Daeth UMAber yn ôl o seremoni Gwobrau Cenedlaethol y Cymdeithasau a gynhaliwyd gan Undeb Myfyrwyr Nottingham ar y 19 Mai gyda 3 gwobr a chanmoliaeth.
Daeth UMAber yn ôl o seremoni Gwobrau Cenedlaethol y Cymdeithasau a gynhaliwyd gan Undeb Myfyrwyr Nottingham ar y 19 Mai gyda 3 gwobr a chanmoliaeth.
Cyrhaeddodd cymdeithasau Aber y rhestr fer yn 10 allan o'r 15 o gategorïau.
Mae Llywydd UMAber, Lauren Marks, wrth ei bodd â'r fuddugoliaeth:
"Dwi'n hynod falch o holl ymdrech aruthrol ein grwpiau o fyfyrwyr eleni a'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni. Dim ond un ffordd yn unig oedd y gwobrau heno o gydnabod ein grwpiau am eu gwaith anhygoel. Roedd hi'n arbennig o braf gweld Undeb Myfyrwyr y gellir ei alw'n Undeb llai a'n grwpiau o fyfyrwyr yn cyflawni ar yr un lefel â rhai o'r undebau mwyaf yn y DU, ac mae hynny'n dystiolaeth o'r ymroddiad, ymrwymiad a brwdfrydedd diddiwedd a ddangosir gan ein myfyrwyr. Llongyfarchiadau i'n holl fyfyrwyr a grwpiau a gafodd eu henwebu, y rheiny a gyrhaeddodd y rhestr fer a'r rheiny a enillodd wobrau ar y noson. Bu'n noswaith wych a gobeithio bydd modd i TîmAber barhau i gynrychioli ar lefel genedlaethol ymhell yn y dyfodol."
Llongyfarchiadau i'r holl gymdeithasau a gafodd eu henwebu am Wobr Genedlaethol y Cymdeithasau a da iawn i'r rheiny ddaeth yn ôl gyda gwobr.
Gweler lluniau a manylion isod:
Gwobr Unigol am Gyfraniad Aruthrol
Enillydd: Emma Beenham – Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Cymdeithas Wirfoddol ac Elusennol Orau
Enillydd: UNICEF ar y Campws Aber.
Cymdeithas Academaidd a Gyrfaoedd Orau
Enillydd: Cymdeithas Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Aber (ECWS).
Cyfraniad at y Gymuned Leol
Canmoliaeth: Cymdeithas Gynaladwyedd Aber (SustSoc).
Llun i ddilyn