Yn cyflwyno eich Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA...

Gwion Llwyd Williams yw’ch Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA eleni. Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo diwylliant Cymru gan roi cyfle i fyfyrwyr Aber ddysgu, siarad a byw'r iaith.

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Gwion Llwyd Williams yw’ch Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA eleni.

Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo diwylliant Cymru gan roi cyfle i fyfyrwyr Aber ddysgu, siarad a byw'r iaith.

Dyma gyflwyniad bach i ddod i’w adnabod, beth wnaeth o astudio yma yn Aber & pam iddo sefyll am y rôl hon:

O ble wyt ti'n wreiddiol?

Penygroes, ger Caernarfon

Beth astudioch chi ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Hanes a Hanes Cymru

Pam wnes di ddewis astudio yn Aberystwyth?

Un o’r prif resymau oedd gwybod flaen llaw am y gymdeithas gryf Gymraeg oedd yma yn Aberystwyth. Gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf adref a trwy’r ysgol, roedd cael gwybod am UMCA a Pantycelyn yn drobwynt i mi fynd i astudio i Aberystwyth. Drwy siarad gyda nifer o gyn-fyfyrwyr a chyn-aelodau o UMCA, dim ond cymeradwyo'r gymdeithas Gymraeg oedd yma oeddynt. Ond o ran Aberystwyth fel tref, teimlaf fod y lleoliad yn atyniad yn ei hun. Digon pell oddi cartref, ond digon agos ar y llaw arall. Mae'r ffaith ei bod wedi ei lleoli yn y canolbarth yn gallu denu myfyrwyr ar draws Cymru gyfan. Ond yn ogystal ei bod wedi cael ei lleoli ger y môr. Credaf fod y cyfle o fyw ychydig funudau oddi wrth y môr nid yn unig wedi denu fi yn bersonol, ond nifer o fyfyrwyr eraill.

Pam wnes di sefyll am y rôl hon?

Chwaraeodd UMCA rhan fawr o fy nhair blynedd fythgofiadwy yma fel myfyriwr yn Aberystwyth. O fyw ym Mhantycelyn yn fy mlwyddyn gyntaf i fod yn aelod o’r pwyllgor yn fy nhrydedd, teimlaf ei fod yn rôl berffaith i mi yn dilyn hyn. Cymerais ran yn nifer helaeth o ddigwyddiadau UMCA, gan gynnwys nifer eraill o gymdeithasau Cymraeg sy'n cael eu cynnig yma. Oherwydd hyn teimlaf fy mod yn gallu ateb gofynion myfyriwr a deall sut i lwyddo i gynnal Undeb Myfyriwr yma sydd yn agored i ystod eang o siaradwyr Cymraeg.
Mae fy ymrwymiad i sicrhau fod llais Cymraeg yn cael ei gynnal o fewn y Brifysgol yn un o’r prif resymau pam wnes i sefyll am y rôl yma. Un o’r prif amcanion yw gwneud yn siwr fod y Brifysgol yn sicrhau fod Pantycelyn yn cael ei ail-agor fel llety cyfrwng Cymraeg erbyn 2019. Credaf fod fy mhrofiad o fyw ym Mhantycelyn a fy’n nealltwriaeth o’r pwysigrwydd o’i hail-agor i allu cynnal cymdeithas Cymry Cymraeg yma wedi bod yn ffactor mawr i redeg am y rôl. Yn olaf, teimlaf fod fy gennai'r bersonoliaeth gref sydd ei hangen i redeg Undeb Myfyrwyr er mwyn ateb gofynion fydd yn cael eu rhoi i mi trwy gydol y flwyddyn.

Ffaith ddiddorol neu 'random' amdana ti dy hun...

Yn ystod pencampwriaeth Cymru yn yr Ewros, llwyddais i fynd i bob gêm gan aros yn Ffrainc trwyddo (28 diwrnod!).

At beth wyt ti’n edrych ymlaen eleni?

Rwyf yn edrych ymlaen at wneud yn siwr fod yna lais Cymraeg cryf yn cael ei gynnal o fewn y Brifysgol. Drwy gynnal digwyddiadau i hybu diwylliant Cymreig oddi fewn y dref, teimlaf y bydd y flwyddyn sydd o fy mlaen yn un a fydd yn rhoi llawer o brofiad personol i mi at y dyfodol. Mae’n hanfodol i fyfyrwyr Cymraeg teimlo ei fod yn gallu byw drwy’r Gymraeg yma yn Aberystwyth ac rwyf yn ysu i allu sefydlu hyn yn y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, rwyf yn edrych ymlaen at gyflwyno rhai syniadau newydd yn UMCA, a byddaf yn ceisio eu datblygu a chynnig mwy o gyfleoedd i bobl Gymraeg ymaelodi a chymryd rhan yn ein digwyddiadau.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576