PAM BOD YN GYNRYCHIOLYDD ACADEMAIDD?

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Os ydych chi am wneud gwahaniaeth i brofiad myfyrwyr yn eich adran, am wella eich cyflogadwyedd a chwrdd â llwyth o bobl newydd, yna mae bod yn Gynrychiolydd Academaidd yn rôl berffaith i chi!

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn hanfodol bwysig i lais myfyrwyr a sicrhau bod myfyrwyr yn cael y gorau allan o'u hamser yn y brifysgol, yn ogystal â sicrhau bod y myfyrwyr i gyd yn cael eu cadw'n gyfoes â'r newidiadau cyffrous sy'n digwydd parthed eu haddysg. Fel Cynrychiolydd, eich prif swyddogaeth yw casglu adborth gan eich cyd-fyfyrwyr a rhannu hon mewn PYSM (Pwyllgorau Ymgynghorol Staff Myfyrwyr) adrannol. Cynhelir y rhain ar gyfartaledd 3-4 gwaith y flwyddyn, ac maen nhw'n gyfle gwych i sbarduno newid gwirioneddol o fewn adrannau ac ar draws y brifysgol. Fel Cynrychiolydd Academaidd, byddwch hefyd yn mynychu Parth Academaidd yr Undeb, sy'n helpu i ddylanwadu ar bolisi academaidd yr Undeb, a gallwch hefyd bleidleisio yng ngyfarfodydd Cyngor yr Undeb. Byddwch y chwarae rôl allweddol yn ymgyrchoedd yr Undeb a gallwch helpu i greu newid cadarnhaol gwirioneddol.

Mae bod yn Gynrychiolydd yn gyfle gwych i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a'r staff, gan ddod yn bartner o fewn eich adran. Byddwch hefyd yn meithrin amryw o sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr, gan gynnwys trefnu, arweinyddiaeth a chyd-drafod. Mae rhai o'n Cynrychiolwyr hyd yn oed yn cadeirio eu PYSM, gan eu darparu â phrofiad anhygoel sy'n eu helpu i sefyll allan o'r dorf pan fyddant yn mynd ati i wneud cais am swyddi.

Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yma'n gefn i chi yn ystod pob cam o fod yn Gynrychiolydd Academaidd, o ymgeisio am y rôl, i'ch hyfforddiant cychwynnol, a thu hwnt. Rydyn ni'n cynnig sesiwn hyfforddiant cychwynnol i bob un o'n Cynrychiolwyr ar ddechrau eich cyfnod yn y rôl er mwyn cyflwyno'r gofynion ac esbonio popeth, yn ogystal â dod i adnabod y Cynrychiolwyr eraill. Gydol y flwyddyn, rydyn ni hefyd yn cynnig cyfleoedd eraill a hyfforddiant pellach, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer siarad cyhoeddus a sgiliau cyfarfod - fydd i gyd yn amhrisiadwy pan fyddwch chi'n gadael Aberystwyth. Gellir cofnodi eich holl waith caled ar eich Cofnod Gwirfoddoli unigol ar ein gwefan ar gyfer cydnabyddiaeth bersonol, a chaiff eich swydd ei chydnabod ar eich cofnod HEAR pan fyddwch chi'n gadael y Brifysgol. Bydd gennych chi hefyd gyfle i gymryd rhan yn ein Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr (UMAber yn Dathlu: Dysgu) ym mis Ebrill, ac mae gennym ni hyd yn oed wobr ar gyfer Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn!

Eleni, mae'r cyfnod ymgeisio rhwng dydd Gwener 22ain Medi a dydd Llun 9fed Hydref, a chynhelir y bleidlais ar-lein rhwng y 18fed a'r 22ain Hydref. 

I ymgeisio, ewch i'n gwefan: www.umaber.co.uk/etholiadau

Mae bod yn Gynrychiolydd Academaidd yn gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod eich cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi alw heibio'r Undeb neu anfon e-bost ataf ar umacademaidd@aber.ac.uk.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576