Neges hwyl fawr: Llywydd

Dwi wedi mwynhau popeth am fod yn Swyddog Llawn-Amser yn UMAber. O ymgeisio yn yr etholiadau a mynd allan i siarad â llwyth o bobl na fydden i'n siarad â nhw fel arall, i gael cyfle i weithio'n glòs gyda'r Brifysgol ar faterion pwysig sy'n effeithio ar fyfyrwyr a chael ein llais wedi'i glywed ar lefel uchaf, mae popeth wedi bod yn wych.

laurenofficerblogwelshpresidentwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Beth wyt ti wedi ei fwynhau am fod yn Swyddog UMAber?

Dwi wedi mwynhau popeth am fod yn Swyddog Llawn-Amser yn UMAber. O ymgeisio yn yr etholiadau a mynd allan i siarad â llwyth o bobl na fydden i'n siarad â nhw fel arall, i gael cyfle i weithio'n glòs gyda'r Brifysgol ar faterion pwysig sy'n effeithio ar fyfyrwyr a chael ein llais wedi'i glywed ar lefel uchaf, mae popeth wedi bod yn wych. Heb amheuaeth, y peth gorau am fod yn Swyddog yw gweld y gwaith rydych chi'n ei wneud yn creu gwahaniaeth i fyfyrwyr yn Aberystwyth, does dim ots os yw'r gwahaniaeth hwnnw'n fawr neu'n fach, a gweld myfyrwyr hapus yn cael llwyth o gyfleoedd y buoch chi'n rhan o'u creu. Mae cael y cyfle i gynrychioli dros 8,500 o fyfyrwyr yn deimlad anhygoel, gwybod bod pobl yn ymddiried ynoch chi i fod yn llais ar eu rhan a sicrhau bod y dewisiadau cywir yn cael eu gwneud ar ran myfyrwyr. Does dim byd yn rhoi mwy o foddhad na hyn.

Beth yw dy 5 hoff atgof o’r flwyddyn?

Pam na allaf i ddewis fy holl atgofion? Fel y dwedais, mae popeth wedi bod yn anhygoel, ond os oes rhaid i mi ddewis y 5 gorau, dyma nhw...

  1. Lansio ymgyrch #SanauStefan, codi arian ar gyfer MIND Aberystwyth, a sicrhau fod Stefan Osgood yn derbyn gradd er anrhydedd.
  2. Mynychu Cynhadledd Genedlaethol UCM (a chynadleddau eraill) gan gynrychioli myfyrwyr Aberystwyth ar lefel genedlaethol, a chael fy ethol i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol UCM Cymru.
  3. Gweld 11 o Gymdeithasau a 3 Unigolyn yn cael eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cenedlaethol y Cymdeithasau, a gweld 2 Gymdeithas yn ennill eu categori, 1 Gymdeithas yn derbyn Cymeradwyaeth Uchel yn eu categori, ac 1 unigolyn yn ennill gwobr am Gyfraniad Unigol.
  4. Gweithio gyda Naomi ar nifer o fentrau llesiant megis Condomau a Thamponau Am Ddim, ein hymchwil i brofiadau myfyrwyr o wasanaethau iechyd lleol, a chreu Polisi Aflonyddu Rhywiol a Theclyn Reportio Ar-lein UMAber.
  5. Adeiladu undeb cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cynnydd yn y grant bloc, sicrhau cyllido CronfaAber ar gyfer amryw o brosiectau UMAber, ail-strwythuro'r staff, adolygiad o rôl y swyddogion, datblygu strategaeth newydd, recriwtio ymddiriedolwyr newydd a gwella'n gyffredinol y ffordd rydyn ni'n gweithio ar ran myfyrwyr.

Cyflawniad mwyaf y flwyddyn (neu'r hyn rwyt ti’n falch ohono)?

Dwi'n credu mai'r peth dwi'n teimlo balchaf ohono eleni yw UMAber yn derbyn Gwobr "Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn" a Gwobr "Cyfleoedd Myfyrwyr" yng Ngwobrau UCM Cymru 2017. Mae hyn yn deyrnged i'r holl waith eithriadol o galed a wneir gan y swyddogion, tîm y staff a'r myfyrwyr i wneud Aberystwyth yn lle gwych i fod, a gwneud UMAber y gorau i'n myfyrwyr drwy ddarparu cyfleoedd, helpu i greu newid a chynnig cymorth, sy'n cyfoethogi profiadau myfyrwyr ac yn helpu myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn llawn newidiadau, heriau a datblygiadau i UMAber, a dwi'n teimlo'n eithriadol o falch bod popeth rydyn ni wedi'i wneud yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol am fod y gorau y gallem ni fod wedi'i wneud ar ran ein myfyrwyr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Rydw i a'r holl dîm wedi gwneud ymdrech sylweddol y tu ôl i'r llenni i ddatblygu UMAber i fod yr hyn rydyn ni nawr. Dwi'n teimlo'n eithriadol o falch o fod yn Llywydd eleni, a gweld sut mae UMAber wedi tyfu i fod yn undeb ardderchog ar gyfer y dyfodol.

Neges hwyl fawr

Diolch i bawb ohonoch sydd wedi gwneud fy nwy flynedd fel Swyddog yn UMAber yn anhygoel! Yn arbennig pob myfyriwr sydd wedi ymwneud â'r undeb, rydych chi i gyd yn wych! Dymunaf bob llwyddiant i'n holl fyfyrwyr yn ystod eu blynyddoedd nesaf yn Aber, a llongyfarchiadau i bawb sy'n graddio eleni ac yn symud ymlaen i yrfaoedd disglair. Felly hwyl fawr (am y tro), ond mae Aber yn gartref i mi bellach, felly mae'n sicr y byddaf yn ôl i weld beth sy'n digwydd yn y dyfodol, a byddaf yn ceisio cyfranogi yng ngweithgareddau UMAber a'r Brifysgol mewn unrhyw ffordd y gallaf, os oes angen hynny. Felly beth ydw i'n mynd i'w wneud nesaf? Dwi'n symud ymlaen i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Geneteg Clefydau Dynol yng Ngholeg y Brifysgol Llundain (UCL) - felly os ydych chi byth yn yr ardal ac angen unrhyw beth, rydych chi'n gwybod ble bydda i! Byddaf yn sicr o fethu Aber ac UMAber, ond mae fy nghyfnod yma wedi fy mharatoi ar gyfer dyfodol disglair, a dwi'n eithriadol o ddiolchgar i bawb sydd wedi fy helpu ac wedi rhoi cymorth i mi ar hyd y daith.

Gyda chariad,

Lauren x

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576