Gyda'r Nadolig ar y gorwel, roeddem yn meddwl y byddem yn tynnu eich sylw at rai o'r busnesau bach anhygoel sydd wedi'u lleoli yma yn Aberystwyth, y gallwch chi helpu i'w cefnogi trwy siopa'n lleol yn ystod tymor yr wyl.
Ridiculously Rich by Alana
Mae Ridiculously Rich by Alana yn fecws sy'n cynnig danteithion blasus wedi'u gwneud â llaw, gan gynnwys eu Brownis Siocled Meddal, Tafell Caramel wedi'i halltu, ‘Rocky Road â Biscoff’, a mwy. Mae eu siop ar-lein yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau o ran cacennau ac eitemau arbennig, yr anrheg berffaith i anwyliaid sydd wrth eu bodd â phethau melys!
Gwefan www.ridiculouslyrichbyalana.co.uk
Instagram: ridicrichbyalana
Facebook: ridicrichbyalana
Twitter: Alana_Spencer_
Penrhiw Pottery
Mae Penrhiw Pottery yn cynhyrchu crochenwaith wedi'u gwneud â llaw. Mae eu crochenwaith i gyd yn cael ei daflu â llaw a'i wydro â llaw mewn stiwdio ym mynyddoedd y Cambrian. Yn ogystal â chynnig crochenwaith gwirioneddol ysblennydd, maen nhw hefyd yn cynnig dosbarthiadau lle gallwch chi ddysgu sut i daflu potyn eich hun neu hyd yn oed gyda'ch ffrindiau!
Gwefan: https://www.penrhiwpottery.com/
Instagram: david_brown_potter/
Facebook: PenrhiwPottery
Diva Nail Design
Mae Diva Nail Design yn arbenigo mewn estyniadau ewinedd, dylunio celf ewinedd, sglein gel, trin dwylo, trin traed, cwyro a lliwio aeliau. Maent yn cynnig gostyngiad o 10% i fyfyrwyr trwy'r flwyddyn (dewch â'ch cerdyn myfyriwr gyda chi) ac mae talebau rhodd ar gael hefyd. Felly beth am roi'r rhodd o driniaeth gyda Diva Nail Design y Nadolig hwn?
Instagram: divanaildesignaberystwyth
Facebook: divanaildesignaberystwyth
No. 21 Flowers
Siop flodau annibynnol yn Aberystwyth yw No. 21 Flowers, ond mae’n siop wahanol. Y tymor hwn maen nhw'n cynnig trefniadau blodau a thorchau Nadoligaidd. Gallwch hyd yn oed archebu pecyn i wneud eich torch eich hun. Maen nhw hefyd yn cynnig dewis eang o blanhigion ar gyfer y ty, rhai mewn potiau, yn ogystal â chanhwyllau ac anrhegion i bawb. Gallwch naill ai eu casglu neu maen nhw’n dosbarthu’n lleol, gyda'r opsiwn i anfon rhai pethau trwy’r post ar draws y DU.
Gwefan www.no21flowers.co.uk
Facebook: no21flowers
Instagram: no21flowers
Broc Mor
Mae Broc Môr yn gartref i rai o'r anrhegion mwyaf chwaethus o Gymru. Wedi'u hysbrydoli gan fyd natur hyfryd o’u hamgylch a phopeth sy’n ymwneud â Chymru, maent yn ymfalchïo mewn dod o hyd i roddion sydd dipyn yn arbennig, gyda phrisiau ar gyfer poced pawb. Lle perffaith i ddod o hyd i anrheg unigryw y Nadolig hwn.
Gwefan: https://welshhomegifts.co.uk/
Instagram: brocmor
Facebook: brocmor
CACTWS
Pan fyddwch chi'n camu i mewn i CACTWS neu'n pori trwy eu gwefan, fe welwch ddetholiad amrywiol o ddillad, ategolion ac esgidiau i ddynion, yn ogystal ag eitemau ar gyfer dull o fyw fel canhwyllau, goleuadau a thecstilau. Fel myfyriwr, gallwch gael gostyngiad o 10% pan fyddwch chi’n siopa gyda'ch ID myfyriwr.
Gwefan: https://www.cactws.co.uk/
Instagram: cactws
Facebook: cactwsaber
Polly
Mae gan Polly dair siop hyfryd yn nhref glan môr Aberystwyth, pob un yn cynnwys casgliad o nwyddau â'r labeli annibynnol gorau o ran dillad, esgidiau, ategolion ac anrhegion. Mae Polly hefyd yn cynnig cardiau rhodd, sy'n ffordd wych o ganiatáu i'r sawl sy’n derbyn eich rhodd i ddewis yr union eitem y maen nhw ei heisiau.
Gwefan: https://pollyaberystwyth.com/
Instagram: pollyaberystwyth
Facebook: PollyAberystwyth
Silver Mountain
Gallwch ymweld â’r Silver Mountain, man lle mae hanes, myth a chwedl yn gwrthdaro mewn diwrnod allan gwych i'r teulu cyfan. Gallwch fynd ar antur gyda dewis o deithiau wedi’u tywys gan ddarganfod hanes y gweithfeydd Arian a Phlwm, neu ddysgu am chwedlau Cymreig yn un o’r sioeau dan arweiniad actor. Felly beth am roi taith o’r Silver Mountain yn anrheg i rywun y Nadolig hwn?
Gwefan: https://www.silvermountainexperience.co.uk/
Instagram: silvermountainexp
Facebook: SilverMountainExperience
Ultimate Xscape
Yn Ultimate Xscape Aberystwyth, rhaid i chi ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau i ddatgloi eich dihangfa. O fewn 60 munud, mae'n rhaid i chi a'ch tîm weithio'ch ffordd trwy'r cliwiau, cracio'r cod ac osgoi cael eich rhoi dan glo. Maent hefyd yn cynnig talebau rhodd, sef y ffordd berffaith i roi'r profiad gwych yma i rywun y Nadolig hwn.
Gwefan: https://www.ultimatexscape.co.uk/
Instagram: ultimatexscapeaber
Facebook: ultimatexscapeaber
Siop y Pethe
Mae Siop y Pethe yn cynnig casgliad o Anrhegion Cymreig, Crefftau Cymreig a Llyfrau Cymraeg a Chymreig. Gyda'r opsiwn hefyd o archebu o'u siop ar-lein, mae'n berffaith i'r rhai sy'n dal i fod angen prynu'r anrhegion munud olaf hynny! Ar hyn o bryd maent hefyd yn cynnig danfon am ddim os ydych chi'n defnyddio cod CLUDOAMDDIM25 wrth y ddesg dalu ar unrhyw archeb yn ystod y pythefnos nesaf (tan ddydd Sul 20fed Rhagfyr) os ydych chi'n gwario dros £25.
Gwefan: https://siopypethe.cymru/
Instagram: siopypethe
Facebook: siopypethe
Twitter: siopypethe
Pretty Littles Things
Mae Pretty Little Things yn gwneud gemwaith ym mynyddoedd Cambrian wedi'i ysbrydoli gan draeth Aberystwyth. Maen nhw’n cynnwys pethau bach tlws wedi’u darganfod ar y traeth, fel gwydr môr, cerrig mân a chrochenwaith, yn eu gwaith gan roi cysylltiad ag arfordir hyfryd Aberystwyth i bob darn.
Gwefan: https://www.prettylittlethings-aberystwyth.com/
Instagram: prettylittlethings.aberystwyth
Facebook: prettyaberystwyth
Closet Aberystwyth
Brand dillad ac ategolion ar gyfer menywod yw Closet. Mae Closet yn cynnig rhywbeth gwahanol trwy stocio eitemau ysblennydd ac eclectig sy’n gweddu i unrhyw siâp corff, oedran a lliw croen. Maen nhw hefyd newydd agor siop newydd yn Aberystwyth, felly cofiwch fynd draw i weld beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig.
Gwefan: https://closetfashion.co.uk/
Instagram: closet_fashion_uk
Facebook: closetaberystwyth
Dim ond detholiad o’r busnesau bach rhyfeddol sydd wedi'u lleoli yma yn Aberystwyth yw’r rhain, sydd nid yn unig angen eich cefnogaeth y Nadolig hwn, ond trwy gydol y flwyddyn. Felly, os nad ydych chi yn Aberystwyth ar hyn o bryd, neu os ydych chi eisoes wedi cynllunio ymlaen llaw ac wedi prynu eich anrhegion, gallwch chi bob amser alw heibio a dweud helo ar ôl i chi ddychwelyd y semester nesaf.