DEWCH I GWRDD Â THÎM YR UM
Dros yr Haf, mae'n bryd i ni fel Undeb Myfyrwyr edrych yn ôl ar y flwyddyn sydd newydd fod, paratoi i groesawu myfyrwyr newydd a chyfredol i Aber ym mis Medi a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer 2020-2021.
Mae misoedd yr haf hefyd yn amser i groesawu a hyfforddi timau swyddogion newydd yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn cynorthwyo'r tîm swyddogion mae teulu o staff UM sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael cyfle i garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth.
Rydym yn bwriadu manteisio ar y cyfle dros yr ychydig fisoedd nesaf i gyflwyno teulu UMAber - sydd i gyd yma i chi os ydych chi angen cymorth, cyngor neu sgwrs.
Sbotolau ar Emily Stratton - Cydlynydd Chwaraeon
Ble mae dy gartref?
Aberystwyth, ond fy nhref enedigol yw Warwick, sy'n fwyaf adnabyddus am ei chastell.
Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun:
Rwy'n hapusaf pan fyddaf yn yr awyr agored ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Rwy'n caru cwn ac rwy'n caru pwdin. Rwy'n caru partïon dawnsio ac mae gen i rai symudiadau gwallgof. Rwy'n hynod gystadleuol; does dim ots a yw'n Rownd Derfynol Ewropeaidd neu'n gêm gardiau gyda fy nheulu, rydw i’n benderfynol o ennill. Tyfais i fyny’n cystadlu mewn Athletau, ond yn fwy diweddar rwyf wedi chwarae Ffrisbi Eithafol dros Brydain Fawr ac wedi dechrau Beicio Mynydd. Teithio yw un o fy hoff bethau; rydw i wrth fy modd yn ymweld â lleoedd newydd, a chwrdd â phobl newydd, does dim rhaid iddo fod filoedd o filltiroedd i ffwrdd, mae yna gymaint o lefydd braf i ddod o hyd iddyn nhw yn Aberystwyth a'r cyffiniau.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Pasta ar gyfer y prif gwrs yn ôl pob tebyg, ond byddaf yn canolbwyntio’n bennaf ar y pwdin, eton mess, crème brulee, crymbl afal a chwstard, y cwbl wedi'i olchi i lawr gyda chryn lawer o jin.
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Dringo mynyddoedd, sgimio cerrig, beicio mynydd, chwarae ffrisbi a choginio bwyd blasus.
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?
Rydw i wrth fy modd yn gweithio yma oherwydd fy mod i'n cael byw ger y mynyddoedd a'r môr, ac mae'r tîm rydw i'n gweithio gyda nhw yn anhygoel! Mae Aberystwyth yn lleoliad mor braf ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon; mae'r tywydd er ei fod yn heriol, yn golygu bod ein myfyrwyr yn aml yn ymarfer dan yr amodau anoddaf, felly maent yn barod ar gyfer unrhyw amodau chwarae pan fyddant yn wynebu eu gwrthwynebwyr. Mae mantais ynghlwm â phob anfantais
Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Cyn dechrau fy swydd yn UM Aber, roeddwn yn Arweinydd Alldeithiau, yn teithio’r byd, ac yn gwneud gwaith prosiect mewn amrywiaeth o gymunedau rhyfeddol. Pe bawn i heb ddod o hyd i swydd yn Aberystwyth oedd yn cyfuno fy nghariad at chwaraeon a'r awyr agored, rwy'n credu y byddwn yn dal i fod yn teithio.
Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf?
Superteams oedd uchafbwynt fy mlwyddyn! Rwy'n byw ar gyfer y digwyddiadau rydyn ni'n eu cynnal fel UM, ac rydw i wrth fy modd yn gweld y mwynhad y mae myfyrwyr yn ei gael ohonynt. Mae eu cynllunio’n waith caled, ond mae'r digwyddiadau yn sicr yn un o'r rhannau mwyaf pleserus. Eleni, yn anffodus fe wnaethon ni golli allan ar Ryngolgampau Farsiti, UMAber yn Dathlu a Rygbi 7-bob-ochr Aber 7s. Alla i ddim aros i gynnal Rhyngolgampau yn Aber y flwyddyn nesaf, dathlu holl waith caled ein clybiau a'n cymdeithasau a chynnal cystadleuaeth enwog Aber 7s ym mis Mai!