Heia bawb! Mared dwi, eich Llywydd UMCA a’ch Swyddog Diwylliant Cymreig, dyma fy hoff lefydd gan arbed arian ar yr un pryd!
Fel yn y rhan fwyaf o drefi Prifysgol mae’n rhaid mai’r Wetherspoons anfarwol yw un o’r bwytai rhad gorau. Wedi’i leoli ger yr orsaf drenau ei hun i lawr yn y dref, mae Spoons yn lle gwych i gael bwyd a pheints gyda’ch ffrindiau i lenwi’r bol cyn noson allan neu drannoeth noson drom y diwrnod nesaf.
Yn bersonol, mae’n rhaid mai fy hoff le i gael tecawe sy’n weddol rhad ac ychydig yn fwy iach na’r lleill (ond ddim yn ormod fel nad yw’n teimlo fel trît) fyddai Fusion King!!! Dwi’n argymell y bocs reis gyda Pad Thai a’r Cyw Iâr Mel (honey chicken)... cewch fy niolch i wedyn!
Yma yn Aberystwyth mae rhestr ddiddiwedd o gaffis, siopau a delis bach a lleol. Dyma rai dethol ar sail ar y llefydd dwi ymweld â nhw, ac y baswn i’n eu hawgrymu.
Caffis:
- Sophie’s
- Mikey’s
- Ceaser’s
- Home Café
Bwytai/Tafarndai:
- Yr Hen Lew Du – Dyma’r lle i gael bwyd tafarn gartref go iawn! Mae’r byrgyrs yn fwy na’ch pen a gallwch chi gael stêc 12oz gyda’r holl drimins am ddim ond £15! Am fargen!!
- Harry’s
- Inn on the Pier
- The White Horse
Mae gennym ni gwpwl o Delis yma yn Aberystwyth – fy hoff rai yw Morgan’s a Chives. Mae Morgan’s yn gwneud y roliau brecwast GORAU ac os ydych chi’n chwilio am lond plât am bris bach yna dyma’r lle i fynd!! Mae Chives yn fwy o far salad/brechdan sy’n dda ar gyfer cinio cyflym ac iach.
Dyma obeithio bod hyn yn rhoi cipolwg ar yr holl lefydd anhygoel i fwyta yn Aber. Mae’n debyg y gallwch fynd ati i drio pob un ohonynt yn ystod eich amser yma. Gadewch i mi wybod beth yw eich barn! Dwi’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd ym Medi. Os oes yna unrhyw ffordd y gallwn ni’r swyddogion helpu, rhowch wybod!
Gwela’ i chi’n fuan,
Mared