Dewch i fy nabod: Mared

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enw: Mared (Swyddog Diwylliant Cymreig & Llywydd UMCA)

Cyflwyniad byr…

Helo, fi ‘di Mared. Dwi’n wreiddiol o Sir Fôn ond bellach yn byw yma, yn Aberystwyth. Mae gen i radd mewn Cymraeg, Drama ac Astudiaethau Theatr. Wnes i ymgeisio ar gyfer Llywydd UMCA a Swyddog Diwylliant Cymreig er mwyn sicrhau fod myfyrwyr yn cael profiadau mor anhygoel a gefais i, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf hefyd yn awyddus i ddangos i weddill myfyrwyr Aber pa mor arbennig yw ein diwylliant ni yma yng Nghymru fach.

Dweda ffaith ddiddorol neu 'random' amdanat ti dy hun...

Yn ogystal a bod yn Llywydd UMCA dwi hefyd yn cael y fraint o fod yn  Llywydd Urdd Gobaith Cymru, sef un o fudiadau ieuenctid mwyaf y byd.

Dewisa dri gair sy'n dy ddisgrifio orau.

Siaradus, cymdeithasol, brwdfrydig

Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen? a pha 3 pherson enwog fyddet ti'n eu gwahodd am fwyd?

Cwrs Cyntaf: Lobscows… y term cywir am Cawl yn y Gymraeg;)

Prif Gwrs: Cinio Dydd Sul

Pwdin: Pwdin reis, hefo peaches nid jam!!

Y tri person enwog fyddwn i’n wahodd ydi Julie Walters, Victoria Wood a Dawn French. Icons!!

Beth yw dy hobïau neu ddiddordebau?

Cyn Covid oni’n treulio’r rhan fwyaf o fy amser rhydd yn gwirfoddoli gyda’r Urdd mewn cystadleuthau chwaraeon, eisteddfodau, teithiau ayyb. Yn amlwg dwi heb allu gneud llawer o hynny yn ddiweddar. Dwi’n hoff iawn o ganu, cerdded a choginio, nid bo hynny’n golygu mod i’n dda iawn!!

Pam wnest ti sefyll am y rôl hon?

Dwi wedi bwriadu sefyll ar gyfer y rol yma ers fy mlwyddyn cyntaf yn y Brifysgol. Dwi wedi bod yn lwcus o gael profi 3 llywydd arbennig yn ystod fy nghyfnod yma yn Aber, ac yn gobeithio y gallaf gamu mewn i’w esgidiau nhw a parhau i ddatblygu yr hun sydd gan UMCA i’w gynnig i’n aelodau.

At beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?

Dwi’n edrych ‘mlaen at groesawu’r glasfyfyrwyr ar ddechrau’r flwyddyn academaidd a chael mynd ati i drefnu gweithgareddau gwahanol i’r myfyrwyr a hynny drwy gydweithio gyda Undebau Cymraeg eraill ar draws y wlad.

Beth yw dy hoff le yn Aberystwyth?

I mi mai’n anodd curo’r castell i fynd am dro gyda’r nos a gwylio’r haul yn machlud… ond dwi hefyd yn gyfarwydd iawn â thafarn yr Hen Lew Du, wrth gwrs.

Pe bai modd i ti fod yn unrhyw anifail beth fyddet ti a pham?

Mwnci mwya’ thebyg oherwydd ma nhw’n eitha tebyg i bobl ond ddim yn cwyno gymaint…

A mae Bananas yn un o fy hoff ffrwythau felly win/win

Oes gen ti unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?

Fyswn i ddim yn cysidro fy hun fel person ofergoelus ond swni byth yn rhoi esgidiau newydd ar y bwrdd nag agor umbarel tu mewn.

Dwi bendant ddim yn coelio mewn ysbrydion.

Pa un peth wyt ti'n meddwl y dylai pawb ei wneud / roi cynnig arno o leiaf unwaith yn ystod eu hoes?

Brechdan Jam, Caws, Grapes a Rich Tea! Peidiwch a gofyn sut ddes i ar draws y cyfuniad yma, ond da chi’n methu allan os da chi ddim yn drio fo!!

Hyna neu skydiving. Be bynnag da chi’n ffafrio.

Rwyt ti ar dy ffordd i'r gwaith ar fore Llun ... pa gân sy'n drac sain yn dy ben?

Pencil Full of Lead – Paolo Nutini. Cracar o gân sy’n cael gwared ar y Monday morning blues.

Wyt ti’n gallu enwi hoff le rwyt ti wedi ymweld ag e, a dweud pam?

Patagonia – Bues i yno am bythefnos yn trafeilio ar draws y wlad i’r cymunedau Cymraeg sydd yno, ac roedd clywed yr iaith gydag acen Sbaeneg yn brofiad rhyfedd ond arbennig. Profiad hollol fythgofiadwy a dwi’n gobeithio ga’i ddychwelyd yno rhyw ddydd.

Comments

 
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576