Cyflwyno'r ymgeiswyr ar gyfer yr Isetholiadau yn yr Hydref!

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Cynhadledd UCM ac Isetholiadau'r Hydref

Pleidlais yn dechrau: 9am dydd Llun 26 Tachwedd

Pleidlais yn gorffen: 3pm dydd Mercher 28 Tachwedd

Canlyniadau: 7pm dydd Mercher 28 Tachwedd 2018 ar wefan yr Undeb

 

Cyflwyno'r ymgeiswyr ar gyfer yr Isetholiadau yn yr Hydref! Mae pleidleisio'n agor am 9yb ar ddydd Llun 26ain o Dachwedd - dilynwch y ddolen a anfonwyd at eich e-bost neu cliciwch BLEIDLEISIO trwy ApAber!

Swyddogion Gwirfoddolwyr

Swyddogion Gwirfoddol yw myfyrwyr sydd wedi cael eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr ar draws y brifysgol i adborthi barn y rheiny maen nhw'n eu cynrychioli i'r Undeb, y Brifysgol a'r gymuned yn ehangach, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Mae gan bob Swyddog Gwirfoddol gyfrifoldeb penodol, a gall rhai ohonynt gynrychioli grwpiau penodol o fyfyrwyr. Felly, dim ond myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio i'r grwpiau hynny gaiff sefyll ar gyfer y swyddi hyn. Er enghraifft dim ond myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio fel menywod all sefyll neu bleidleisio ar gyfer rôl Swyddog y Menywod.

Swyddog y Myfyrwyr Anabl
Aaron Mark Daniels

Mae gen i brofiad yn rôl Swyddog Myfyrwyr Anabl, ac yr wyf yn addo sicrhau mynediad haws i bawb!

Oliver Turner

 

 

Swyddog y Myfyrwyr Annibynnol

Sam Wilding

Os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn annibynnol, pleidleisiwch dros Sam ...Yma i chi, yno i ni.

 

Swyddog y Myfyrwyr Hyn

J.M. Dearden

Wrthi’n trechu’r system ers 1988

Ashleigh Edwards

 

 

Swyddog y Myfyrwyr Ôl-Raddedig

Asif Khan

Rwyf yma i fod yn llais ar gyfer myfyrwyr Cyfrifiadureg ôl-raddedig.

 

Ymddiriedolwr

Caiff eich Undeb ei lywodraethu a'i arwain yn strategol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.  Yn y bôn, maent yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn gweithredu'n unol â'n hamcanion elusennol.  Mae 12 aelod ar Fwrdd Ymddiriedolwyr UMAber ac maent yn cyfarfod o leiaf pum gwaith y flwyddyn i gynnal ei fusnes ar eich rhan chi. 

Ymddiriedolwr Ôl-raddedig

Dan Steward

Ymgeisydd ar gyfer rôl Myfyriwr Ymddiriedolwr Ôl-raddedig

 

Cynrychiolwyr Cynadleddau UCM?

Mae Cynrychiolwyr i Gynhadledd UCM yn mynychu Cynhadledd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) i gynrychioli myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Gall cynrychiolwyr bleidleisio ar ein rhan a chyfranogi mewn trafodaethau.

Y Gynhadledd Genedlaethol

Molly-Jean Longden

Peidiwch â bod yn 'Woli', pleidleisiwch dros Molly!

Chloe Ann Wilkinson-Silk

Mae pleidlais ar gyfer Chloe mor llyfn â Silk!

Dhan Ramnatsing

Mae angen gwneud mwy ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru ar y Lefel Genedlaethol. Mae UCM yn gweithredu’n fwy fel mudiad i Loegr na sefydliad ar gyfer y DU gyfan!

Oliver Earl

Dwi’n wirfoddolwr lles myfyrwyr ers blynyddoedd ac yn fyfyriwr ôl-radd sy'n ceisio sicrhau bod eich lleisiau, eich cynigion a'ch barn yn cael eu clywed ar lefel UCM.

 

Cynhadledd Myfyrwragedd

Rosedona Williams

Pleidleisiwch drosof fi, fydda i ddim yn eich gadael chi i lawr :)

Molly-Jean Longden

Peidiwch â bod yn 'Woli', pleidleisiwch dros Molly


 

Cynhadledd UCM Cymru

Rosedona Williams

 

Oliver Earl

Dwi’n wirfoddolwr lles myfyrwyr ers blynyddoedd ac yn fyfyriwr ôl-radd sy'n ceisio sicrhau bod eich lleisiau, eich cynigion a'ch barn yn cael eu clywed ar lefel UCM.

 

Cynhadledd Ymgyrch y Myfyrwyr Anabl

Joe Kirkwood

Rydw i'n mynd i wneud gwahaniaeth i'r rhai ohonom ag anableddau.


Am fwy o wybodaeth ewch i  www.umaber.co.uk/etholiadau neu cysylltwch â mmd11@aber.ac.uk.
 

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576