Erthygl Diwedd Tymor BUCS

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Erthygl Diwedd Tymor BUCS

 

Wrth i’r tymor BUCS ddod i ben, mae'n bryd myfyrio ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau'r misoedd diwethaf. I chwaraewyr, capteiniaid, hyfforddwyr a chefnogwyr fel ei gilydd, mae'r tymor hwn wedi bod yn un i'w gofio, yn llawn buddugoliaethau gwefreiddiol, trechu torcalonnus, a throeon trwstan annisgwyl.

Swyddog Cyfleoedd, Rachel-

Am flwyddyn! Nid yn unig rydyn ni wedi rhoi tro teg i bob tîm arall, rydyn ni wedi dangos y gallwn ni ei wneud wrth gael hwyl. I fi, gweld chi gyd (fel arfer wedi blino’n lân a/neu’n dioddef wedi noson allan) ar ddydd Iau, yn rhoi’r diweddaraf ar yr holl ddrama oedd uchafbwynt fy wythnos ac mae’n rhywbeth bydda’ i’n gweld ei eisiau. Da iawn chi am chwalu disgwyliadau eleni, nawr ewch ati i wneud yr un peth eto'r flwyddyn nesaf!

 

Cydlynydd Chwaraeon, Chloe-

Ers i mi gymryd yr awenau oddi wrth Paige ym mis Ionawr dwi wedi dod i werthfawrogi’r anhrefn llwyr sydd yn BUCS. O fethu â chael swyddogion, anafiadau a theithiau cerdded mae wedi bod yn daith wyllt yr wythnosau diwethaf.

Fodd bynnag, rhaid i mi sôn am wytnwch clodwiw Tîm Aber i barhau i chwarae eu gemau! Er bod yn rhaid i ni deithio'n bell, wynebu cyfyngiadau gyda'r adnoddau a'r arian sydd ar gael i ni, nid yw'n ein rhwystro rhag cyrraedd a rhoi ein gorau glas i bob gêm a chystadleuaeth y byddwn yn cymryd rhan ynddynt!

I rai timau, mae eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda gwaith caled ac ymroddiad wedi talu ar ei ganfed ar ffurf Ws enfawr. I eraill, bu’n flwyddyn o ailadeiladu, gyda ffocws ar ddatblygu sgiliau a gosod y sylfaen ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Mae wedi bod yn hynod werth chweil gweld y sgoriau’n dod i mewn bob wythnos a gweld y canlyniadau yn enwedig ar gyfer y gemau dwi’n gwybod sydd o bwysigrwydd arbennig i’w chwaraewyr.

 

Timau seren eleni-

Pêl-droed Americanaidd- Eleni oedd blwyddyn gyntaf y timau yn eu hadran bresennol, ac maen nhw wedi dangos gwelliant aruthrol ers y llynedd. Maen nhw wedi chwarae i lefel sydd wedi eu gweld yn cyrraedd canlyniad 2-2-2 trwy gydol y tymor, a dim ond colli allan ar y gemau ail gyfle o ddau bwynt yn unig.

Clwb marchogaeth - Er bod y clwb wedi colli ei fantais gartref eleni maen nhw wedi parhau i berfformio yn arbennig o dda. Mae ei ymrwymiad i’r tymor hwn wedi bod yn rhyfeddol, mae’r clwb cyfan wedi teithio yn oriau mân i’w gystadlaethau cartref ger Abertawe i baratoi’r ceffylau ar gyfer y cystadlaethau.

Clwb Athletau a Rhedeg Harriers – roedd perfformiodd y tîm yn ardderchog ym mhencampwriaethau traws gwlad BUCS 2023. Daethon nhw yn 28ain allan o bob prifysgol ym Mhrydain a ymgeisiodd. Trwy guro prifysgolion fel Prifysgol Manceinion, mae’r Harriers wedi gwella enw da Aberystwyth.

Badminton y Merched - Mae tîm badminton cyntaf y merched wedi gwella'n aruthrol ers y llynedd, o golli'r mwyafrif o'u gemau y llynedd i ennill pob gêm ond un eleni a chael dyrchafiad i gynghrair haen 1 y gorllewin, mae'r merched yn hen haeddu ymfalchïo yn y gamp hon. Dyma gapten dynion Caerloyw hyd yn oed yn gofyn 'ers pryd mae Aber yn dda!'.

Pêl-fasged y Merched – Maen nhw wedi cynrychioli'r brifysgol ar lefel genedlaethol yn Rownd Derfynol Cwpan y Gorllewin i Ferched yn erbyn Plymouth ac wedi dod â medal arian adref. Dim ond dwy gêm y mae’r tîm wedi’u colli drwy gydol y tymor. Mae Pêl-fasged y Merched wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau’r clwb eleni ac wedi ymroi drwy’r flwyddyn gyfan i wella eu hunain ar y cwrt a chynrychioli eu tîm a’r brifysgol hyd eithaf eu gallu.

Pêl-droed y Merched - Mae pêl-droed y merched wedi chwarae’n arbennig o dda eleni, gan ennill 3 o’u gemau gan gynnwys yn erbyn Met Caerdydd. Er bod pob un o’u gemau yn ystod Tymor 1 nid yw hyn wedi amharu ar ei ddyfalbarhad i chwarae gemau, dod i sesiynau hyfforddi a gwneud yn dda iddyn nhw eu hunain yn Varsity ac yn ei gynghrair lleol.

Rygbi’r Merched - Cyflawnwyd rhediad buddugol ar faes cartref Vic Fields ar ôl mynd am ddwy flynedd heb fuddugoliaeth! Mae hyn yn welliant aruthrol ac mae mor hyfryd gweld y merched yn llwyddo ar ôl amser mor galed yn flaenorol! Mae hyn yn gamp anhygoel gan fod rhai o'u haelodau yn ymuno heb unrhyw brofiad rygbi o gwbl cyn y Brifysgol. Enillodd y tîm hefyd yn erbyn enillwyr y gynghrair a oedd ar y pryd, heb ei guro.

 

Waeth beth fo'r canlyniad, mae rhywbeth i'w ddysgu bob amser o dymor chwaraeon. O’r gwaith tîm a’r cyfeillgarwch sy’n dod o gydweithio tuag at nod cyffredin, i’r gwytnwch a’r plwc sydd angen i oresgyn anawsterau ac adfyd, mae chwaraeon yn cynnig cyfleoedd di-ri i bobl dyfu’n bersonol ac fel tîm.

Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn hon, mae’n bwysig cydnabod gwaith caled ac ymroddiad pawb sy’n ymwneud â’r digwyddiad, o’r chwaraewyr a’r capteiniaid i’r cefnogwyr, mae’n rhaid i mi roi sylw arbennig yma i’r bobl allanol sy’n gweithio’n galed bob wythnos i sicrhau bod Tîm Aber wedi yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, MidWales Travel, St Johns, y Ganolfan Chwaraeon a'r holl dimau cyfleusterau allanol eraill sy'n ein lletya bob wythnos - diolch yn fawr i chi gyd! Roedd pob gêm, pob sesiwn ymarfer, a phob eiliad yn gyfle i ddysgu a thyfu, a bydd y profiadau a gafwyd y tymor hwn yn sicr yn llywio llwyddiannau’r dyfodol.

Wrth i’r tymor ddod i ben, mae’n bwysig dathlu’r llwyddiannau, dysgu oddi wrth y methiannau, ac edrych ymlaen tuag at y dyfodol gydag optimistiaeth a phenderfyniad. P’un a ydych chi’n chwaraewr, yn gapten, yn hyfforddwr neu’n gefnogwr, mae eleni wedi bod yn daith llawn hwyl a sbri, a’r gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd fydd yn gwneud byd o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod.

Bydd gweddill yr erthygl hon yn canolbwyntio ar eich tîm a'ch straeon, fodd bynnag mae'n rhaid i mi grybwyll fy uchafbwynt personol o'r tymor yw cael galwadau ffôn bob dydd Mercher gan aelod o bwyllgor Rygbi’r Merched dim ond i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi tra byddaf yn cael paned o te. ??

Mae wedi bod yn bleser amserlennu eich gemau, teithio a threfniadau hyd at ddiwedd y tymor a gweld chi drwodd i ddiwedd y flwyddyn BUCS- dwi wedi cael ychydig o chwerthin ar hyd y daith, gobeithio eich bod wedi cael hefyd!

 

Sylwadau gan y Pwyllgor

 

Futsal

Mae Futsal wedi gorfod, hyd y gwn i, ei bod hi’r flwyddyn fwyaf cyffrous ers ei sefydlu:

Roedd un o’n dramâu mwyaf yn ein gêm olaf lle cafodd George Downer y bêl yn ein hanner a’i driblo trwy holl dîm Caerwysg. Ar ben hynny, sgoriodd gôl anghyfreithlon o gic i mewn, yn ein hanner ein hunain.

Torrwyd 2 record clwb eleni gan gael ein pwynt cynghrair gyntaf mewn gêm gyfartal gartref gyda Chaerwysg a’n golwr (Ikhan) yn sgorio 4 gôl dros y tymor.

-John, Trysorydd

 

Pêl-fasged y Merched

Rydyn ni wedi cael dipyn o flwyddyn! Fe gyrhaeddon ni Rownd Derfynol Cwpan Gorllewinol y Merched a dod yn ail. Curom ni Met Caerdydd ac yna yn ein hail gêm yn eu herbyn fe aethon ni dros amser, gan sgorio 16 pwynt mewn un chwarter ac yna yn anffodus colli’r gem yn y diwedd ond roedd hi’n un o’n gemau gorau erioed. Doedd dros hanner ein tîm erioed wedi chwarae pêl-fasged cyn dod i'r brifysgol a dim ond dwy gêm wnaethon ni golli trwy'r tymor! Daethon ni hefyd yn ddeg uchaf mewn timau uwch ac ar y cyfan, dim ond tymor anhygoel iawn!

- Rugby Fitzer, Llywydd

 

Badminton y Merched

Hoffwn dynnu sylw at ymdrechion Tîm Badminton y Merched am berfformio'n rhagorol trwy'r tymor. Rydyn ni wedi dod ar frig ein cynghrair, dim ond wedi colli un gêm ond wedi ennill y gweddill i gyd trwy ollwng dim ond cwpl neu ddim gemau. Yn ogystal, chwalu Bangor 8-0!!

Yn ogystal, dyma fy mlwyddyn olaf yn Aber ac dydw’i ddim wedi colli yr gêm yn y blynyddoedd fy mod i wedi cynrychioli Aber.

Chwaraeodd pawb yn y tîm mor dda a dwi’n meddwl eu bod nhw’n haeddu rhywfaint o gydnabyddiaeth.

- Ellie Reed, capten 1af y Merched

 

Fe fyddwn i’n dweud mai cyflawniadau mwyaf badminton eleni oedd y gwelliant mawr mewn safon chwarae oherwydd y sesiynau hyfforddi tîm ychwanegol a gynhaliwyd eleni, a’r fuddugoliaeth ysgubol yn Varisty lle cafodd Bangor ei guro gan bob un o’r 3 thîm badminton.

Gwelodd tîm y merched ganlyniadau BUCS arbennig o dda, gan gyrraedd rownd gynderfynol y cwpan a gwneud yn dda iawn yn y gynghrair.

- Matt Sculfor, 2il Gapten Dynion

 

Rygbi’r Merched

Cof doniol am AUWR , ein glasfyfyrwyr yn lapio car ein llywydd mewn clingfilm

 

 

Llwyddiant clwp, ennill am y tro cyntaf ers 3 blynedd

- Georgia Vardy, Ysgrifenydd Cymdeithasol

I rai clybiau nid yw tymor BUCS hyd yn oed wedi dechrau – pob lwc i’n clwb Criced gyda’i gemau nesaf. Gan edrych ymlaen at y dyfodol, rydyn ni’n gobeithio y bydd ein holl dimau BUCS yn parhau â'u llwyddiant o eleni ymlaen.

 

Bydd tîm BUCS y flwyddyn eleni yn cael ei gyhoeddi yn y Gwobrau Chwaraeon a Chymdeithasau ar y 3ydd o Fai. Edrychwch ar y timau ar y rhestr ferhttps://www.abersu.co.uk/aboutaber/celebrate/ ar gyfer y wobr eleni, a phrynwch eich tocynnau i'r seremoni wobrwyo ymahttps://www.abersu.co.uk/aboutaber/celebrate/.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576