Mae gweithio yn Undeb y Myfyrwyr eleni fel y Swyddog Llesiant a chael cwrdd â chymaint ohonoch chi wedi bod yn gyfle anhygoel.
Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, dwi mor falch dros yr holl bethau rydyn ni wedi’u cyflawni fel tîm ac roedd yn bleser gen i gael gweithio gyda Rachel, Elizabeth, Mared a Sabina. Fy uchafbwynt gorau oll fyddai’r UM yn ennill gwobr Ymgyrch y Flwyddyn 2022 UCM Cymru oherwydd ein ‘Ymgyrch Gwrth-Sbeicio’ ar ddechrau’r flwyddyn. Roedd yn anhygoel gweld pa mor gyflym y gallem ni i gyd ddod at ein gilydd i geisio datrys problem mawr a oedd yn effeithio ar lawer o bobl.
Mae hefyd wedi bod yn gyflawniad gwych cael cydweithio gyda’r heddlu lleol i helpu cyflwyno cais am arian oddi wrth y llywodraeth i ddechrau rhoi mesurau diogelwch ar waith i ddiogelu menywod gyda’r nos a rhag trais yn erbyn menywod a merched – gwelir cyflwyniad o ‘Gofodau Diogel’ yn y dref ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Dwi’n dymuno pob lwc i chi i gyd gyda’ch astudiaethau a gyda’ch canlyniadau ac roedd yn bleser gen i fod yn Swyddog Llesiant 2021-22 i chi.
Hannah x