Dywedwch eich dweud ar lefel genedlaethol: sefwch i fod yn Gynrychiolydd UCM

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae enwebiadau ar gyfer ein criw nesaf o Gynrychiolwyr Cynadleddau UCM DU ac UCM Cymru bellach ar agor! Mae bod yn gynrychiolydd yn gyfle cyffrous iawn i gynrychioli bywyd myfyrwyr Aberystwyth ar lefel genedlaethol, rhwydweithio gydag arweinwyr myfyrwyr eraill, magu hyder ac ennill sgiliau i roi eich DV ar y blaen.

 

Beth yw’r UCM?

Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr yw UCM y DU, grwp o dua 600 o fyfyrwyr ledled y DU sydd yn arwain y cyrch ar gynrychioli diddordebau myfyrwyr. O ffioedd i dai, maent yn defnyddio ymgyrchu ac ymchwil, gweithredoedd penodol, a lobio’r Llywodraeth i ddylanwadu dros bolisi ar lefel genedlaethol. Felly maent yn hyrwyddo ac yn amddiffyn hawliau pob myfyriwr prifysgol yn y Deyrnas Unedig.

UCM Cymru yw adran yr UCM yng Nghymru, ac yn cynrychioli diddordebau o dros 250,000 o fyfyrwyr mewn Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru.

 

Beth mae’n ei olygu i fod yn gynrychiolydd UCM?

Myfyrwyr a etholir gan eu cyd-fyfyrwyr i gynrychioli eu hundeb mewn Cynhadledd UCM yw cynrychiolwyr. Yn fras, golygir hyn eu bod yn dadlau, pleidleisio, a phenderfynu ar bolisïau a blaenoriaethau’r UCM – ac yn y pendraw mae hyn yn golygu eu bod yn gallu dylanwadu ar bolisi’r llywodraeth sy’n cael effaith ar fyfyrwyr.

Dyletswydd UMAber yw ethol 2 gynrychiolydd ar gyfer Cynhadledd UCM y DU a 4 cynrychiolydd ar gyfer cynhadledd UCM Cymru. Ar gyfer y ddwy gynhadledd, mae’n rhaid i o leiaf hanner o’r cynrychiolwyr uniaethu fel person benywaidd. Gellir darllen mwy ynghylch Cynadleddau Democrataidd UCM y DU yma.

 

Beth yw dyletswyddau’r rôl?

Hyd y gynhadledd yw’r amser fydd rhaid ei ymrwymo (gan gynnwys yr amser i deithio yno ac yn ôl os bydd angen) ac ar ben hynny, y briffio cyn ac ar ôl y gynhadledd. Gall Undeb y Myfyrwyr dalu dros y ffioedd cofrestru, llety a chostau teithio ar gyfer pob cynrychiolydd.

 

Dyddiadau Allweddol:

Enwebiadau yn Agor: Dydd Llun 26ain Medi 2022

Enwebiadau yn Cau: Dydd Gwener 14eg Hydref 2022

Y Cyfnod Pleidleisio: Dydd Mercher 26ain – Dydd Gwener 28ain Hydref 2022

Cynhadledd Genedlaethol UCM y DU 2023: Wythnos 13eg mis Mawrth 2023

Cynhadledd UCM Cymru 2023: Wythnos 20ain mis Mawrth 2023.

 

Ble galla i roi fy enw ymlaen?

Os bydd y rôl hon o ddiddordeb i chi, rhowch eich enw ymlaen drwy ein ffurflen sefyll: https://www.umaber.co.uk/newidaber/etholiadau/sefyll/

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576