Neges hwyl fawr: Swyddog Materion Cymreig a Llywydd UMCA

Mae fy mlwyddyn fel Llywydd UMCA wedi gwirioneddol hedfan ers i mi ddechrau rhyw flwyddyn yn ôl. Dwi wir wedi mwynhau cynrychioli myfyrwyr Cymraeg ym mhob agwedd o’r brifysgol.

officerblogwelshrhunwelshWelshaffairs
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae fy mlwyddyn fel Llywydd UMCA wedi gwirioneddol hedfan ers i mi ddechrau rhyw flwyddyn yn ôl. Dwi wir wedi mwynhau cynrychioli myfyrwyr Cymraeg ym mhob agwedd o’r brifysgol. Mae’r amrywiaeth o brofiadau dwi wedi’u cael yn anhygoel, a bydd atgofion melys yn aros yn fy nghof. Un o fy atgofion oedd trefnu’r Ddawns Ryng-gol a chael y ddyletswydd o drefnu un o ddigwyddiadau cerddorol mwyaf y Sin Gymraeg. Ond bydd noswaith gynt yn aros hiraf yn fy nghof pan drefnais i’r noson lenyddol, Stomp. Roedd hi’n braf gweld cymaint yn mynychu ac yn mwynhau digwyddiad llenyddol, rhywbeth nad i’w weld yn aml ymysg pobl ifanc. Roedd Wythnos RAG hefyd yn rhywbeth bydda i’n ei chofio pan lwyddodd UMCA i godi dros £2,000 at Mind Aberystwyth

Dwi’n hapus fy mod wedi cyflawni nifer o bwyntiau fy maniffesto dros y flwyddyn. Yn amlwg roedd sicrhau bod y brifysgol yn cadw at amserlen Pantycelyn yn bwysig ond mae yna lawer i’w wneud o hyd i wireddu hynny. Dwi, yn bersonol, yn hynod o falch o lwyddiant fy ymgyrch LLEOL a oedd yn annog myfyrwyr i siopa gyda busnesau lleol. Fe gafodd lwyth o sylw yn y wasg ac mi oedd yn braf gweld y gymuned leol a’r campws yn cydweithio.

Er fy mod i’n gadael, mi fydd rhan ohonof wastad gydag UMCA a chymuned myfyrwyr Aberystwyth. Mi fyddaf yn cadw golwg ar ddatblygiadau ac yn gobeithio bydd yr undeb i ddal i esblygu gan roi myfyrwyr yn gyntaf ar bob un cyfryw. Diolch.

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576