Edrych ar ‘Nôl i Aber 2023

blognewswelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae UMAber yn cynnal ‘Nôl i Aber bob blwyddyn ac mae gan y digwyddiad le arbennig yng nghalonnau myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, gan wasanaethu fel amser i ailgysylltu, hiraethu, a dathlu. Daeth 6 chlwb a’u cyn-fyfyrwyr at ei gilydd ar gyfer ‘Nôl i Aber eleni mewn gwahanol leoliadau ar draws y campws ac yn y dref i ail-fyw eu buddugoliaethau a chreu atgofion newydd gyda’i gilydd.


Cafodd Lacrosse benwythnos gwych gyda gweithgareddau ar y Gwener a'r Sadwrn. Nos Wener, fe drefnon nhw Barbeciw Bondio gydag aelodau newydd a chyn-fyfyrwyr o dimau dynion a merched. Cyfarfu’r tîm ar y dydd Sadwrn ar gaeau’r Vicarage a chwarae gêm gyfeillgar gymysg. 

 

 

 

 

“Aeth y digwyddiad yn wych – daeth hen aelodau i ymweld (yn ddynion a merched). Dydd Gwener wnaethom ni gadw yr ardal BBQ i ni ym mar 46 a dydd Sadwrn chwaraeon ni gêm gymysg yn Vicarage Fields am tua 3 awr! Yn hwyrach y noson honno aethon ni allan mewn gwisgoedd Calan Gaeaf. Braf oedd gweld pawb eto ac i’r pwyllgor presennol gwrdd â’r aelodau a fu gynt yn ein rolau.” – Belen O’Toole, Llywydd Lacrosse

 

 

Cafodd y Tarannau lond diwrnod o weithgareddau, cynhaliwyd eu hyfforddiant ‘Nôl i Aber yn y Cawell Chwaraeon, cael pryd o fwyd aduno ac yna gorffen eu diwrnod gyda choctels. Roedd yn bleser gweld cymaint o hen ferched yn dod yn ôl ac yn trosglwyddo eu gwybodaeth i aelodau newydd i’w helpu i feithrin eu sgiliau a’u styntiau.


Cynhaliodd Badminton dwrnamaint penwythnos Calan Gaeaf hwyliog ond cystadleuol.  Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar lefel lai ond roedd y clwb yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i gynnal y digwyddiad ar raddfa fwy a chael aelodau cyn-fyfyrwyr i ymuno.


Cynhaliodd Rygbi’r Dynion sesiwn hyfforddi rygbi cyffwrdd gyda'u haelodau hen a newydd ar y cae chwarae 3G, roedd llawer o aelodau yn ymuno ac yn gwerthfawrogi'r amser sesiwn a roddwyd iddynt.

Gwelwyd dros 30 yn dod i ddigwyddiad Dance Sport , ac roedd y digwyddiad hwn yn nodi 20 mlynedd ers sefydlu'r clwb chwaraeon dawns. Roedd y mynychwyr yn cynnwys y llywydd o flwyddyn gyntaf y clwb, roedd hyn yn brofiad rhyfeddol i aelodau’r clwb a oedd yn gallu dysgu am ddyddiau cynnar y clwb yn ogystal â dathlu’r clwb yn 20 mlynedd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys dawnsio cymdeithasol, lle’r oedd eu haelodau yn dawnsio dawnsfeydd yr oedd pob un ohonynt yn eu hadnabod ynghyd â chyn-aelodau a myfyrwyr presennol hefyd.

 

 

 

“Aeth ein digwyddiad ‘Nôl i Aber yn arbennig o dda. Roedd pobl yn canu ei glod trwy gydol y penwythnos ac rhoddodd y cyfle iddynt ddawnsio fel roeddent gynt. Mi oedd yn wirioneddol yn un o’n nosweithiau gorau a welsom ni fel clwb”. – Nyssa Wilkins, Llywydd y Clwb 

 

 

Mae’r digwyddiad ‘Nôl i Aber blynyddol yn meithrin ymdeimlad o undod ar draws cenedlaethau o Glybiau a Chymdeithasau ac yn cynnig cipolwg arbennig i gyn-fyfyrwyr ar etifeddiaeth eu grwpiau. Hoffai UMAber achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Swyddfa'r Cyn-fyfyrwyr DARO a Chronfa Aber am ariannu'r digwyddiad ar y cyd â ni.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576