Pasiodd Myfyrwyr Aberystwyth bolisi ar 27/02/2017 o'r enw 'Erasmus ar ôl Brexit' sy'n gorchymyn y Swyddog Materion Academaidd UMAber i:
- Lobio ar bob lefel er mwyn i’r DU i gael mynediad i Erasmus ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
- Chwarae rhan weithredol mewn unrhyw ymgyrchoedd cenedlaethol a gaiff eu rhedeg gan UCM (Cymru / DU) parthed Erasmus.
- Geisio sicrwydd rheolaidd gan Brifysgol Aberystwyth ynglyn â'u gweithgareddau lobïo o amgylch Erasmus (a Brexit yn gyffredinol).
Nawr bod drafft cytundeb Brexit ar gael, bydd Aelodau Seneddol (AS) yn cael y cyfle i bleidleisio i'w dderbyn neu ei wrthod. Roedd hwn wedi'i drefnu'n wreiddiol ar gyfer heddiw, ond ers hynny mae wedi cael ei ohirio gan roi mwy o amser inni lobïo am Brexit sy'n gweithio i Fyfyrwyr.
Yn ystod y cyfnod cyn y bleidlais, mae Meg (Swyddog Materion Academaidd) wedi cysylltu â Ben Lake, AS Ceredigion, gan ofyn iddo ystyried goblygiadau Brexit ar Erasmus wrth wneud ei bleidlais.
Credwn fod Erasmus yn gynllun amhrisiadwy i fyfyrwyr y DU sy'n astudio dramor, a myfyrwyr yr UE sy'n dod i Aberystwyth. Mae cyfnewidfeydd rhyngwladol a chydweithredu addysgol yn bwysig i ddyfodol addysg uwch ac mae Aberystwyth yn ymfalchïo ar ddarparu amgylchedd croesawgar i fyfyrwyr o dramor. Rydym yn obeithiol, trwy lobïo ein AS a llywodraeth y DU, y gallwn annog sgyrsiau sy'n arwain at barhad ein cyfranogiad yn Erasmus ar ôl Brexit.
Rydym yn eich annog chi hefyd i gysylltu â Ben Lake ynglyn â'r mater hwn, ac os ydych chi'n dymuno gwneud hynny, mae templed isod y gallwch ei ddefnyddio a'i addasu fel ei fod yn fwy addas i’ch dibenion chi.
Ffyrdd o gysylltu efo Ben:
Ffon: 0207 219 4454 neu 01570 940 333
Ebost: ben.lake.mp@parliament.uk
Post: Bryndulais,67 Bridge Street, Lampeter, Ceredigion, SA48 7AB
Twitter: @benmlake
Llythr:
Lawrlwythwch fel Dogfen i Word (.doc)
Annwyl Ben Lake,
Yr wyf yn cysylltu â chi fel myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth ac aelod o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ynghylch Erasmus ar ôl Brexit.
Pasiodd myfyrwyr Aberystwyth bolisi ar 27/02/2017 o'r enw 'Erasmus Post Brexit', gyda'r prif orchymyn i lobïo am fynediad parhaus i Erasmus ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Pleidleisiodd myfyrwyr ar y polisi hwn yn ystod cyfarfod Cyngor UMAber gan ddangos bod pob myfyriwr, boed yn rhan o Erasmus neu beidio, wedi canfod bod hwn yn fater pwysig. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ystyried hyn yn y trafodaethau parhaus Brexit a phan fyddwch yn bwrw eich pleidlais ar y Cytundeb Terfynol.
Rwy'n credu bod Erasmus yn gynllun amhrisiadwy i fyfyrwyr y DU sy'n edrych i astudio dramor, a myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd sy'n dod i Aberystwyth. Mae'n denu myfyrwyr i'r ardal sy'n elwa'r gymuned, yr economi leol ac amrywiaeth ddiwylliannol. Mae cyfnewidfeydd rhyngwladol a chydweithredu addysgol yn bwysig i ddyfodol addysg uwch ac mae Aberystwyth yn ymfalchïo ar ddarparu amgylchedd croesawgar i fyfyrwyr o dramor.
Rwy'n obeithiol, trwy gysylltu â chi, y gallwn annog sgyrsiau sy'n arwain at barhad ein cyfranogiad yn Erasmus ar ôl Brexit. Byddai colli Erasmus yn cael effaith negyddol ar y Brifysgol a'r dref, gan atal myfyrwyr y DU a'r UE yn y dyfodol o ystyried cyrsiau yn Aber.
Rwy'n deall y bydd rhaid i'r llywodraeth ddod i gytundeb â'r UE i sefydliadau'r DU barhau i gymryd rhan mewn prosiectau Erasmus ac mae'n ceisio cynnal y trafodaethau hyn gyda'r UE, felly gwnewch yn siwr bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed yn ystod y trafodaethau hyn os gwelwch yn dda.
Yn gywir,