Mis Hydref - Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd
Helo bobl hyfryd!
Felly, heddiw yw diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, sydd yn fy nhyb i, yn ddiwrnod perffaith i mi rannu fy mlog cyntaf erioed! Rydw i'n mynd i fod yn anfon un o'r negeseuon hyn bob ychydig fisoedd, ac wrth gwrs maen nhw'n mynd i fod yn ymwneud ag iechyd a llesiant.
Ar thema iechyd meddwl, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n cychwyn gyda fy hintiau handi ar gyfer bod yn hapus ac yn iach yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth:
1) Ymunwch â chlwb neu gymdeithas - Gall ymwneud â chlwb neu gymdeithas chwaraeon wneud i chi deimlo'n rhan o grwp ac efallai hyd yn oed ddod fel ail deulu, a fydd yn helpu os ydych chi'n teimlo'n unig neu'n hiraethus - sy’n digwydd i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ar ryw adeg neu’i gilydd. Roedd bod yn rhan o’r Clwb Syrffio yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol wir yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i mi, ac fe helpodd i ddod o hyd i ffrindiau a fydd yn para am oes.
2) Cadwch mewn cysylltiad - Mae bywyd prifysgol yn amlwg yn brysur iawn ac mae'n hawdd cael eich gormesu gan eich bywyd newydd; bydd cofio galw'ch anwyliaid yn rheolaidd nid yn unig yn gwneud i chi deimlo'n well gobeithio, ond bydd hefyd yn tawelu eu meddyliau; rwy'n siwr y byddant yn poeni mwy amdanoch chi nag yr ydych chi'n sylweddoli.
3) Symudwch - Gall creu amser i wneud ychydig o ymarfer corff bob dydd helpu i wella eich hapusrwydd cyffredinol. Boed yn sesiynau ymarfer wythnosol clwb neu gymdeithas, efelychu fideo ioga deng munud ar YouTube neu ddim ond cerdded i fyny'r bryn i ddarlithoedd yn hytrach na dal y bws - mae pob ychydig yn helpu!
4) Cysgwch yn rheolaidd - Gall cydbwyso astudiaethau, bywyd cymdeithasol a chwsg fod yn anodd, ond os ydych chi'n teimlo'n brin o egni’n aml, yna byddwn yn argymell eich bod yn blaenoriaethu cysgu ar adegau rheolaidd. Ni all eich ymennydd a'ch corff weithredu'n iawn os nad ydyn nhw wedi cael cyfle i ail-wefru'n llawn.
5) Bwyta'n Dda - Gall bod yn brysur neu heb arfer coginio i chi'ch hun arwain at lawer o brydau parod a bargeinion bwyd sydd, yn anffodus, ddim yn dda i'ch ymennydd, eich corff na’ch cyfrif banc. Mae bwyta'n dda yn hanfodol i deimlo'n dda, felly ceisiwch wneud eich coginio eich hun ac ychwanegu mwy o ffrwythau a llysiau at eich diet.
6) Treuliwch ychydig o amser ym myd natur: Mae natur yn gallu codi’ch ysbryd os ydych chi'n teimlo'n isel, ac mae hefyd yn ffordd hyfryd o glirio'r meddwl. Mae byw yn Aber yn golygu ein bod wedi’n hamgylchynu gan harddwch naturiol a milltiroedd o wahanol lwybrau cerdded.
Gan bwyll, dim ond yr ail wythnos ddysgu yw hi! P'un a ydych chi wedi cael eich darn cyntaf o waith wedi'i farcio'n is na'r disgwyl, wedi cael trafferth gwneud ffrindiau, neu’n teimlo'n hiraethus efallai, mae'n bwysig cofio mai dim ond ddyddiau cynnar yw’r rhain, a chymryd ychydig o gamau i wneud gwahaniaeth.
Ac yn olaf, y peth pwysicaf yw: gofynnwch am help os oes ei angen arnoch chi! Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef yn dawel, ac mae amryw o wasanaethau ar gael i'ch cefnogi p'un a yw'n Wasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, wedi'i leoli yn y Ganolfan Groeso Myfyrwyr neu Wasanaeth Cynghori UMAber.
Mae yna hefyd y Wal Fawr Wen, sy'n darparu cefnogaeth anhysbys gan gyfoedion a phroffesiynwyr 24 awr y dydd - y cyfan sydd ei angen yw eich manylion mewngofnodi yn Aber i gael mynediad i’r gwasanaeth hwn.
A dyna’r cwbl gen i am y tro, gobeithio eich bod chi i gyd yn mwynhau dechrau'r tymor, ac os nad ydych chi - siaradwch â rhywun amdano!
Llawer o gariad gan eich Swyddog Llesiant, Lydia :) xx