#Awgrymiadau’rSwyddogion – y Pethau Gorau i’w Wneud yn Aber

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Heia bawb, fi yw Sabina, Llywydd newydd eich UM! Dyma rai o fy hoff bethau i’w gwneud yn Aber.

Dwi’n gobeithio bod yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i setlo a’ch cadw’n brysur yn ystod eich wythnosau cyntaf.

  • Y Prom – Ewch i gael hufen iâ neu ddiod poeth yn un o’r sawl lle sydd yno. (Fy hoff lefydd yw PD’s Diner a Ridiculously Rich)
  • Diwrnod ar y traeth gyda choelcerth – Bod ar y traeth ar fin-nos yw’r ffordd orau o dreulio misoedd yr haf!
  • Mwynhau siopau coffi Aber – Yn y gaeaf, mae llawer o siopau coffi ciwt i’w mwynhau ac efallai i wneud gwaith ynddynt.
  • Siopau elusen – Dwi bendant yn argymell chwilio am fargen mewn siop elusen! Mae cymaint o siopau elusen yn Aber, felly ewch a’ch ffrindiau a chael hwyl arni.
  • Cerdded – Mae llawer o lefydd hyfryd i fynd am dro o gwmpas Aber, gan gynnwys Craig Lais (Consti), Pen Dinas a Choedwig Penglais. Un peth fy mod i’n ei awgrymu 100% yw gwylio machlud neu’r wawr o un o’r llefydd anhygoel hyn.
  • Yr Arcêd – Treulio’r dydd yn arcêd ddifyrion y Pier Brenhinol!! (gan orffen gyda pheint y tu allan ar y pier)
  • Ymlacio yn yr UM – gallwch chwarae pwl, yfed peint neu ddau, neu ddod i gael llonydd ac astudio.

Mwynhewch eich hunain a chadwch yn ddiogel!!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576