#Awgrymiadau’rSwyddogion – Pethau Defnyddiol i’w Prynu Cyn Aberystwyth

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Heia bawb, Hannah ydw’i a fi yw eich Swyddog Llesiant UM. Llongyfarchiadau ar eich canlyniadau a chroeso cynnes i Brifysgol Aberystwyth!

  • Dyma restr o ychydig o bethau yr hoffwn i fod wedi dod gyda fi i’r brifysgol pan gyrhaeddais i dair blynedd yn ôl, gan obeithio y bydd o help i chi yn y dyfodol hefyd:
  • Côt law:  Gallai’r tywydd yma wir fod yn ddiflas weithiau, doeddwn i ddim wedi prynu côt law i fy hun, gan ddifaru’r penderfyniad hwnnw o fewn y dyddiau cyntaf.
  • Ceblau: I chi’r gêmars a gor-wylwyr yno, mae’r llety myfyrwyr yn eich darparu gyda’r pyrth, ond heb y ceblau. Os ydych yn bwriadu dod â chonsol , cyfrifiadur, neu deledu yna baswn i’n argymell prynu’r ceblau iddynt cyn i chi gyrraedd yma fel ar unwaith i chi symud i mewn, y gallwch chi gychwyn arni yn syth.
  • Pinnau ar gyfer Byrddau Pin – Mae yna fyrddau pin ym mhob ystafell yn neuaddau’r brifysgol. Mae mor ddefnyddiol i gael pinnau iddynt cyn gynted ag ydych yn symud i mewn fel eich bod yn gallu rhoi eich posteri a phethau eraill i fyny, bydd y lle’n teimlo’n fwy cartrefol.
  • Esgidiau Cerdded/Heicio – Tra’n byw yn Aberystwyth efallai y byddwch yn canfod eich hun yn mynd am lawer o droeon ar hyd y traeth, yn y goedwig, neu hyd yn oed lan mynyddoedd a gyda’r tirwedd yma, mae’n cymaint brafiach os oes gennych chi esgidiau pwrpasol.
  • Blanced benodol ar gyfer y Traeth – Mae’n llawer neisach i gael coelcerth neu BBQ ar y traeth pan nad oes rhaid i chi eistedd ar y cerrig oer ac wedi’r goelcerth, maent yn tueddu i ddrewi o fwg tân, felly mae wastad yn ddefnyddiol i benodi un ar gyfer y pwrpas hwn yn unig, fel nad oes rhaid i chi ddifetha eich blancedi neis!
  • Sharpies – Mae’r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer marcio eich eiddo sy’n debyg i bethau y bobl dych chi’n rhannu ty gyda nhw fel nad ydych yn drysu eich pethau (e.e. plygiau ffôn, clustffonau, platiau...). Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i brynu cyllyll a ffyrc lliwgar, fel nad ydynt yn cael eu drysu neu eu cymysgu chwaith.
  • Rhywbeth ar gyfer eich Drws – Y tu allan i’r rhan fwyaf o ddrysau ystafelloedd gwely yn llety’r Brifysgol mae bwrdd pin bach, byddai’n wych bod â rhywbeth arno sy’n eich cynrychioli chi ac mae’n ei gwneud hi’n haws i wybod pwy sy’n byw ym mha ystafell.
  • Haen ychwanegol i roi ar y Matres – Beth yw’r peth pwysicaf pan yn cysgu? Dyna fe, CYSUR.  Gwnewch yn siwr i ddod â hawn ychwanegol i roi ar eich matres er mwyn sicrhau y cysur mwyaf posibl gan eich gwely prifysgol (achos nid ydynt y gorau)
  • Gwisg ffansi – Dych chi byth gwybod i ba fath o ddigwyddiadau cymdeithasol y byddwch yn mynd neu ba fath o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yn ystod eich amser yn y Brifysgol, felly mae wastad yn dda cael rhywbeth ffynci i wisgo amdanoch rhag ofn.
  • Dillad Nofio – Dych chi byth yn gwybod pryd fyddwch yn teimlo’n ddigymell ac eisiau mynd i nofio neu drochiad yn y môr, mae yna hefyd lwyth o lefydd dwr croyw i nofio o gwmpas Aberystwyth.
  • Gwn ty a sliperi/sleidars – Does dim gwaeth na chael eich deffro gan larwm dân a dim byd i’w wisgo’n gyflym a mynd i’r tu allan, bydd cael rhywbeth cyflym a hawdd i’w wisgo cyn gynted â’ch bod wedi cael eich deffro yn gwneud y broses yn haws o lawer.
  • Bag Mawr i Gario’r Golch – Mae’n llawer haws i fynd i lawr i’r ystafell olchi pan allwch gario’r cwbl un bag mawr!

Gobeithio y cewch chi i gyd hwyl a mwynhau eich amser yn Aberystwyth bawb!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576