Dathliad hanner canrif Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth

welsh

Mae’r Undeb Myfyrwyr Cymraeg cyntaf erioed yn dathlu hanner canrif eleni, a bydd dathlu helaeth yn Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn y 15fed o Fehefin er mwyn dynodi’r achlysur arbennig.

Sefydlwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) ym 1974 er mwyn cynrychioli llais myfyrwyr Cymraeg y brifysgol. Ers hynny, mae’r Undeb wedi chwarae rhan allweddol mewn nifer o ymgyrchoedd megis yr ymgyrch i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn fwy diweddar, Achub Pantycelyn. Bydd cyfle i chi glywed hanes cyfoethog UMCA yn y sesiwn holi ac ateb gyda chyn-lywyddion o bob degawd rhwng 15:30-16:30 ar Ddydd Sadwrn y 15fed.

Er mwyn dynodi’r achlysur arbennig hwn, mae Llywydd UMCA eleni, Elain Gwynedd wedi trefnu diwrnod llawn dathlu gan gynnwys:

  • Byffet i’r Cyn lywyddion yn Yr Hen Lew Du, hafan UMCA wrth gwrs.
  • Teithiau Tywys o amgylch Pantycelyn rhwng 13:00-15:00.
  • Sesiwn Holi ac Ateb gyda chyn-lywyddion o bob degawd ym Mhantycelyn rhwng 15:30-16:30.
  • Ac yna i goroni’r cyfan, Gwyl UMCA 50 fyny yn Undeb Aberystwyth gyda Mynediad am Ddim, sydd hefyd yn dathlu hanner canrif eleni, Dros Dro, Cyn Cwsg a Mei Emrys.

Wrth siarad am y dathliadau, dywed Elain Gwynedd, Swyddog Diwylliant Cymreig Undeb Aberystwyth a Llywydd UMCA:

‘Fuoch chi’n fyfyriwr yn Aberystwyth? Fuoch chi’n aros ym Mhantycelyn? Heidiwch yn ôl i Aberystwyth am ddiwrnod arbennig o ddathlu hanner canrif y genhadaeth.’

‘Mae gen i atgofion gwerthfawr iawn o fy amser i fel aelod o UMCA ac felly ‘dw i’n edrych ymlaen yn arw at gael dathlu hanner canrif Undeb arbennig sydd mewn gwirionedd wedi fy ngwneud i’n bwy ydw i heddiw.’

I archebu tocyn: Gwyl UMCA 50 (native.fm)

I gael rhagor o wybodaeth am Undeb Aberystwyth ac UMCA, ewch i www.umaber.co.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576