Adeg hon o'r flwyddyn, mae grwpiau neu dudalennau answyddogol y Glas yn dechrau ymddangos ar Facebook. Caiff llawer o'r rhain eu creu gan hyrwyddwyr neu gwmnïau i gasglu eich manylion personol ac i elwa o docynnau digwyddiadau maen nhw wedi'u trefnu.
Nid ni na'r Brifysgol sy'n gweithredu'r tudalennau hyn, a gallech golli arian drwy ymuno â nhw. Yn aml, caiff gwybodaeth ei phostio gan gyfrifon ffug sy'n hyrwyddo digwyddiadau'r Glas answyddogol, ac mae'n bosib nad yw'r rhain yn bodoli o gwbl.
Os gwelwch gynnig neu ddigwyddiad ar werth nad ydynt ar ein gwefan nac ar ein sianeli cymdeithasol, gwiriwch gyda ni'n gyntaf – neu gyda'r Brifysgol – cyn i chi dalu unrhyw arian a pheidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol ar-lein.
Mae ein swyddogion a'n staff wrth law i ateb unrhyw ymholiad drwy ein tudalen Facebook ac ar ebost (undeb@aber.ac.uk).
Caiff holl ddigwyddiadau swyddogol y Glas eu cyhoeddi ar ein tudalen Facebook ac ar www.umaber.co.uk
Tudalennau swyddogol
Tudalen Facebook UMAber
Grwp Facebook Glas Aber
Tudalen Facebook y Brifysgol