BalchderAber: Athletwyr trans femme a rhyngrywedd

Efallai bod ‘Wythnos Mae’r Ferch Hon yn Gallu’ wedi mynd heibio, ond roedd BalchderAber eisiau amlygu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud tuag at gydraddoldeb drwy dynnu eich sylw at athletwyr trans femme a rhyngrywedd sydd wedi wynebu anawsterau ac wedi ymladd dros hawliau athletwyr traws eraill.

AberPrideBalchAberThis Aber Girl CanThis Girl Canwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Nod wythnos Mae’r Ferch Hon yn Gallu yw codi ymwybyddiaeth a grymuso menywod i wahanol raddau ac mewn gwahanol ffyrdd, fel modd i ymladd yn erbyn y stigma a gyflawnir yn sgil rheolaeth batriarchaidd. Fel cyfraniad Balchder i wythnos Mae’r Ferch Hon yn Gallu a symud ymlaen tuag at gydraddoldeb, roeddem am lunio erthygl sy'n dathlu athletwyr traws-femme a rhyngrywiol sydd wedi wynebu anawsterau ac wedi ymladd dros hawliau athletwyr traws eraill i allu cystadlu mewn chwaraeon.

Mae Mianne Bagger yn golffiwr proffesiynol a gafodd ei geni yn Nenmarc yn ddyn. Cafodd Mianne lawdriniaeth ailbennu rhywedd ym 1995, ar ôl symud i Awstralia flynyddoedd ynghynt, a dechreuodd gymryd rhan mewn golff unwaith eto ym 1998 fel amatur. Fel y byddwch yn sylweddoli wrth ddarllen yr erthygl hon, roedd amryw o unigolion yn anghytuno â hawl Bagger i ddychwelyd, gan honni gan ei bod wedi cael ei geni'n ddyn, a byddai ganddi fantais hormonaidd ac o ran cyhyrau dros gystadleuwyr benywaidd eraill. Serch hynny, nid dyma yw’r achos. Fel yr esboniodd Bagger ar y pryd, mae yna nifer o elfennau Ffisiolegol, gan gynnwys lleihau gallu cyhyrau, a fyddai’n effeithio ar unigolyn a oedd yn trawsnewid rhywedd.

Fodd bynnag, nid oedd gan Gymdeithas Golff Menywod Awstralia unrhyw waharddiad ar fenywod oedd wedi trawsnewid, oedd felly’n caniatáu i Bagger chwarae, ac fe’i derbyniwyd gan chwaraewyr eraill, fel Laura Davies a Rachel Teske. Yn 1999, enillodd Bagger ei phencampwriaeth gyntaf yn Ne Awstralia, gan ailadrodd y gamp trwy ennill eto yn 2001 a 2002. Yn 2003, cyfarfu â chomisiynydd Cymdeithas Golffwyr Proffesiynol y Menywod (LPGA), Ty Votaw. Yn anffodus, doedd hi ddim yn cytuno, gan honni bod eu rheolau’n golygu, os oedd rhywun am chwarae yng nghategori’r menywod “bod rhaid iddynt fod wedi cael eu geni’n fenywod.” Mae Bagger, fel llawer o unigolion traws eraill, yn credu nad bioleg yw’r unig ffactor sy’n effeithio ar rywedd, ac felly gwrthododd y rheolau. Fodd bynnag, awgrymodd Votaw y gallai'r rheolau newid ar ryw adeg.

Daeth un o'r newidiadau mwyaf mewn dyfarniadau chwaraeon yn 2004, pan ail-werthusodd Pwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd eu dyfarniadau ar athletwyr oedd wedi trawsnewid rhywedd, a sbardunodd newidiadau pellach mewn dyfarniadau ym maes chwaraeon eraill. Roedd hyn yn cynnwys: Taith Ewropeaidd y Menywod yn diwygio eu meini prawf ar gyfer aelodaeth, LPG Awstralia yn newid eu cymal ar ‘fenywod adeg eu geni’, Undeb Golff y Menywod yn cyhoeddi newid polisi, gyda phob un yn caniatáu i Bagger a golffwyr eraill oedd wedi Trawsnewid Rhywedd allu chwarae ar deithiau amrywiol yn Awstralia, y DU ac Ewrop.

Stori Chloe Anderson yw'r nesaf, chwaraewr Pêl-foli ym Mhrifysgol Santa Cruz, sef yr athletwr traws cyntaf i gystadlu ar lefel Adran 3 y Gymdeithas Athletau Colegol Cenedlaethol (NCAA) - eu fersiwn nhw o BUCS. Mae hi wedi disgrifio ei bywyd cyn trawsnewid rhywedd fel bod “oddi ar y radar,” gan ei bod eisiau osgoi bwlio a chael ei churo bob dydd yn yr ysgol feithrin a’r ysgol ganol am fod yn wahanol. Mae’n cyfaddef iddi encilio i’w hystafell, gan fethu yn yr ysgol.

Sylweddolodd pan oedd hi yn y 6ed dosbarth / blwyddyn 1af yn y coleg, ei bod yn drawsryweddol a dechrau ymchwilio ar frys, gan sylweddoli nad oedd hi ar ei phen ei hun. Ar ôl dod allan, gadawodd llawer o ffrindiau hi, cafodd ei gwahardd o raglen diwtora ac nid oedd ei theulu'n barod iawn i’w derbyn chwaith. Ond roedd ganddi Bêl-foli o hyd, a gweithiodd yn ddiflino i wella yn y gamp er mwyn gallu cael ysgoloriaeth chwaraeon yng Ngholeg Orange Coast. Yn anffodus ni ddigwyddodd hynny, ond gwrthododd roi'r gorau iddi a gwneud cais i UC Santa Cruz. Mae hi'n cofio bod yr hyfforddwr  “eisiau fi ar unwaith. Nid oedd y ffaith fy mod i'n draws o bwys. Roed yn fy ngweld i am fy ngallu athletaidd ac am sut roeddwn i'n chwarae.”

Ar ôl cyrraedd Santa Cruz, fe wynebodd rywfaint o adlach gan athletwyr benywaidd eraill, oedd yn feirniadol o safiad y sefydliad ar athletwyr trawsryweddol, gan honni y byddai hormonau Testosteron yn rhoi mantais annheg iddi. Ymatebodd gan ddweud “Nid yw pobl sy'n dweud bod gan athletwyr traws gwryw-i-fenyw fantais gorfforol erioed wedi cymryd hormonau. Mae'n un peth i ddysgu amdano yn y dosbarth bioleg, ond peth arall yw ei fyw." Heblaw am yr adlach hon, roedd yn teimlo'n gartrefol; derbyniodd ei chyd-chwaraewyr hi fel unigolyn cyfartal, gan siarad yn onest ac yn agored am yr effeithiau ariannol, emosiynol a chorfforol y gall trawsnewid rhywedd gael ar berson.

Mae ein stori olaf yn ymwneud â’r Rhedwr Olympaidd Mokgadi Caster Semenya, dynes Rhyngryw Cisryweddol sydd yn naturiol â lefelau uwch o Testosteron. Cafodd gryn lwyddiant yn y Gemau Olympaidd, gan ennill medal Aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn yr 800m a Phencampwriaethau'r Byd yn 2009 a 2017 yn y ras 800m. Ar ôl y sgandal gyffuriau’n ymwneud â Mariya Savinova, dyfarnwyd y fedal Aur iddi ym Mhencampwriaethau'r Byd 2011 a Gemau Olympaidd yr Haf 2012, y naill a’r llall yn yr 800m.

Fodd bynnag, dim ond oherwydd nifer fawr o negeseuon e-bost a chwestiynau a anfonwyd at Gymdeithas Ryngwladol y Ffederasiynau Athletau (IAAF) y codwyd amheuaeth ynghylch hunaniaeth Semenya, o ran ei hymddangosiad a’i gallu corfforol. Ymatebodd yr IAAF trwy ddweud bod ganddynt “ddyletswydd i ymchwilio,” gan honni bod y gwella yn amseroedd Semenya yn sail dros gynnal profion cyffuriau a rhywedd. Dyma a arweiniodd at orfodi Semenya yn dod allan fel Rhyngryw a datgelu bod ei lefelau Testosteron yn eithriadol o uchel o gymharu â'r mwyafrif.

Nid oedd yn bosib i Semenya gystadlu eto tan tua diwedd 2010. Yn ystod yr amser hwn, bu adlach gynyddol yn erbyn yr IAAF, a arweiniodd at gyhuddiadau o hiliaeth systemig tuag at lywydd yr IAAF a chyhuddiadau o esgeulustod wedi’u hanelu at hyfforddwr Semenya. Cliriwyd Semenya gan yr IAAF ym mis Gorffennaf, gan ganiatáu iddi gystadlu 9 diwrnod yn ddiweddarach, ond ni ryddhawyd canlyniadau’r profion rhywedd yn swyddogol - hyd yn oed ar ôl iddi ddod allan fel Rhyngryw. Ni wnaeth hyn atal sibrydion bod gan Semenya organau cenhedlu gwryw a menyw, ac mae'n hynny’n parhau.

Fodd bynnag, yn 2015 newidiwyd y rheol oherwydd yr achos llys Dutee Chand v. Ffederasiwn Athletau India (AFI) a Chymdeithas Ryngwladol Ffederasiynau Athletau, oedd yn datgan nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod lefelau naturiol uwch o Testosteron mewn menywod yn peri effaith fanteisiol. Arweiniodd hyn wedyn at newid rheol arall gan ddechrau yn 2018, lle parhaodd yr IAAF i ddweud bod lefelau uwch o Testosteron yn cael effaith fanteisiol, gan arwain at reol yn nodi bod yn rhaid i'r rhai yr effeithir arnynt gan lefelau uwch o testosteron gymryd cyffuriau i gydbwyso’r hormonau hynny.

Gwrthododd Semenya, gan nodi y byddai’n herio dyfarniad yr IAAF yn gyfreithiol. Yn anffodus collwyd yr achos yn y Llys Cyflafareddu ar gyfer Chwaraeon, ond arweiniodd at IAAF yn egluro rhai o'r newidiadau yn y rheolau. Yna aethpwyd â’r achos i’r Goruchaf Lys Ffederal yn y Swistir, lle cyfarwyddwyd yr IAAF i atal gweithredu'r newid yn y rheolau. Cafodd hyn wedyn ei wrthdroi yn ddiweddarach gan y Llys, gan ganiatáu i'r cynnig barhau. Mae Semenya wedi dweud bod y frwydr gyfreithiol hon wedi “dinistrio fy llesiant meddyliol a chorfforol.”

Fodd bynnag, dyma’r hyn mae wythnos Mae’r Ferch Hon yn Gallu yn ceisio’i gyflawni; dangos menywod sy'n ymladd yn erbyn y system ac yn grymuso ei gilydd i sefyll dros gydraddoldeb ac ymladd yn ôl. Gobeithiwn, trwy ddarllen hwn, y byddech yn cytuno â’r teimladau a’r caledi sydd wedi cael ei wynebu gan Semenya, Mianne a Chloe, ac y byddwch yn parhau i ymladd dros hawliau Traws.

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576