Dewch i fy nabod: Swyddog Llesiant 2023

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enw a Rôl: Helen, y Swyddog Llesiant (hi/eu/nhw)

Cyflwyniad byr: Ei/hi/nhw yw fy rhagenwau ac astudiais i Lenyddiaeth Saesneg, yn ystod fy amser fel oeddwn i’n llywydd ar y gymdeithas Ffeministiaeth, trysorydd i Tickled Pink a rhan o AUWR a Curtain Call.

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni: Mae gen i efell.

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau: Opiniyngar, Ffyrnig, Allblyg.

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?: Bwyd: Cinio Sul. Enwogion: Tom Holland, Harriet Harman, Zadie Smith. 

Pa ddiddordeb sydd gennych chi?: Sioeau cerdd a cherddoriaeth yn gyffredinol boed yn ei gwylio neu fod yn rhan ohoni. Bydysawd sinematig Marvel, Spiderman yn benodol.

Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?: Fe ges i fy enwebi gan rywun dienw a chreda’ i dyma’r adeg i fi ddechrau meddwl am yr holl newidiadau cadarnhaol y gallwn i eu gwneud taswn i’n rhan o dîm gyda nod cyffredin, a hynny i newid amgylchedd y Brifysgol er gwell.

At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?: Gweld y newidiadau positif a fydd ar waith gan fy nghyd-swyddogion a fi fy hun.

Pa achosion sydd o bwys i chi?: 

  • Hawliau a Chynwysoldeb LHDTC+.
  • Creu gofodau diogel ar y campws.
  • Gweithio ar wella ein polisi a’n protocol atal hunanladdiad.
  • Hawliau a Diogelwch Menywod.
  • Cynwysoldeb.

Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?: Bar Undeb y Myfyrwyr o’r ffaith fod rhan helaeth o’m ffrindiau yn gydweithwyr i fi yn y bar ac yn Starbucks.

Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?: Panda coch, ddim y dewis amlycaf o reidrwydd ond does neb yn anhapus ei weld.

Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?: Cyn siarad ar y llwyfan neu’n gyhoeddus, dwi’n fy ysgogi fy hun trwy wrando ar drac sain Harispray cymaint â phosib.

A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd? (rhowch enghraifft personol os oes eisiau): 

Dwi wir yn teimlo y dylai pawb gael profiad o weithio mewn siop neu dafarn/bwyty o leiaf unwaith mewn bywyd.

Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?: One More Shot – CIL

Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham: Twyn Du, Penmon, o achos fod fy nheulu, fy ffrindiau gorau a fi yn mynd gyda’n gilydd bob blwyddyn fel ffordd o gael saib oddi wrth bopeth digidol a swatio.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576