Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Stephen Kingdon (Llywydd RhME Aberystwyth 19-20)

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Eleni, bûm yn Llywydd Rhwydwaith Myfyrwyr Erasmus yn Aberystwyth wrth astudio ar gyfer gradd meistr. Llynedd, bûm yn gweithio dramor, ond cyn hynny bûm yn drysorydd pan oeddem yn dal i fod yn Gymdeithas Erasmus ac Ieithoedd Ewropeaidd, cyn i ni fod yn rhan o'r rhwydwaith.

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Rwy'n credu yn fwy na dim fy mod yn gwerthfawrogi'r sgiliau a'r heriau a fyddai’n dod yn ei sgil - doeddwn i ddim wedi dal unrhyw rôl o'r blaen y gellid ei hystyried yn un â chyfrifoldeb arweinydd, felly roeddwn am brofi i mi fy hun fy mod i’n gallu gwneud hynny. Mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo bod rôl ar bwyllgor yn cymryd amser i ffwrdd o fywyd academaidd, ond gallaf ddweud bod fy marciau yn wir wedi gwella pan oeddwn i’n dal y rolau hyn - mae’n hawdd gosod rhy ychydig o werth ar y buddion a ddaw yn sgil y profiad hwn.

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Yr uchafbwyntiau oedd y cyfleoedd i weithio gydag eraill; ein taith i Gaeredin neu drefnu digwyddiadau cymdeithasol ar y cyd, teithiau diwrnod a chynnal ein cynhadledd. Hynny a'r ffaith bod myfyrwyr ar gynlluniau cyfnewid yma i fwynhau ein gwlad, felly mae'n deimlad mor wych gallu dangos Cymru a'r DU iddyn nhw.

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Yn wir, bu mwy nag ychydig o adegau fel hyn! Efallai traddodi anerchiad ffurfiol o flaen cynulleidfa o 400 o fyfyrwyr cyfnewid newydd ym mis Medi neu sicrhau ein bod pob un o’r 73 o fyfyrwyr a deithiodd i Gaeredin yn cyrraedd yn ôl mewn un darn; neu efallai ceisio helpu mewn unrhyw ffordd oedd yn bosib wrth i fyfyrwyr gael eu gorfodi i adael yn sydyn pan gychwynnodd y cyfnod cloi. Mae pob her yn brofiad dysgu fodd bynnag, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i fod â thîm anhygoel i fy nghynorthwyo. 

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Does dim amheuaeth am hyn. Pan ddes i i Aber ar ôl sefyll arholiad ysgoloriaeth, ni fyddai fy ngraddau wedi caniatáu i mi gael mynediad i unrhyw brifysgol, ac roeddwn i’r person mwyaf lletchwith y gallech ei ddychmygu. Rwy'n gadael gyda gradd baglor a gradd meistr; rydw i wedi bod ar gynllun cyfnewid i Norwy ac wedi gweithio yn Siapan a Seland Newydd. Mae'r trawsnewidiad hwnnw'n gyfangwbl oherwydd y bywyd myfyrwyr anhygoel sydd ar gael yma, ac yn fwy na dim yr hyder y gall ei roi i chi ynoch chi'ch hun, a all arwain at bethau anhygoel.

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Rwy'n credu y byddwn i'n dweud yr hyn rydw i wedi'i ddweud wrth ein pwyllgor arall - mwynhewch, cyfrannwch yr hyn rydych chi'n angerddol amdano yn fwy na dim. Byddwch yng nghwmni pobl sy'n credu'r un pethau neu sydd eisiau gwneud yr un pethau â chi eisoes, felly mwynhewch y profiad.

Os gallwch chi, byddwch hefyd yn agored i weithio gyda chlybiau a chymdeithasau eraill, oherwydd dyma ble mae'r pethau mwyaf anhygoel yn digwydd. Efallai y gallwch chi hefyd feddwl sut mae mynd ati i sicrhau y gall eich clwb neu gymdeithas fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, oherwydd os gallwch chi dyfu eich adnoddau y tu hwnt i'r hyn a all bara blwyddyn yn unig, yna gall eraill adeiladu ar yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni yn y dyfodol.


Gallwch weld mwy am RhME Aberystwyth yma. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gyfranogi yng ngweithgareddau cymdeithasau neu fod ar y pwyllgor, cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr (cyfleoeddum@aber.ac.uk).

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576