Helo – dyma fy mlog cyntaf! Nid e-bost arferol gan eich swyddog sabothol sy'n sôn am “yr hyn wnes i'r wythnos hon” mo hwn, ond yn hytrach cyflwyniad i mi. Ond nid cyflwyniad arferol mo hwn chwaith.
Helo – dyma fy mlog cyntaf! Nid e-bost arferol gan eich swyddog sabothol sy'n sôn am “yr hyn wnes i'r wythnos hon” mo hwn, ond yn hytrach cyflwyniad i mi. Ond nid cyflwyniad arferol mo hwn chwaith. Gobeithio eich bod chi gyd wedi clywed am ein hymgyrch #SanauStefan ond os nad ydych chi wedi clywed amdani, cewch ddarllen mwy yma. Bwriad yr ymgyrch yw annog pobl i deimlo'n gyfforddus wrth siarad am eu hiechyd meddwl, gan obeithio rhoi diwedd ar y stigma. Yng ngoleuni hyn, dwi wedi penderfynu ei bod hi'n bryd i mi siarad. Wedi'r cyfan, buasai'n rhagrith llwyr fel Swyddog Lles os nad oeddwn i'n credu yn yr union bethau dwi'n eu hyrwyddo. Felly dyma ni… dwi'n dioddef o orbryder. Ac mae'n wirioneddol wael. A dwi heb gael diagnosis ohono chwaith. Pam? Oherwydd pan gefais i'r profiad cyntaf ohono yn 16 oed, roeddwn i'n ofni siarad am y peth. A phum mlynedd yn ddiweddarach, dwi'n dal i fod yn rhy ofnus. Dwi mor ofnus, dwi wedi llwyddo ei guddio rhag fy rhieni gydol y cyfnod, felly dad a mam, os ydych chi'n darllen hwn, mae'n ddrwg gen i am beidio gallu mynegi fy nheimladau.
Dwi'n eistedd yma'n ysgrifennu hwn am 11pm ar nos Fawrth a dwi newydd ddychwelyd adref o noson allan gyda chymdeithas dwi'n rhan ohoni. Dwi ddim wedi bod yn yfed, oherwydd dwi'n gwybod nad yw alcohol yn dda i fy ngorbryder, felly dwi'n ofalus pan dwi'n ei yfed, ond dwi yma yn ysgrifennu hwn yng nghanol pwl o banig. Byddech chi'n meddwl dylwn i fod yn iawn ar y noson dwi wedi ei chael, yn byddech? Es i allan yn gwisgo coron ddisglair gan sgwrsio a chwerthin gyda ffrindiau. Dyna'r peth am orbryder, nid yw'n beth hawdd ei ddeall. Mae'n anodd ei esbonio, ond mae fel llais tawel sy'n byw yng nghefn fy meddwl, ac mae'n codi a gostwng gydol y dydd ac yn codi'n ara' deg arnaf pan na fydda i'n ei ddisgwyl. Mae mor anodd ei drechu, a gan amlaf does dim syniad gen i beth sydd eisiau arno. Hyd yn oed pan mae'n dawel, dwi'n gwybod ei fod yn gallu sgrechian yn fy nghlust rywbryd eto.
Dwi wedi bod yn rhoi cynnig ar bethau newydd yn ddiweddar; dwi'n ceisio bod yn fwy gonest gyda fi fy hun ynglyn â sut dwi'n teimlo. Dwi'n gwybod mai bod yn onest yw'r unig ffordd dwi'n mynd i ddal ati. Y broblem yw ei bod hi mor hawdd i eraill ddweud wrthych eu bod nhw'n pryderu a'u bod nhw “wastad gerllaw os oes angen”, ond pan fyddan nhw'n gweld realiti eich salwch meddwl, byddan nhw'n rhedeg i ffwrdd. Byddan nhw'n rhedeg oherwydd nad ydyn nhw'n deall – a dyna'r stigma. Mae'r rheiny sydd ddim yn deall iechyd meddwl gwael yn ei ofni, a'r ofn hwnnw yw'r union beth sy'n achosi i ni deimlo cywilydd ynglyn â sut rydyn ni'n teimlo tu mewn i'n pennau. Yna, pan mae'r person yn rhedeg, mae fy ngorbryder yn dweud wrthyf fod y bai i gyd arna i, a dwi'n dechrau teimlo cywilydd o bwy ydw i. GAD I MI REDEG GYDA CHI. DWI DDIM AM FOD Y TU MEWN I FY MHEN I CHWAITH.
Dwi'n gwybod fy mod i'n mynd i ddihuno yfory a chasáu darllen hwn yn ôl. Pan na fydda i'n pryderu, dwi'n casáu'r person rydw i pan fydda i'n pryderu. Mae'n gylch cythreulig ac mae'n mynd i barhau am byth os nad ydyn ni'n sefyll yn gadarn. Felly Naomi di-bryder, os wyt ti'n darllen hwn, gad i'r byd ei ddarllen hefyd. Allwn ni ddim gadael i iechyd meddwl gwael ddiffinio'r hyn ydyn ni – mae mwy i mi na fy ngorbryder a fydda i ddim yn gadael iddo ennill. Os ydych chi'n ddigon ffodus i beidio byth cael profiad ohono, dwi'n erfyn arnoch chi i dreulio amser y ceisio ei ddeall. Dwi'n dysgu bod pobl allan yno, ymhlith y stigma, sy'n fodlon treulio amser yn rhoi cymorth i chi, boed y rheiny'n ffrindiau, yn deulu neu'n broffesiynwyr. Dwi'n hynod ddiolchgar i fy ffrindiau am ganiatáu i mi floeddio atyn nhw o bryd i'w gilydd, a hyd yn oed yn fwy diolchgar y treulion nhw amser yn deall fy mod i weithiau ddim yn iawn. Gadewch i ni sefyll gyda'n gilydd a brwydro yn erbyn iechyd meddwl gwael, oherwydd allwn ni ddim parhau i adael iddo ennill.