Dewch i fy nabod: Swyddog Llesiant 2022

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enw: Cameron Curry 

Cyflwyniad byr...

Helo, fy enw i yw Cameron (fe/nhw/eu). Person traws-wrywaidd a niwro-amrywiol ydw’i sydd â gradd mewn Daearyddiaeth (2019-2022) ac rwy’n angerddol iawn dros ryddhau grwpiau lleiafrifol a llesiant pobl. Ces i fy magu yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (er i fi gael fy ngeni yn Harrogate) ac mae gen i ddwy gath yn fy nghartref teuluol o’r enw Lester a Daisy.

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm i ni amdanoch chi eich hun...

Galla’ i chwarae’r drymiau.

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau.

Brwdfrydig, gwydn, parchus.

Eich pryd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 pherson enwog fuasech chi’n gwahodd i gael bwyd?

Lasagne blêr fy mam gyda James May, Jonathon Goodwin, a Ginger Wildheart.

Beth yw eich diddordebau?

Mae fy niddordebau yn cynnwys celf, ysgrifennu, gemio, cerdded ac archwilio, a choginio. Mae gen i ystod o ddiddordebau, yn amrywio o hanes a gwleidyddiaeth LDHTC+; anabledd ac iechyd meddwl; beirniadaeth ffilm a theledu; bwyd gwledydd gwahanol; newid hansawdd a chynhesu byd eang. Gan fy mod i hefyd yn awtistig, mae gen i sawl diddordeb arbennig, gyda rhai ohonynt yn cynnwys bleidd-ddynion, Daredevil o Marvel, House M.D., Jekyll a Hyde, a Doctor Who.

Pam wnaethoch chi benderfynu i sefyll am y rôl hon?

Sefais i ar gyfer rôl y Swyddog Llesiant oherwydd ers erioed rwy wedi bod yn wych yn helpu eraill a’i fwynhau. Rwy’n actifydd ar-lein ar gyfer amryw grwpiau a mudiadau ac rwy’n hoffi rhannu fy mhrofiadau personol ar iechyd meddwl, anabledd, rhywedd a niwro-amrywiaeth yn gyhoeddus i helpu eraill. Yn ogystal â hyn, rwy am ddefnyddio’r rôl hon i ddysgu mwy am eraill ee pobl sy’n rhan o’r gymuned Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME). Bydd y rôl hon yn fy ngalluogi i fforddio llawdriniaeth i gadarnhau fy rhywedd sy’n hollbwysig i fi.

At ba beth ydych chi’n edrych ymlaen y mwyaf eleni?

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael cwrdd a gweithio gyda phobl newydd a fydd yn gallu fy helpu i greu newid positif i wella llesiant myfyrwyr.

Beth yw’r achosion sydd o bwys i chi?

Rwy’n frwdfrydig iawn am wella llesiant myfyrwyr traws a rhannu fy mhrofiadau personol o fod yn draws.

Beth yw eich hoff le i gymdeithasu yn Aberystwyth?

Naill ai yr olygfa ar ben Coedwig Penglais neu Kane’s bar.

Pe gallech chi fod yn anifail, pa un fyddech a pham?

Cath domestig heb os. Rwy’n credu eu bod yn anifeiliaid cwl iawn, yr ysglyfaethwr perffaith, gyda phatrwm blew unigryw, gallu gweld yn y nos, a’r gallu i ddringo a neidio.

Oes yna un peth yn eich barn chi, y dylai pawb ei wneud/rhoi cynnig arno o leiaf unwaith yn eu hoes? 

Credaf y dylai pawb drio canmol dieithryn tra ar grwydr. Boed yn canmol steil neu liw eu gwallt, eu gwisg, mec-yp, esgidiau, nid yn unig mae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n wych (ac efallai mai dyna’r peth gorau yn ystod eu dydd) ond mae’n gwneud i chi deimlo’n dda ac yn gwella eich hyder.

Rydych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?

Freak Flag – Ryan Hamilton a’r Traitors, Hell of a Day.

Rhowch un o’ch hoff lefydd rydych chi wedi ymweld â nhw i ni a pham.

Ar ddiwedd blwyddyn 11, aeth fy ysgol â fy chwaer a fi i Sorrento, yr Eidal. Hyn oedd y tro cyntaf i ni adael y DU. Aethon ni Pompeii ac Herculaneum, mynydd tân Caeau Phlegraean, Ynys Capri, a gwelsom Fynydd Vesuvius (roedd ar dân felly doeddem ni ddim yn cael mynydda). Roedd yn anhygoel i gael profiad o ddiwylliant newydd, pensaernïaeth a bwyd gwahanol a phrofi hyn i gyd gyda fy chwaer i.

Comments

 

Cael haf da 2025

Maw 01 Gor 2025

Have a good summer 2025

Maw 01 Gor 2025

Ymuno â ThîmAber

Maw 01 Gor 2025

Join Team Aber

Maw 01 Gor 2025
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576