Crynodeb Rachel 21-22'

officer blogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Iawn tîm, sut mae’n mynd?

Wel, am flwyddyn! Pan ddechreuon ni ym mis Gorffennaf, roedd cyfyngiadau ar faint o bobl a allai gwrdd dan do ar waith a doedd hi ddim yn edrych yn dda ar gyfer gweithgareddau mewn person... ond ar y gair, daeth Wythnos y Glas, Sialens Aber, Farsiti, Gwyl y Cymdeithasau ac wrth gwrs yr enwog Superteams yn rhan o’n calendr a mae bywyd yn braf eto! Roedd bod yn newydd i’r rôl a hefyd i ran fwyaf o’n digwyddiadau allweddol eleni yn her, ond cawsom ni hwyl.

Eleni, un o’m blaenoriaethau oedd i gynyddu y nifer sy’n cymryd rhan yn y Tîm Aber ac oedd gweld y cynnydd mewn aelodaeth o 1371 y llynedd i’r anhygoel 3044 eleni yn coroni’r cyfan! I restru dim ond cwpl o’m huchafbwyntiau eleni yw gweld yr Wyl Gelf mewn person cyntaf ersdod yn bolisi yn 2019 ac yna yn Chwefror, eich annog i drio rhywbeth newydd gyda Rhowch Gynnig Arni (mae cael gwisg ein masgot amdanaf yn drydydd!).

Ni allai ddim byd fod wedi digwydd eleni heb bawb ohonoch yn cymryd rhan a hefyd, heb os nac oni bai, y Tîm Cyfleoedd anhygoel a sydd wedi rhoi croeso cynnes i’r sgwad i fi ac wedi mynd y tu hwnt i’rdisgwyliadau. Rwy’n edrych ymlaen yn arwiawn at gael gweithio gyda chi i gyd eto feleich swyddog ailetholedig a gwelwn ni beth gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd yn y flwyddyn newydd!

Yn olaf, rwy’n teimlo bod rhaid i fi roi diolch chwerwfelys i chi a ffarwelio â fy mhedwar cyd-swyddogion, Sabina, Elizabeth, Hannah a Mared (ac yna croesawu Elizabeth yn ôl yn glou). Rwy wir wedi caru fy amser gydachi a ni allaf aros i weld beth wnewch chinesaf yn eich bywydau fel y menywod pwerus ac anhygoel rydych chi! Ac i Elizabeth, Ash, Cam a Dafi, iddi!

Arhoswch yn cwl,

Barwise x

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576