2023 Crynodeb BUCS

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Wrth i rhan gyntaf o’r tymor 23/24 ddod i ben, dyma edrych yn ôl ar dymor cyffrous o ddigwyddiadau a chofrestru 26 o dimoedd ar draws 14 o wahanol chwaraeon. 

Ar ôl ennill 35 o weithiau y tymor hwn, mae’r timoedd mewn hwyliau da iawn wrth fynd i weddill y flwyddyn. 

Siaradom ni gyda â thri o’n timoedd mwyaf llwyddiannus y tymor hwn. Tîm 1aF Pêl-rwyd y Menywod, Tîm 1af Badminton y Dynion a Thîm 1af Pêl-rwyd y Menywod. 

Mae Tîm 1af Pêl-rwyd y menywod wedi gwneud yn aruthrol o dda a hynny yn y tymor cyntaf, gan ennill 5 o’r holl gemau a chwaraewyd. Dyma oedd ganddynt i'w ddeud ynglyn â’r tymor hyd yma:  “Mae bwrlwm braf yn y clwb y tymor hwn ac roedd gennym ni dros 100 o ferched yn ymarfer gyda ni yn ôl ym mis Medi. Mae’r merched yn ymarfer yn galed ac yn mwynhau chwarae pêl-rwyd yn fawr iawn. Aeth y rhan gyntaf yn wych ac rydyn ni’n benderfynol o gadw’r momentwm ar hyd weddill y tymor.” 

Mae Tîm 1af Badminton y Dynion wedi aros yn gryf iawn yn sin chwaraeon Aberystwyth gan ennill 4 o’u 5 gêm. Cawsom ni siarad gyda Chapten y Dynion i glywed mwy: “Mae’n braf gweld y gallem ni gadw ar y blaen yn y rhaniad hon er gwaethaf i ni golli ychydig o chwaraewyr da ar ôl y graddio. Dwi’n credu bod yr hyfforddiant ychwanegol a wnaethom y llynedd wedi talu’r ffordd. Ein nod nesaf yw trio ein gorau glas yn erbyn y timau yn y rhaniad uwch!” 

Y tymor hwn, tîm Pêl-rwyd y Menywod sydd drechaf gan ennill pob un o’u gemau. Cawsom ni sgwrsio gyda Chapten y Menywod i’w drafod: "Mae tîm y menywod wedi gwneud yn arbennig o dda hyd yn hyn wrth ennill pob gêm ond un eleni. Mae gennym ni dipyn o chwaraewyr gwych yn ymuno â’r clwb ac rydyn ni wedi bod yn hyfforddi’n galed ac yn gweithio gyda’n gilydd ac mae wedi talu’r ffordd. Dwi’n edrych ymlaen at beth a ddaw gyda’r flwyddyn newydd ac yn gobeithio parhau i ennill.” 

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth wnaiff ein timoedd yn y tymor 2 a thu hwnt!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576