Clybiau chwaraeon a chymdeithasau: cyfranogi

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Yma yn Aberystwyth mae gennym dros 50 o wahanol Glybiau Chwaraeon ac 80 o Gymdeithasau, sy'n cynnig cyfleoedd diddiwedd i chi gyfranogi. P'un a ydych am fod yn gystadleuol neu ond am gael tipyn o hwyl, gall dod yn rhan o gymuned Tîm Aber wneud eich profiad myfyriwr yn un bythgofiadwy!

Gofynnwyd i'r staff a'r tîm swyddogion i rannu eu profiadau o ymwneud â chlybiau chwaraeon a chymdeithasau, ac i gynnig hintiau handi ar sut y gallwch chi gymryd rhan:

 

Dywedwch wrthym am eich profiad personol o ymwneud â chlwb chwaraeon neu gymdeithas

Martin Dodd - Rheolwr Cymorth a Chynrychiolaeth Myfyrwyr:
Pêl-fasged

Fel swyddog bwrdd cefais gyfle i gymdeithasu â ffrindiau oes a mwynhau gweithgareddau clwb chwaraeon, er fy mod yn cyfaddef nad oeddwn mor gystadleuol yn gorfforol ag eraill. Fe roddodd gyfleoedd i mi deithio i sefydliadau / dinasoedd eraill nad oeddwn erioed wedi ymweld â nhw, yn ogystal â chwarae rhan fach mewn sicrhau bod ein tîm yn gallu cystadlu'n genedlaethol.

Amy - Cydlynydd Academaidd a Gwirfoddoli:

Llywydd Tîm Octopush.
I ddechrau, doeddwn i ddim yn mynd i sefyll am y rôl, ond dwi mor falch fy mod i wedi gwneud hynny! Fe wnaeth i mi fod yn fwy hyderus, cyfrifol a threfnus. Roeddwn i wrth fy modd yn gallu cynnig cefnogaeth i’r aelodau eraill a gwneud i bethau cadarnhaol ddigwydd yn y clwb. Llwyddais i gael mwy o amser ymarfer a’n cynnwys mewn mwy o gystadlaethau. Trwy gael mwy o gyfleoedd, roedd o gymorth mawr i ni ddatblygu ein tîm a'n sgiliau chwarae, ond roedd hefyd yn golygu ein bod wedi treulio mwy o amser gyda'n gilydd, ac oherwydd hynny fe wnes i ffrindiau oes!

Lucie - Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr:

Clwb Badminton

Roeddwn i'n rhan o'r Clwb Badminton trwy gydol fy nhair blynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bûm yn cystadlu yn BUCS ar ddydd Mercher, yn ogystal â chystadlaethau cenedlaethol BUCS bob blwyddyn hefyd. Yn fy nhrydedd flwyddyn cefais fy ethol yn Llywydd a Chapten Tîm Merched y clwb, a oedd yn brofiad dysgu gwych i mi - datblygais gymaint o sgiliau pwysig (rhoddodd hynny fantais enfawr i mi wrth ymgeisio am swyddi mewn blynyddoedd diweddarach), a hyd yn oed yn well na hynny, cefais amser gwych wrth wneud hynny. Hefyd fe enillais Liwiau Chwaraeon y Brifysgol a deuthum yn 2il yng nghystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon 2011-12, a oedd yn anrhydedd enfawr!

 

Yn eich geiriau eich hun, pam ddylai myfyrwyr ymuno â chlwb chwaraeon neu gymdeithas?

Nate - Llywydd: Mae’n gyfle i gwrdd ag amrywiaeth o bobl newydd: rhai fydd yn gefn i chi. Mae'n dda bod â ffrindiau eraill y tu allan i'ch ty a'ch darlithoedd.

Martin: Yn aml gall llawer fod â chanfyddiad nad ydyn nhw'n gystadleuol nac yn ddigon heini’n gorfforol i ymuno â thîm chwaraeon; ond maen nhw'n anghofio mai ffurfio cysylltiadau, ymarfer corff a chymdeithasu yw agweddau allweddol unrhyw Glwb Chwaraeon - pob un yn hanfodol i iechyd meddwl unigolyn.

Amy: Am fwynhad, am gyfeillgarwch ac am drefn iach ar eich bywyd! Os ydych chi'n rhan o glwb neu gymdeithas rydych chi'n ei mwynhau yna byddwch chi'n hapusach, oherwydd byddwch chi'n gwneud ffrindiau; bydd gennych chi weithgareddau ymarfer a chymdeithasol, bydd gennych chi rywbeth i edrych ymlaen ato bob wythnos ac mae’n fwyaf tebygol y byddwch chi’n gwella'ch sgiliau ym mha beth bynnag yw'ch camp neu ddiddordeb!

Lucie: I wneud ffrindiau newydd a gwahanol - dwi wedi dod i adnabod cymaint o bobl a ffrindiau oes na fyddwn i wedi cwrdd â nhw fel arall, oni bai am ymuno â Chlwb Chwaraeon. Roedd hefyd yn rhywbeth cadarnhaol i roi fy sylw iddo pan oedd gwaith y Brifysgol yn dechrau peri straen i mi, gan ei fod yn cynnig rhywbeth pleserus i mi ei wneud a rhywbeth i edrych ymlaen ato.

Eleri - Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cyfarfod â phobl y tu allan i'ch llety a thu allan i'r ystafell ddosbarth - pobl sydd â diddordebau tebyg i chi. Fe wnes i ffrindiau am oes trwy ymuno â chymdeithasau pan oeddwn i yn Aberystwyth (flynyddoedd lawer yn ôl erbyn hyn) - pobl ar wahanol gyrsiau na fyddwn i wedi cwrdd â nhw pe na bawn i wedi ymuno ag unrhyw gymdeithasau. Rydym wedi cadw mewn cysylltiad agos hyd heddiw, ac yn cwrdd ar gyfer unrhyw achlysur arbennig (cyn y canllawiau cyfredol wrth gwrs).

 

Os oes gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn ymuno â chlwb neu gymdeithas, beth yw'r camau hawsaf i'w dilyn?

Gwefan UMAber:

Edrychwch ar Dudalennau Tîm Aber ar wefan yr UM; mae popeth sydd ei angen arnoch chi yno ac ar gael trwy gydol y flwyddyn gyfan 24/7. Dyma hefyd lle gallwch chi ymuno ag unrhyw glwb chwaraeon neu gymdeithas trwy ychwanegu eu haelodaeth i'r fasged.

Os ydych chi am bori / Edrych ar fanylion y clwb chwaraeon neu gymdeithas cyn ymuno:

  1. Cyfryngau cymdeithasol: Dilynwch y grwp myfyrwyr ar gyfryngau cymdeithasol i weld beth maen nhw'n ei wneud. .
  2. Cysylltwch â'r grwp: Mae eu manylion cyswllt ar eu tudalennau gwefan - mae croeso i chi anfon e-bost at y pwyllgor cyn mynychu neu i ofyn am y cyfle nesaf i alw heibio neu roi cynnig ar beth bynnag sydd gan y grwp ar eich cyfer.
  3. Ymunwch â sesiwn flasu: Ymunwch â sesiwn wedi’i chynnal gan y grwp myfyrwyr yn ystod Cyfnod y Glas (ym mis Medi) neu Ail Gyfnod y Glas sy'n digwydd nawr (rhestr o ddigwyddiadau Ail Gyfnod y Glas yma) - perffaith ar gyfer gweld a yw grwp yn iawn i chi.
  4. Cysylltwch â Swyddfa Gyfleoedd yr UM: Os oeddech chi eisiau siarad â rhywun yn gyntaf cyn gwneud penderfyniad ynghylch ymuno, gallwch chi bob amser gysylltu â'r Swyddfa Gyfleoedd a gallwn eich helpu chi gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon a allai fod gennych - umcyfleoedd@aber.ac.uk

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576