym mis Gorffennaf – allwch chi ddim cael gwared â fi mor hawdd â hynny. Dwi’n edrych ymlaen yn arw iawn at weithio gyda'r swyddogion Llawn Amser newydd ac dwi wrth fy modd i weld pa waith a syniadau y byddan nhw’n cyflwyno i'r undeb. 

Unwaith eto, diolch am wneud hon yn flwyddyn byth gofiadwy. Mae wedi bod yn bleser. 

Ash 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576