Dewch i fy nabod: Swyddog Cyfleoedd 2023

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enw a Rôl: Tiffany McWilliams (Tiff), ei/hi.

Cyflwyniad byr: Heia, Tiffany dw’i ac dwi wrth fy modd i fod yn Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr ichi. Mae croeso i chi ddod ataf i gyda phob dim yn ymwneud â chlybiau chwaraeon, cymdeithasau, cael swyddi a gwirfoddoli. Bydda’ i’n hapus helpu.

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni: Dwi wedi dawnsio yn Stiwdios Dawnsio Pineapple a hefyd wedi bod ar y llwyfan gyda’r Steren Strictly Pasha Kovalev.

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau: Brwdfrydig, Angerddol, Mentrus

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?: Phryd 10 cwrs yn Little Italy. Dwi’n caru Santiago Cabrera, Jansen Ackles a Misha Collins.

Pa ddiddordeb sydd gennych chi?: Mae gen i eithaf tipyn o ddiddordebau a hobïau. Dwi wedi gwneud llawer o chwaraeon, fel rhwyd-fêl, pêl-droed, athletegau, dringo creigiau, rownders, yn ogystal ag ychydig o wahanol steiliau dawnsio. Ffan mawr o sioe gerdd, canu a dawnsio ydw’i hefyd. Yn ogystal â hyn dwi’n fawr o gîc pan ddaw’n fater o ffilmiau a rhaglenni teledu. Supernatural yw fy hoff raglen deledu erioed ond mae gen i fy hoff 20 o ffilmiau gan na alla’ i ddewis. Dwi hefyd wrth fy modd gyda Marvel a Star Wars.

Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?: Fe ges i fy enwebi a phenderfynu y gallwn i ddod â llawer o dda i’r rôl tra’n cael llawer o hwyl ar yr un pryd.

At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?: Yr holl ddigwyddiadau fel AberSialens a Super Teams.

Pa achosion sydd o bwys i chi?: Mae hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch ym mhopeth yn bwysig iawn i fi.

Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?: Dwi wrth fy modd yn y Cambrian i gael amser hwyl neu dawel ond mae’r traeth hefyd yn lle gwych cyhyd â’i bod hi’n dwym.

Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?: Mae’n debyg mai teigr y byswn i achos y gallan nhw fod yn ciwt a hoff o gael eu mwytho ond hefyd yn ffyrnig a gwyllt a byddan nhw’n brwydo dros yr hyn maen nhw eisiau.

Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?: Dwi wastad yn gwylio ‘It’s a wonderful life’ bob nos galan. Dwi’n credu mewn ysbrydion. Mae’r môr yn frawychus a rhaid bod yna ddigon o bethau erchyll i lawr acw.

A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd? (rhowch enghraifft personol os oes eisiau): 

Gweithio mewn adwerthu neu’r diwydiant gwasanaethu. Tasen ni i gyd yn gwybod sut brofiad sut yw e dwi’n credu y byddai staff yn cael eu trin yn well o lawer. Hefyd, rhowch gynnig ar AberSialens achos ei fod yn wych.

Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?: Dangerous gan Big Data yn cynnwys Joywave

Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham: Lanzarote. Es i yno y llynedd ar gyfer y Nadolig gyda fy mhartner. Oedd mor hardd ac dwi wrth fy modd gyda’r ffaith y daeth Siôn Corn Sbaen ar gwch gwib.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576