Pam dylwn i gofrestru i bleidleisio?

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi galw am Etholiad Cyffredinol, sydd i'w gynnal ar 8fed Mehefin 2017. Daeth hyn yn syndod i ni i gyd, gan adael myfyrwyr mewn sefyllfa anodd o ran dylanwadu ar faniffestos, cofrestru i bleidleisio a phleidleisio. Mae'n ddigon posib eich bod chi wedi blino ar etholiadau erbyn hyn;

laurenofficerblogwelshpresidentwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi galw am Etholiad Cyffredinol, sydd i'w gynnal ar 8fed Mehefin 2017. Daeth hyn yn syndod i ni i gyd, gan adael myfyrwyr mewn sefyllfa anodd o ran dylanwadu ar faniffestos, cofrestru i bleidleisio a phleidleisio. Mae'n ddigon posib eich bod chi wedi blino ar etholiadau erbyn hyn; cynhaliwyd etholiadau'r UM ym mis Mawrth, mae'n bur debyg bod eich clwb neu gymdeithas wedi ethol pwyllgor newydd yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, roedd etholiadau'r cynghorau lleol yr wythnos ddiwethaf a NAWR rydyn ni'n gofyn i chi gymryd rhan mewn etholiad cyffredinol.

Felly pam dylech chi fynd i'r drafferth o gofrestru i bleidleisio?

Mae llais myfyrwyr a phobl ifanc yn cael ei hepgor o benderfyniadau mawr sy'n effeithio ar ein gwlad dro ar ôl tro, fel y byddwch efallai wedi sylwi'r adeg hon llynedd. Dim ond 60% o bobl rhwng 18 a 24 oed oedd wedi cofrestru i bleidleisio, gymerodd ran yn y refferendwm ar yr UE, ond aeth 90% o'r rheiny oedd dros 50 oed ati i bleidleisio. Pleidleisiodd nifer helaeth o bobl ifanc (tua 70%) dros aros yn yr UE. Mewn gwirionedd, roedd y ganran o bobl ifanc oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn y refferendwm ar yr UE yn isel o gymharu â grwpiau oedran eraill. Golyga hyn bod llais pobl o oedran myfyrwyr arferol yn cael ei golli ymysg swn yr hen genhedlaeth.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae San Steffan wedi gwneud penderfyniadau sydd wedi cael effaith aruthrol ar fyfyrwyr - er enghraifft, cynyddu ffioedd dysgu, diddymu grantiau cynhaliaeth a thorri lwfans myfyrwyr anabl (LMA). Digwyddodd y pethau hyn oherwydd diffyg llais cryf gan bleidleisiwyr yn dweud bod y penderfyniadau hyn yn niweidiol i fyfyrwyr. Yn ddiweddar, mae'r llywodraeth wedi dweud y byddant yn gweithio tuag at ddiddymu ffioedd asiantaethau gosod eiddo, fydd yn ei gwneud yn llawer haws a fforddiadwy i fyfyrwyr yn eu hail neu drydedd flwyddyn i gael gafael ar dy, gan atal landlordiaid rhag blingo myfyrwyr am arian sydd ddim ganddyn nhw yn y lle cyntaf. Serch hynny, yn y cyfnod sy'n arwain at yr etholiad cyffredinol, gallai hwn fod yn un o'r amryw o addewidion a wnaed gan y llywodraeth a all fynd ar goll ym mhrysurdeb yr ymgyrch etholiadol.

Mae'r penderfyniadau a wneir ar lefel genedlaethol yn cael effaith gwirioneddol ar fyfyrwyr a phobl ifanc, a nawr yw'r amser y gall myfyrwyr helpu i lunio dyfodol ein gwlad. Mae'n gyfnod allweddol i fyfyrwyr, gyda marchnad swyddi gystadleuol iawn, newidiadau enfawr mewn addysg uwch, a'r farchnad dai'n anodd iawn cael mynediad iddi. Rydyn ni angen gweld polisïau sy'n mynd i roi ffydd i ni fod ein llywodraeth yn malio am fyfyrwyr a phobl ifanc.

Os ydych chi'n meddwl nawr "Mae'n annhebygol y byddaf yn mynd i'r drafferth o bleidleisio ar y diwrnod" mae hynny'n berffaith iawn! Mae gennych chi 4 wythnos gyfan i newid eich meddwl am fynd ati i bleidleisio, ond gallwch gofrestru nawr o'ch gliniadur neu ffôn, ble bynnag ydych chi, heb unrhyw ffwdan o gwbl. Hyd yn oed os ydych chi ond yn cofrestru, mae hyn yn gwneud datganiad ynddo'i hun i'r rheiny sy'n ymgeisio yn yr etholiad. Bydd ymgeiswyr yn lawrlwytho'r rhestr etholiadol yn rheolaidd yn ystod cyfnod yr etholiad er mwyn gwirio demograffeg y rheiny sydd wedi cofrestru. Os yw myfyrwyr yn cofrestru ac yn cael eu henwau ar y rhestr, bydd ymgeiswyr a phleidiau'n gweld yn ddigon buan ein bod ni'n grwp pwysig o ddarpar bleidleiswyr, a bod angen iddyn nhw ateb ein gofynion, a mynd ati i greu polisïau ac addewidion sy'n cwrdd â'n hanghenion. Felly, mynnwch fod eich enw ar y rhestr, er mwyn i bleidiau gwleidyddol ymrwymo i wella bywydau myfyrwyr.

Mae gennych chi tan hanner-nos ar 22ain Mai i gofrestru i bleidleisio. Gallwch wneud hynny ar-lein yma: https://www.gov.uk/register-to-vote, ac mae'r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os nad ydych chi'n sicr ble byddwch chi ar 8fed Mehefin, neu os ydych chi am ystyried ym mhle caiff eich pleidlais yr effaith fwyaf, gallwch gofrestru i bleidleisio  yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor a'ch cyfeiriad cartref, felly does dim esgus i'ch cerdyn pleidleisio fethu eich cyrraedd o fewn y 4 wythnos. Os ydych chi'n ddigon ffodus i fynd i ffwrdd ar wyliau yn syth ar ôl eich arholiadau, gallwch hefyd gofrestru ar gyfer pleidlais drwy'r post, sy'n golygu y gallwch bostio eich pleidlais cyn i chi adael y wlad. NEU os oes rhywbeth yn digwydd ar y funud olaf, a'i bod yn amhosib i chi gyrraedd yr orsaf bleidleisio, gallwch gael pleidlais ddirprwyol sy'n golygu y gall rhywun arall (y gallwch ymddiried ynddo i bleidleisio'r ffordd gywir) i bleidleisio ar eich rhan.

Ni allwn oddef gweld lleisiau ac anghenion myfyrwyr yn cael eu hanwybyddu ar adeg pan ei bod yn ymddangos bod popeth yn ein herbyn. Manteisiwch ar y cyfle hwn i ddylanwadu ar ein dyfodol, dylanwadu ar faniffestos y pleidiau a dangos i'r llywodraeth bod myfyrwyr yn malio am ein dyfodol, a'n bod yn haeddu cael ein lleisiau wedi'u clywed, cymaint â'r cenedlaethau sy'n hyn na ni.

Os ydych chi am gael sgwrs bellach am yr Etholiad Cyffredinol, neu ynglyn â chofrestru i bleidleisio (mae'n bur debyg nad ydych chi, ond mae'r cynnig yno) mae croeso i chi gysylltu â fi ar undeb.llywydd@aber.ac.uk neu gallwch alw heibio'r Undeb  - dwi wastad wrth fy modd cael cyfle i siarad am ddemocratiaeth a hawliau myfyrwyr.

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576