Byddwch yn Swyddog Rhan-Amser a chewch gydnabyddiaeth ar eich ACAU

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae bod ar y blaen wastad yn bwysig ac ni ddylai eich gwaith rydych chi'n ei wneud i gynrychioli myfyrwyr eraill gael ei wastraffu.

Mae'r Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch yn ddogfen sy'n caniatáu i gyflogwyr weld pa weithgareddau ychwanegol a wnaethoch pan oeddech chi yn y Brifysgol. Yn ogystal â rhestru'ch cyrraeddiadau academaidd, mae'n cynnwys eich cyfranogiad mewn ambell weithgaredd allgyrsiol p'un a oeddech yn gynrychiolydd academaidd eich cwrs, yn aelod o bwyllgor eich clwb chwaraeon neu gymdeithas neu, yn olaf ond nid lleiaf, roeddech yn Swyddog Rhan Amser.

Prif bwrpas yr ACAU oedd cydnabod dau beth:

* Mewn byd o lawer o raddedigion, mae angen rhywbeth mwy ar gyflogwyr na dim ond gradd i wneud eu penderfyniad.

* Mae bod yn swyddog rhan amser, yn gynrychiolydd academaidd neu weithredu clwb neu gymdeithas yn datblygu'r sgiliau sy'n eich gwneud chi'n fwy cyflogadwy.

Felly, ni ddylai hynny fod y prif reswm dros ystyried sefyll etholiad fis Chwefror hwn ond gallwn ni eich sicrhau bydd eich gwaith caled yn cael ei gydnabod os byddwch chi am sefyll! Sefwch yn Etholiadau'r Swyddogion 2017 drwy fynd i www.umaber.co.uk/etholiadau

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576