Dewch i fy nabod: Llywydd 2023

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enw a Rôl: Bayanda Vundamina – Llywydd yr Undeb (ei/fe)

Cyflwyniad byr: Helo, fi yw Bayanda a fe/ei yw fy rhagenwau ac astudiais Biocemeg. Yn ystod fy amser yn Aberystwyth dwi wedi bod yn rhan o’r clwb Pêl-droed Americanaidd a’r Gymdeithas Affro-Caribiaidd. Cyn i fi gymryd y rôl hon, fi oedd y Swyddog Myfyrwyr Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni: Ces i fy ngeni ym Motswana a symud yma pan o’n i’n 2.

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau: Carismatig, Di-ildio, Llawn ysgogiad.

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?: Brecwast Llawn gyda Lewis Hamilton, Bukayo Saka a Nelson Mandela.

Pa ddiddordeb sydd gennych chi?: Dwi’n mwynhau pob math o chwaraeon o bêl-droed i nofio cydamserol.

Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?: Penderfynais i ar sefyll dros y rôl hon o achos i fi fwynhau fy amser yn gwneud newid fel swyddog gwirfoddol i’r dim a theimlo y gallwn i wneud mwy o newid taswn i’n sefyll dros rôl y llywydd.

At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?: Cael gweithio ar rai o’m hymgyrchoedd yn ogystal â bod llais y myfyrwyr mewn ffordd ystyrlon.

Pa achosion sydd o bwys i chi?: Yr achosion sydd bwysicaf i fi yw meithrin awyrgylch gwrth-hiliol yn Aberystwyth trwy addysg yn ogystal â darganfod ffyrdd newydd o sicrhau arian i glybiau chwaraeon a chymdeithasau.

Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?: Fy hoff le i gymdeithasu yw Bar 46 mae’n debyg, yn enwedig ar ddydd Sul yn gwylio’r bêl-droed Americanaidd.

Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?: Kudu fyswn i achos fan ganddyn nhw gyrn cwl a’u bod yn wirioneddol cwl.

Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?: Bydda’ i bob tro yn defnyddio’r un cwbicl yn y toiledau a bydda’ i’n disgwyl amdano nes ei fod yn rhydd ni waeth a oes yna un arall.

A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd? (rhowch enghraifft personol os oes eisiau): 

Cam 1. Defnyddio Skyscanner gyda’r maes awyr agosaf ar gyfer pob gwlad a’i drefnu gan y rhataf.

Cam 2. Hedfan i’r wlad rataf heb yr un cynllun a gobeithio am y gorau.

Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?: Belter – Gerry Cinnamon

Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham: Botswana, heb os, o achos fy mod i wrth fy modd yn gweld fy nheulu a mynd ar saffari.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576