1. Pam wyt ti'n cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dwi wastad wedi bod yn berson egnïol, a dwi'n diflasu'n hawdd, felly does dim ffordd yn y byd y gallaf i eistedd o flaen sgrin deledu. Dechreuais ymddiddori mewn chwaraeon pan oeddwn i yn yr ysgol, gan mai dyma oedd y ffordd orau i ddefnyddio fy holl egni - sylweddolais fy mod i'n weddol dda mewn sawl gwahanol gamp. Dwi hefyd yn berson cystadleuol iawn, felly mae chwaraeon yn ffordd dda iawn o sianelu hyn.
2. Pa gampau wyt ti'n eu chwarae?
Fe ddes i i Aberystwyth ar ysgoloriaeth hwb-ddawnsio, felly dwi wedi dal ati, a fi bellach yw hyfforddwraig dawnsio Hwb-ddawnswyr Taranau Aberystwyth. Dwi wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau hwb-ddawnsio ar lefel genedlaethol gyda thîm o'r enw Cheer Force Odyssey a Cheer Force Ten, a llwyddom i ennill y teitl cenedlaethol y tro diwethaf i mi gystadlu gyda nhw. Dwi nawr hefyd yn chwarae Pêl-droed Americanaidd dros y Brifysgol, a dwi wedi bod yn chwarae ers 2 flynedd; dwi'n chwarae yn safle cefnwr amddiffynnol (DB). Dwi bellach yn adnabod capten a hyfforddwr Pêl-droed Americanaidd Menywod GB, a byddaf yn mynd am dreialon y flwyddyn nesaf.
3. A thithau'n ferch, pa heriau wyt ti wedi eu hwynebu mewn chwaraeon?
Gyda hwb-ddawnsio'n gamp i fenywod yn bennaf, dydw i ddim wedi wynebu llawer o gamwahaniaethu o fewn y gamp. Serch hynny, mae canfyddiad pobl o'r tu allan o hwb-ddawnsio'n seiliedig ar ystrydebau, a dwi'n cael fy labelu o'r herwydd. Mae llawer yn tueddu i feddwl fy mod i'n cymryd rhan yn y gamp er mwyn denu sylw bechgyn, ac mae eraill o'r farn nad yw'n gamp o gwbl! Mae rhai, yn eu hanwybodaeth, yn credu fy mod i'r siglo fy mhom-poms a gweiddi fy nghefnogaeth yn or-frwdfrydig o'r ystlys. Rydyn ni'n cystadlu, rydyn ni'n ymarfer yn galed ac mae'n anodd.
Ar y llaw arall, dwi wedi taflu fy hun i mewn i gamp sy'n cael ei dominyddu gan ddynion. Roedd hi wastad yn mynd i fod yn anodd integreiddio fy hun oherwydd fy mod i'n llai o faint, ac yn gorfforol, ni ddylwn i fod yn gallu 'taro fel dyn'. Roedd yno ganfyddiad y buaswn i'n 'flodyn bach bregus' fyddai'n methu bod yn ddigon ymosodol i daclo rhywun dwbl fy maint, nac yn gallu ymdopi â chael fy mwrw i'r llawr fel sachaid o datws. Yn fy sesiwn ymarfer gyntaf; mewn dril taclo, doedd neb am fynd yn fy erbyn i. Ar ôl edrych o fy nghwmpas i weld a oedd unrhyw un arall ddim mewn pâr, fe heriais i e, a dyna'r peth gorau y gallwn i fod wedi'i wneud. Dwedais wrtho am fy mwrw i mor galed â phosib, ac i beidio dal yn ôl. Does dim angen dweud, pan lwyddais i osgoi ei ymgais ar fy nhaclo, gan ei fwrw i'r llawr, cafodd hynny gryn dipyn o sylw, gan newid meddwl ambell un.
4. Beth wyt ti wedi ei gyflawni mewn chwaraeon? Unrhyw gymhwyster?
I mi, y peth pwysicaf dwi wedi'i gyflawni yw newid barn pobl am fenywod mewn campau cymysg. Mae fy nheitlau cenedlaethol a'r wefr o ennill yn hwyl, ond yr hyn fydd yn aros yn y cof yw'r effaith barhaus y gallaf ei chreu.
5. Beth sydd gen ti i’w ddweud wrth ferched yn Aber sydd am roi cynnig ar chwaraeon, ond sydd yn rhy ofnus?
Mae'n debyg bod rhaid i chi ofyn i chi eich hun pam eich bod yn ofnus. Byddwch yn gwneud ffrindiau am oes, byddwch yn hapusach a byddwch yn gallu teimlo'n falch o'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Mae chwaraeon i bawb, ac mae Aber yn lle go dda i naill ai roi cynnig ar rywbeth newydd neu i ail-afael mewn hen ddiddordebau. Mae'r clybiau sydd gennym ni'n barod iawn i dderbyn mai dyma o bosib yw eich cynnig cyntaf ar unrhyw gamp, a does neb byth 'ddim yn ddigon da'. Os nad ydych chi'n credu eich bod chi'n ddigon heini, mae'n ddigon posib y cewch eich synnu gan yr hyn y gallwch chi ei wneud eisoes, a gallwch bob amser ymdrechu i fod yn ffitiach. Os nad oes gennych chi'r hyder i ymuno ar eich pen eich hun, gofynnwch i ffrind ddod gyda chi, neu cysylltwch â rhywun sydd yn y tîm - mae pawb wrth eu bodd cael aelodau newydd. Os nad ydych chi'n gwybod ble i ddechrau, gallwch gael hwyl yn rhoi cynnig ar bob un o'r opsiynau rydych chi'n fodlon eu hystyried. Credaf mai'r rhwystr anoddaf yw dechrau, a chynted i chi gychwyn syrthio mewn cariad â champ, mae'r ymroddiad a'r ymarfer yn dod yn hawdd i chi. Neidiwch allan o'ch ardal gysur a byddwch yn gweld canlyniadau; nid dim ond o'r ochr chwaraeon, ond fel person cyflawn. Os nad ydych chi'n fodlon mentro, sut fyddwch chi byth yn gwybod?