Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr – Buddugoliaeth i Aberystwyth!

Fel rydych chi wedi'i weld ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae Aberystwyth wedi cyrraedd brig tabl canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF).

laurenofficerblogwelshpresidentwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Fel rydych chi wedi'i weld ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae Aberystwyth wedi cyrraedd brig tabl canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF).

Mae'r ACF yn arolwg cenedlaethol a wnaed gan fyfyrwyr israddedig sy'n gofyn iddyn nhw roi sgôr o ran pa mor fodlon roedden nhw â sawl agwedd wahanol o'u hastudiaethau, eu bywyd yn y brifysgol a'u Hundeb Myfyrwyr.

Eleni, mae Prifysgol Aberystwyth wedi neidio i fyny 9 safle yn nhabl yr ACF a bellach mae ganddi'r 4edd sgôr uchaf yn y DU o ran boddhad ei myfyrwyr ar y cyfan (92%) a'r fraint o fod y brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad ei myfyrwyr. Mae hwn yn ganlyniad rhagorol ac yn glod mawr i holl staff anhygoel Prifysgol Aberystwyth. Mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd i greu'r amgylchedd gorau ar gyfer astudio ac mae'r brifysgol wedi dangos ei bod hi'n gwrando ar anghenion myfyrwyr ac yn ymateb iddynt a'i bod hi wedi ymrwymo i wella profiad ein myfyrwyr. Fel Llywydd yr Undeb eleni, dwi'n hynod gyffrous i barhau i weithio gyda'r brifysgol i sicrhau bod barn myfyrwyr yn bwysig a bod eu lleisiau'n cael eu clywed i wneud i Aberystwyth fod mor dda ag y gall fod.

Mae'n newyddion da i Undeb y Myfyrwyr hefyd, am ein bod ni wedi dringo 3% i 62% o ran boddhad myfyrwyr, ond pan ofynnom ni am eich barn ar eich campau a chymdeithasau, cafwyd sgôr o 91%. Rhaid rhoi clod i holl waith anhygoel ein myfyrwyr a'ch undeb o ran hwyluso'r holl gampau a chymdeithasau sydd ar gynnig yn Aberystwyth.

Yn ogystal â'r ACF, yn dilyn adolygiad yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd o Brifysgol Aberystwyth fis Ebrill, mae'r adroddiad ar ganlyniadau a'r argymhellion i'w gweld yma. Ar ôl bod yn Brif Gynrychiolydd Myfyrwyr a chyflwyno Cyflwyniad Ysgrifenedig Myfyrwyr, dwi wedi bod yn gweithio gyda'r brifysgol i ddrafftio cynllun gweithredu ar gyfer yr adroddiad terfynol a'r Cyflwyniad, a dwi eisoes wedi creu newidiadau mawr a fydd yn dwyn budd i fyfyrwyr o eleni ymlaen. Bydda i'n chwarae rhan fawr yn y broses fonitro gydol eleni ac yn sicrhau y bydd y gweithredoedd hyn yn digwydd.

Mae'n braf gweld gwaith mor wych gan bawb ym Mhrifysgol Aberystwyth, o academyddion, staff cymorth a'n myfyrwyr anhygoel, ac mae hyn oll yn codi fy nghyffro a fy optimistiaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576