Aled Haydn Jones
Ddirprwy Ganghellor, Is-ganghellor, ddarpar raddedigion a chefnogwyr. Mae'n anrhydedd ac yn fraint cyflwyno Aled Haydn Jones ar gyfer Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau o Brifysgol Aberystwyth.
Ganed Aled yn Aberystwyth yn 1976, i'w rieni Haydn ac Ann; ei deulu oedd perchenogion Caffi Morgan - un o gaffis mwyaf poblogaidd Aberystwyth. Mynychodd Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Penweddig – ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg. Cwblhaodd gwrs BTEC mewn Astudiaethau'r Cyfryngau yng Ngholeg Abertawe, ac mae'n rhugl yn y Gymraeg.
Dechreuodd ei yrfa radio pan oedd yn 14 oed, fel cyflwynydd slot ar Radio Bronglais Aberystwyth. Ymunodd â gorsaf radio fasnachol Radio Ceredigion ar ôl ei lansio yn 1992, cyn ymuno â BBC Radio 1 fel rhedwr yn 1998, gan symud ymlaen i fod yn gynorthwyydd darlledu ac yna'n gynhyrchydd. Cafodd y llysenw "BB Aled" yn sgil ei adolygiadau o Big Brother, ac mae'n fwyaf enwog am ei rôl ar dîm DJ Chris Moyles. Ymunodd â sioe'r pnawn yn gyntaf, ac aeth ymlaen i oruchwylio lansio sioe frecwast Chris Moyles yn 2004 - sioe frecwast fwyaf hirhoedlog Radio 1. Yn 2008, cymerodd Aled yr awenau gan gyflwyno "The Surgery" ar nos Sul, gan helpu cynulleidfaoedd ifanc i ganfod datrysiadau i'r problemau roeddynt wedi cysylltu â'r sioe i'w trafod. Mae Aled yn falch o'i wreiddiau yn Aberystwyth, ac roedd yn allweddol mewn dod â sioe Radio 1 i Aberystwyth a darlledu'n fyw o stiwdios y BBC yn yr adran theatr, ffilm a theledu. Mae Aberystwyth a'r iaith Gymraeg wastad wedi cael sylw ar raglen frecwast Chris Moyles, a rhoddwyd sylw pellach i Aber ar lefel y DU pan ddychwelodd y sioe i'r dref a gwelwyd Chris Moyles yn cario'r ffagl Olympaidd drwy'r dref a thua'r brifysgol.
Mae Aled yn weithgar iawn dros bobl ifanc, ac mae'n cadeirio panel Arwyr yn eu Harddegau, sydd ynghyd ag elusennau ieuenctid, DJs Radio 1 ac enwogion eraill, yn dewis tri o bobl ifanc eithriadol a dewr i dderbyn gwobr Arwyr yn eu Harddegau Radio 1. Hefyd cyflwynodd "The B Word" ar BBC Radio 1 yng Nghymru, a "Social Action Bullying" ar BBC Wales, y naill raglen a'r llall yn rhoi sylw i effeithiau bwlio a sut i'w wrthsefyll. Mae wedi cynnal a chadeirio amryw o fforymau ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys "The Big Conversation" ar Radio 1. Mae Aled wastad yn gweithio i roi llais i bobl ifanc; mae wedi cadeirio "Get Hired Live" yn Wembley, digwyddiad ar gyfer helpu graddedigion i ganfod swyddi gyda chwmnïau yn y DU. Mae hefyd wedi cadeirio Cynhadledd Iechyd Ieuenctid, a ariannwyd gan Ysbyty Plant Birmingham er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu syniadau ynglyn â'r GIG, a bu'n siaradwr gwadd yn "Her Syniadau Mawr Cymru", gan roi anogaeth i entrepreneuriaid ifanc. Mae Aled hefyd wedi arwain noson "Gwobrau Twristiaeth Cymru" Mae Aberystwyth yn hynod falch o Aled a'r hyn mae wedi ei gyflawni, o ran hyrwyddo'r dref ac am ei waith gyda phobl ifanc.
Ddirprwy Ganghellor, pleser o'r mwyaf yw cyflwyno Aled Haydn Jones i chi ar gyfer Gradd Baglor yn y Celfyddydau er Anrhydedd.
Stefan James Osgood
Dirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw dyfarnu Gradd Baglor yn y Gwyddorau Er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth i Stefan Osgood.
Ddirprwy Ganghellor, Is-ganghellor, ddarpar raddedigion, gyfeillion. Mae'n anrhydedd ac yn fraint cael dyfarnu Gradd Baglor yn y Gwyddorau er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth i Stefan Osgood.
Daeth Stefan Osgood, oedd yn wreiddiol o Wallasey ar y Wirral, i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2012, a threuliodd bedair blynedd yn byw, yn astudio ac yn gwneud argraff barhaol ar gymuned Prifysgol Aberystwyth. Roedd yn aelod teulu annwyl, cyfaill, cariad a chydweithiwr i lawer ohonom sydd yma heddiw, ond i'r rheiny ohonoch sy'n bresennol na chafodd o fraint o'i adnabod, dyma amlinelliad byr o'i gyfraniad i Brifysgol Aberystwyth, ac i'r gymuned.
Cynrychiolodd Stefan y Brifysgol yng nghamp Cleddyfa. Roedd yn gapten ar dîm cleddyfa'r dynion, gan gymryd rhan mewn tair cystadleuaeth Ryngolgampau, pedair blynedd o BUCS, tair cystadleuaeth Prifysgol Cymru yn ogystal â nifer o achlysuron eraill lle bu'n cynrychioli'r Brifysgol. Roedd hefyd yn weithgar mewn hyfforddi cleddyfwyr newydd, gan annog pawb i gyfranogi yn y gamp hyd eithaf eu gallu. Stefan oedd Is-lywydd AberSnow, gan eto gynrychioli'r Brifysgol gyda'r tîm Eirfyrddio yn y Rhyngolgampau ac ar lefel genedlaethol. Cyn iddo ddal y swydd hon, bu'n Ysgrifennydd Cymdeithasol AberSnow, lle bathodd yr ymadrodd "Snowcial" a gwneud i bawb deimlo bod croeso iddynt.
Roedd Stefan yn gyfranwr brwd at RAG, gan ddyfeisio digwyddiadau i godi arian yn ystod mis RAG a gydol y flwyddyn ar gyfer gwahanol elusennau, gan gynnwys MIND, elusen oedd yn agos iawn at ei galon, ac at y Brifysgol. Chwaraeodd ran frwdfrydig ym mywyd y Brifysgol, gan gynnig cyfeillgarwch, caredigrwydd a dogn iach o anarchiaeth i bawb a gyfarfu ag e. Fyddai e byth yn gadael i rywun eistedd ar ei ben ei hun, wedi'i ynysu. Byddai naill a'n datrys y broblem neu'n eistedd gyda'r unigolyn fel na fyddai ar ei ben ei hun.
Yn oriau mân fore Mercher 9fed Mawrth 2016, gwnaeth amdano'i hun, gan ildio o'r diwedd i'r salwch oedd wedi ei boeni, yn dawel a gydag urddas, ers blynyddoedd lawer. Ac yn achos unigolyn cyffredin, byddai ei gyfraniad yn dod i ben. Ond nid dyna'r achos. Yn dilyn ei farwolaeth, codwyd dros £10,000 ar gyfer MIND, ac mae'r swm hwnnw'n parhau i gynyddu. Mae ymgyrch Sanau Steffan, a ddechreuwyd yn ystod y Rhyngolgampau eleni i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, wedi cael ei mabwysiadu gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant, Clwb Rygbi Vikings Abertawe ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Lerpwl, ac mae'n parhau i ledaenu ar draws y wlad. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer Iechyd Meddwl ar bob lefel wedi ei gwella, a bydd yn parhau i gael ei gwella.
Dyfarnwyd Lliwiau Llawn y Brifysgol i Stefan am ei gyfraniad at Chwaraeon yn Aberystwyth, ac yn ychwanegol i'r Lliwiau, yn sgil nifer aruthrol o enwebiadau gan gorff y myfyrwyr, enwyd Stefan yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn. Dyma'r tro cyntaf yn hanes Undeb y Myfyrwyr i'r wobr hon gael ei chyflwyno ar ôl marwolaeth yr enillydd. Hefyd cyflwynwyd ef ag Aelodaeth Oes er Anrhydedd o Undeb y Myfyrwyr. Roedd Stefan yn aelod poblogaidd iawn o gorff y myfyrwyr. Mae rheswm da am hyn: roedd yn unigolyn caredig a thyner, oedd yn estyn ei law mewn cyfeillgarwch i bawb y cyfarfu â nhw. Maen nhw'n dweud bod y fflam fwyaf llachar yn llosgi allan ynghynt, ond yn achos y fflam lachar hon, gall mil o rai eraill barhau i losgi.
Ddirprwy Ganghellor, pleser o’r mwyaf yw gwahodd Heidi Moulton i dderbyn y Radd er Anrhydedd hon ar ran Stefan Osgood.