Dydd Llun 10 Hydref yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ac er mwyn ceisio diddymu'r stigma sy'n perthyn i iechyd meddwl, mae swyddogion UMAber yn cynnal Wythnos Iechyd Meddwl er mwyn annog myfyrwyr i ddarganfod gwahanol ffyrdd y gallant edrych ar ôl eu hunain gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn hapus ac yn iach yn ystod eu hamser yn y brifysgol.
Dydd Llun 10 Hydref yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ac er mwyn ceisio diddymu'r stigma sy'n perthyn i iechyd meddwl, mae swyddogion UMAber yn cynnal Wythnos Iechyd Meddwl er mwyn annog myfyrwyr i ddarganfod gwahanol ffyrdd y gallant edrych ar ôl eu hunain gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn hapus ac yn iach yn ystod eu hamser yn y brifysgol.
Cynhelir ystod o weithgareddau gydol yr wythnos, megis cyfnewidfa lyfrau, dosbarthiadau ymarfer corff yn y ganolfan chwaraeon, sesiwn fyfyrio a Noson Fawr wedi'i chynnal gan ein cymdeithas Meddyliau Myfyrwyr, a llawer, llawer mwy.
https://www.facebook.com/events/157633564694302/
Un o'r gweithgareddau a gynhelir gydol yr wythnos yw Lein Ddillad Llesiant, lle byddwn yn gofyn i bobl ysgrifennu sylwadau anhysbys ar un o'n sanau pinc, a'i gosod mewn blwch ar y stondin yn adeilad UM Aber. Gallai fod yn gyfaddefiad ynglyn â'ch iechyd meddwl, darn o gyngor ar gyfer y rheiny sy'n ymladd brwydr neu rannu syniadau ar sut i edrych ar ôl eich llesiant eich hun. Bydd y lein ddillad llesiant i'w gweld yn adeilad UMAber gydol yr wythnos.
I nodi diwedd Wythnos Lesiant Meddwl UMAber, ond dechrau ymgyrch y flwyddyn swyddogion llawn amser UMAber, byddwn yn lansio ymgyrch #stefansSocks yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar 15 Hydref.
Dechreuodd ymgyrch #stefansSocks llynedd er cof am Stefan Osgood, oedd wastad yn gwisgo sanau pinc yn ystod digwyddiadau chwaraeon.
Cafwyd teyrnged i Stefan gan Lywydd UMAber, Lauren Marks, yn ystod Defod Raddio yng Ngorffennaf, lle derbyniodd ei deulu Radd Baglor mewn Gwyddoniaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth ar ei ran:
"Daeth Stefan Osgood, oedd yn wreiddiol o Wallasey ar y Wirral, i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2012, a threuliodd bedair blynedd yn byw, yn astudio ac yn gwneud argraff barhaol ar gymuned Prifysgol Aberystwyth. Ym mis Mawrth eleni, bu farw Stefan o ganlyniad i salwch y bu'n dioddef ohono, yn dawel a gydag urddas, ers blynyddoedd lawer. Ers hynny, mae corff y myfyrwyr wedi dangos ysbryd cymunedol eithriadol o gryf, gan godi dros £10,000 ar gyfer elusen MIND (ffigwr sy'n dal i dyfu)."
"Dechreuwyd ymgyrch Sanau Steffan yn ystod cystadleuaeth Rhyngolgampau eleni i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, ac ers hynny, mae wedi cael ei mabwysiadu gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant, Clwb Rygbi Vikings Abertawe ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Lerpwl, ac mae'n parhau i ledaenu ar draws y wlad. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer Iechyd Meddwl ar bob lefel wedi ei gwella, a bydd yn parhau i gael ei gwella."
Darllenwch deyrnged Lauren yn llawn yma
Mae UMAber yn falch o gefnogi ymgyrch #stefansSocks, fydd yn rhedeg gydol y flwyddyn, a buasem yn annog pawb, gan gynnwys timoedd chwaraeon, i brynu #SanauStefan pinc o'r dderbynfa yn UMAber.
Cynhelir ystod o ddigwyddiadau ar ddydd Sadwrn 15 Hydref i lansio #stefansSocks yn swyddogol, gan ddechrau gyda gêm rygbi rhwng Vikings Abertawe a BSB Aberystwyth ar gaeau'r Ficerdy; hyn oll er mwyn #stefansSocks ac i godi arian ar gyfer MIND Aberystwyth.
Am 7pm byddwn yn cynnal parti ar ôl y gêm a lansio ymgyrch #stefansSocks yn swyddogol. Cynhelir cystadlaethau cleddyfa gan glwb cleddyfa'r Brifysgol, ceir cerddoriaeth fyw gan Pretty Visitors, gemau fideo gan Gymdeithas Gemau Aber, a llawer mwy.
Mae mynediad am ddim, serch hynny rydyn ni'n gofyn i chi wneud cyfraniad bach at MIND Aberystwyth.
Mae mwy o wybodaeth ar gael am ein digwyddiad Facebook swyddogol yma: https://www.facebook.com/events/995033367271678/
Cynhelir mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol i gefnogi ymgyrch #stefansSocks, ac os oes gan unrhyw fusnesau lleol neu'r cyhoedd yn gyffredinol ddiddordeb mewn cyfranogi, buasem wrth ein bodd yn gweithio gyda'r gymuned leol.
