Crynodeb RAG

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Eleni, fel un o’m blaenoriaethau, ac i ddenu mwy o fyfyrwyr i fod yn rhan o Tîm Aber, aethom ni ati i atgyfodi Wythnosau Codi a Rhoddi (RAG). Mae Codi a Rhoddi (RAG) yn fenter dan arweiniad clybiau chwaraeon, cymdeithasau a grwpiau gwirfoddol. Addewidion UMAber sydd wrth wraidd i gefnogi i chi fod yn hapus ac iach ac i ni fod yn ddylanwad cadarnhaol. 

Trwy gydol y flwyddyn, dyn ni’n ymrwymo chwe wythnos i godi arian a gwirfoddoli a rhoddwyd i bob grwp myfyriwr ei slot ei hunan. P’un a ydych chi wedi codi o dan £5 neu dros £2000, mi rydych chi i gyd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’n cyfanswm anhygoel o £14,704.34! Llongyfarchiadau! 

Eleni, gwelwyd gweithgareddau oedd yn amrywio o gymryd lleoliad drosodd i gwisys pyb, golchi ceir a mwy. Hefyd, ond heb sôn am bob dim; fe “seiclodd” Rygbi’r Dynion o Gaerdydd i Gaeredin dros “My Name’s Doddie”, fe gynhaliodd Dance Sport “Strictly for MIND”, lansiodd Curtain Call Ffair Hwyl ar y cyd gyda grwpiau eraill, cydweithiodd yr Harriers a’r UOTC i gwblhau Her Rhedeg 48 Awr dros Ambiwlans Awyr Cymru, ac fe werthodd Crefftau Aber eitemau a wnaed â llaw. 

Y flwyddyn nesaf, cadwch olwg am ragor o ddiweddariadau RAG a dysgu sut gall eich grwp gymryd rhan! 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576