Heia bawb, Elizabeth yw fy enw i a fi yw eich Swyddog Materion Academaidd. Dyma rai pethau yr hoffwn i fod wedi gwybod cyn cyrraedd Aberystwyth:
- Mae’r tywydd yn eithaf mwyn trwy gydol y flwyddyn, hyd yn oed yn y gaeaf, felly does dim angen sgarff neu unrhyw ddillad gaeaf/eira arnoch chi....ond heb os bydd angen côt law arnoch...ac mae’n mynd wyntog iawn yr agosach i’r mor yr ewch...
- Ni allwch gerdded am 10 munud heb gyrraedd bryn...serch bynnag, wrth ddweud hynny, mae popeth o fewn pellter cerdded. Mae tua 15 munud ar ei hiraf ar draws y dref i gyd; dych chi byth yn rhy bell o unlle.
- £5 yw’r gost arferol i fynd i fyny’r bryn at y llety.
- Os oes gennych gar, mae’n gyfle gwych i fynd ar deithiau o gwmpas yr ardal yma i’r holl drefi/traethau ciwt... serch hynny, nid yw parcio yn Aber ar ben rhestr o’r pethau hawsaf i’w wneud...
- Er bod yna ond un clwb nos, nid yw’n golygu na allwch chi gael yr amser gorau...mae noson allan da yn dibynnu ar y cwmni.
- Erbyn diwedd y flwyddyn byddwch wedi prynu mwy o le storio ar eich ffôn dim ond ar gyfer yr albwm lluniau yn unig o’r enw ‘machludiadau’ y byddwch wedi’i greu.
Dwi’n gobeithio y cewch chi’r amser gorau yma a chadwch yn ddiogel xx