#Awgrymiadau’rSwyddogion – Ffyrdd Gorau o Wneud Ffrindiau Newydd

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Heia, Rachel ydw’i, eich Swyddog Cyfleoedd. Yn gyntaf, croeso i Aberystwyth!

Y peth cyntaf a darodd fi tra’n symud i Aber oedd pa mor gyfeillgar a chymdeithasol yw’r bobl. Digwyddais i gwrdd â’r bobl y byddwn yn rhannu ty gyda nhw yn fy ail a thrydedd flwyddyn ar fy noson gyntaf allan ac hanes yw’r gweddill!

Mae yna lwyth o ffyrdd i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau yma, ond dyma fy nhri uchaf:

  1. Trefnu noson i mewn (neu noson allan) gyda’r bobl dych chi’n rhannu ty â nhw!

Dych chi i gyd wedi symud i Aberystwyth o bedwar ban y byd, byddwch chi naill ai wedi’ch cyffro ac yn barod i fynd allan neu wedi blino’n lân ac eisiau cysgu! Chwiliwch am amser yn Wythnos y Glas, neu’n syth ar ôl, ac ystyriwch y cyfle fel ‘Noson Ddod i Nabod Ein Gilydd’. Gallwch chi naill ai fynd ar daith dafarn gyda’ch gilydd neu aros i mewn a chwarae gemau neu wylio ffilm. Beth bynnag dych chi’n ei ddewis gyda’ch gilydd, mae’n ffordd anhygoel o sefydlu cyfeillgarwch yn gynnar.

  1. Ymunwch â chlwb neu gymdeithas!

Fel Swyddog Cyfleoedd, dwi ychydig yn bleidiol ond wir yn meddwl mai dyma’r ffordd orau o wneud ffrindiau hir oes.  Mae clybiau a chymdeithasau yn ardderchog oherwydd eu bod yn gwarantu eich bod chi’n rhannu o leiaf un peth yn gyffredin gyda’r aelodau eraill – eich diddordebau! Mae rhai yn gwybod ar unwaith pa glybiau a/neu gymdeithasau maen nhw am ymuno â nhw pan fyddant yn mynd i’r brifysgol ond mae rhai yn hoff o chwilio am sbel. Mae’r ddau yn hollol iawn! Os hoffech chi gael blas ar grwp cyn ymuno, beth am i chi fynd i ddigwyddiad cymdeithasol neu fynd i’w ddigwyddiadau yn Wythnos y Glas? Os dych chi am gael cipolwg ar y clybiau chwaraeon a’r cymdeithasau sydd i’w cael, ewch i TîmAber (www.umaber.co.uk)

        3. Ewch i Ddigwyddiadau Wythnos y Glas yn yr UM!

Mae yna lwyth o ddigwyddiadau yn yr UM yn ystod Wythnos y Glas hon ac maent i gyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd! Yn ogystal â nosweithiau adloniant fel Cwis Mawr yr UM a fydd yn rhoi cychwyn cyffrous ar Wythnos y Glas a Bingo Lingo, mae gennym sesiynau ‘Cwrdd a Chyfarch’ er mwyn i fyfyrwyr o gefndiroedd tebyg gael gyfarfod a ffurfio cymunedau. Maent yn sesiynau hamddenol ac anffurfiol eu naws lle efallai y byddwch yn cael eich hun yn sgwrsio am sbel! Felly, os nad ydych chi’n hoff o nosweithiau trwm, mae dal yna ofodau a llefydd i chi gael cyfarfod pobl newydd! I gael mwy o wybodaeth am ein holl ddigwyddiadau, ewch i Digwyddiadau (www.umaber.co.uk)

Un o fy mlaenoriaethau eleni yw sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo fel eu bod yn perthyn i gymuned yn Aber, pa bynnag cymuned y bo! Os hoffech chi gael sgwrs am yr hyn sydd ar gael neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch e-bostio fi cyfleoeddum@aber.ac.uk a byddaf yn fodlon i helpu.

Mwynhewch!

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576